Dros y penwythnos bydd Pen-y-bont a Bae Colwyn yn ceisio cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD am y tro cyntaf yn eu hanes, ond bydd Y Bala a’r Seintiau Newydd yn gwneud eu gorau i rwystro hynny.
Mae Cymru wedi colli un safle’n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf, ac felly dim ond y ddau uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru ac enillwyr Cwpan Cymru fydd yn cynrychioli’r wlad yn Ewrop yr haf hwn.
Os bydd un o’r ddau uchaf yn y gynghrair yn ennill y gwpan hefyd, yna bydd y tîm sy’n gorffen yn 3ydd yn y tabl yn cymeryd y tocyn olaf i Ewrop.
Pen-y-bont v Y Bala | Nos Wener – 19:45 (Coedlan y Parc, Aberystwyth)
Mae Pen-y-bont wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes a bydd tîm Rhys Griffiths yn ysu i fynd gam ymhellach a chyrraedd y ffeinal.
Dyma’r pumed tro i’r Bala gyrraedd y rownd gynderfynol a bydd criw Colin Caton yn gobeithio efelychu eu campau yn 2017, pan aethon nhw ymlaen i guro’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol.
Mae’r timau wedi cyfarfod ddwywaith y tymor yma, ac ar ôl gem gyfartal 2-2 ym Maes Tegid ar y penwythnos agoriadol, Pen-y-bont enillodd 1-0 yn Stadiwm Gwydr SDM ym mis Hydref.
Mae Pen-y-bont wedi trechu Gwndy, Cambrian a Clydach, Caernarfon a Ffynnon Taf yng Nghwpan Cymru eleni, tra bod Y Bala wedi rhoi crasfa o 17-1 i Brymbo yn y drydedd rownd cyn curo Pontypridd, Hwlffordd ac Aberystwyth.
Y Seintiau Newydd v Bae Colwyn | Dydd Sul – 14:15 (Belle Vue, Y Rhyl)
Ar ôl selio’r bencampwriaeth am y tro cyntaf ers tair blynedd bydd Anthony Limbrick yn anelu am y dwbl yn ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr y tîm o Groesoswallt.
Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol y cwpan ar ôl ennill y gystadleuaeth am y seithfed tro yn eu hanes yn 2018/19, sef y tro diwethaf i’r gystadleuaeth gyrraedd ei therfyn.
Bae Colwyn achosodd y sioc fawr yn y rownd ddiwethaf, yn curo Cei Connah yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy gan sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth am y pedwerydd tro yn eu hanes (1930, 1983, 1992, 2022).
Chwaraeodd rheolwr Bae Colwyn, Steve Evans dros 250 o gemau i’r Seintiau Newydd gan ennill Cwpan Cymru dair gwaith fel chwaraewr ac unwaith fel is-reolwr.
Dyw’r Seintiau Newydd heb ildio gôl wrth drechu Llanrwst, Conwy, Caerfyrddin a Chegidfa yn y gwpan eleni tra bod Bae Colwyn wedi curo Gresffordd, Rhuthun, Met Caerdydd a Chei Connah.
Dyw’r Gwylanod erioed wedi llwyddo i gamu ‘mlaen i’r rownd derfynol ond ar ôl curo dau o dimau’r uwch gynghrair yn barod, pwy a wyr os all y tîm sy’n 5ed yng nghynghrair y Cymru North JD achosi sioc arall ddydd Sul.
Bydd y ddwy gêm i’w gweld yn fyw ar Sgorio ac uchafbwyntiau ar gael ar ein gwefannau cymdeithasol.