S4C

Navigation

Dydd Sadwrn, 20 Ionawr – Parc Jenner, Y Barri 

Y Seintiau Newydd v Abertawe dan 21 | Dydd Sadwrn – 17:30 (S4C) 

Nos Sadwrn bydd clwb mwyaf llwyddiannus Cwpan Cynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd yn wynebu tîm ieuenctid Abertawe, fydd yn gobeithio codi’r tlws am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan y Gynghrair (neu Cwpan Nathaniel MG) ar naw achlysur, yn cynnwys rhediad o 19 buddugoliaeth yn olynol yn y gystadleuaeth rhwng 2014 a 2018, ond dyw cewri Croesoswallt heb godi’r tlws ers tymor 2017/18. 

Cyn dechrau’r tymor hwn doedd y Seintiau heb ennill gêm yn y gystadleuaeth ers Hydref 2018, gan golli bedair gwaith yn olynol (vs Cambrian a Clydach, Bangor, Penrhyncoch a Cei Connah). 

Ers eu llwyddiant diwethaf yn 2018, Met Caerdydd (18/19), Cei Connah (19/20 a 21/22), a’r Bala (22/23) sydd wedi cael eu dwylo ar y cwpan (dim cystadleuaeth yn 20/21 oherwydd Covid). 

Ond bellach, mae’r Seintiau yn ôl i’w hen arferion ar ôl curo Cei Connah, Porthmadog, Gresffordd a Chegidfa i gyrraedd y rownd derfynol eleni. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi mynd ar rediad o 32 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2017, ac wedi ennill 24 gêm yn olynol gan dorri 15 pwynt yn glir o Gei Connah ar frig y gynghrair. 

Yn ogystal â sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG, mae’r Seintiau hefyd wedi camu ymlaen i bedwaredd rownd Cwpan Cymru ac i rownd gynderfynol Cwpan Her yr Alban. 

Dyma rediad gorau’r clwb o Groesoswallt ers Awst 2016 i Chwefror 2017 (31 gêm heb golli), ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol. 

Bydd criw Craig Harrison yn benderfynol o dorri’r record hwnnw, ac i guro eu rhediad blaenorol o 39 gêm gystadleuol heb golli rhwng Awst 2014 ac Ebrill 2015. 

Am y tro cyntaf eleni fe wahoddwyd timau dan 21 Abertawe a Chaerdydd i gystadlu yng Nghwpan Nathaniel MG, ac mae’r Elyrch wedi disgleirio’n y gystadleuaeth gan gyrraedd y rownd derfynol ar y cynnig cyntaf. 

Mae’r Elyrch ifanc wedi curo Caerfyrddin, Caerau Trelai, Caerdydd d21, Llansawel a Met Caerdydd i gyrraedd y rownd derfynol, gan ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn Caerdydd d21 a Met Caerdydd.  

Mae Abertawe dan 21 yn cystadlu yn y Gynghrair Datblygu Broffesiynol (Professional Development League), sef yr ail haen ar gyfer timau ieuenctid, ac mae’r garfan yn mwynhau tymor llwyddiannus ac yn eistedd yn ail yn nhabl y de y tu ôl i Bournemouth dan 21. 

Bydd hi’n her wahanol i’r arfer i’r ddau glwb wrth i’r Seintiau Newydd wynebu tîm llawn amser am y tro cyntaf ers curo tîm ieuenctid Hibernian ym mis Awst, ac Abertawe dan 21 yn amlwg yn herio chwaraewyr fydd dipyn yn hŷn ac yn fwy profiadol. 

Fe wnaeth Y Seintiau Newydd groesawu tîm cyntaf Abertawe i Groesoswallt yn rownd gynderfynol yr ‘FAW Premier Cup’ yn 2004/05, ac ar ôl gêm gyfartal 1-1 yr Elyrch oedd yn fuddugol ar giciau o’r smotyn yn y pen draw gyda Steve Evans a Michael Wilde yn methu a churo Brian Murphy o 12 llath.  

Ond mae hynny’n hen hanes bellach, ac mi fydd hi’n stori wahanol yn erbyn y bechgyn ifanc fydd yn ceisio achosi sioc a rhwystro’r Seintiau Newydd rhag cael gafael ar y cwpan am y 10fed tro yn eu hanes. 

Yr holl gyffro’n fyw ar S4C am 5:15 yng nghwmni Dylan Ebenezer, Sioned Dafydd, Owain Tudur Jones, Nic Parry ac Emlyn Lewis. 

 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?