Brynhawn Sul bydd tlws cynta’r tymor yn cael ei godi, ond a’i Met Caerdydd neu Cei Connah fydd yn cael eu dwylo ar Gwpan Nathaniel MG.
Y myfyrwyr a’r Nomadiaid ydi’r ddau glwb diwethaf i ennill y gwpan, felly bydd y timau yn fwy na pharod am yr achlysur.
Dydd Sul, 6 Chwefror
Met Caerdydd v Cei Connah | Dydd Sul – 2.00 (Stadiwm Gwydr SDM, Pen-y-bont)
Gan i’r gystadleuaeth gael ei diddymu’r tymor diwethaf oherwydd Covid-19, mae Cei Connah yn parhau i fod yn ddeiliaid ar y cwpan ar ôl codi’r tlws yn 2020 yn dilyn eu buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn STM Sports yn y rownd derfynol.
Dyna’r tro cyntaf i Gei Connah ennill Cwpan y Gynghrair ers tymor 1995/96 pan enillon nhw’r gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes.
Met Caerdydd oedd yr enillwyr yn 2018/19, yn curo Cambrian a Clydach o 2-0 i sicrhau un o brif dlysau Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae Met Caerdydd wedi cyrraedd y rownd derfynol am y trydydd tro mewn pedwar cynnig a byddai’r Dr Christian Edwards wrth ei fodd o ychwanegu at ei gasgliad o lwyddiannau yn ei dymor olaf wrth y llyw.
Enillodd Craig Harrison 13 o dlysau yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Y Seintiau Newydd yn cynnwys Cwpan y Gynghrair ar dri achlysur, ond mae bron i bum mlynedd ers iddo flasu llwyddiant fel rheolwr ac felly bydd yn ysu i gael ei ddwylo ar ei dlws cyntaf ers cael ei benodi’n fos ar y Nomadiaid yn Hydref 2021.
Mae’n gaddo i fod yn frwydr agos gan fod y ddwy gêm gynghrair rhwng y timau’r tymor hwn wedi gorffen yn gyfartal.
Mae Cei Connah wedi curo Llandudno, Airbus UK, Treffynnon a’r Bala i gyrraedd y rownd derfynol eleni, tra bod Met Caerdydd wedi trechu Rhydaman, Aberystwyth, Hwlffordd a’r Barri.
Bydd hi’n dipyn o daith i’r Nomadiaid ar gyfer y gêm ym Mhen-y-bont, ond ar ôl codi tlws y cynghrair yno lai na blwyddyn yn ôl bydd yr atgofion melys yn siwr o wneud y siwrne yn un brafiach.
Gallwch wylio’r cyfan yn fyw ar S4C neu arlein gyda’r darllediad yn dechrau am 1.45 brynhawn Sul.