Brynhawn Sadwrn bydd tlws cynta’r tymor yn cael ei godi ar Y Graig, ond i’r Bala yntau Cei Connah fydd yn cael eu dwylo ar Gwpan Nathaniel MG.
Dydd Sadwrn, 28 Ionawr
Y Bala v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 12:45
Mae’n gaddo i fod yn gêm agos a chyffrous ar Y Graig yng Nghefn Mawr brynhawn Sadwrn rhwng dau o glybiau cryfaf y Cymru Premier JD.
Fe gafodd Neil Gibson y dechrau delfrydol i’w gyfnod fel rheolwr Cei Connah pan enillon nhw ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Seintiau Newydd yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG ar 6 Awst, 2021 yn ei gêm gystadleuol gyntaf wrth y llyw.
Wedi hynny aeth y Nomadiaid ymlaen i yrru Treffynnon, Rhuthun a Ffynnon Taf allan o’r cwpan, ac mae carfan Glannau Dyfrdwy bellach ar rediad anhygoel o 21 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 16, cyfartal 5).
Cei Connah yw deiliaid presennol Cwpan Nathaniel MG ar ôl ennill y gystadleuaeth y tymor diwethaf, ac hynny ar ôl rownd epig o giciau o’r smotyn yn erbyn Met Caerdydd.
Gorffennodd hi’n ddi-sgôr rhwng Cei Connah a Met Caerdydd yn y rownd derfynol llynedd, ond roedd angen 24 o giciau o’r smotyn i wahanu’r ddau dîm gyda’r Nomadiaid yn fuddugol o 10-9 yn y pen draw.
Cei Connah oedd yr enillwyr yn nhymor 2019/20 hefyd ar ôl curo STM Sports o 3-0 yn y rownd derfynol, a gan i’r gystadleuaeth gael ei gohirio yn 2020/21 oherwydd Covid-19 mae’r Nomadiaid felly yn anelu i ennill y cwpan am y trydydd tro’n olynol.
Dyw’r Bala, ar y llaw arall, erioed wedi codi’r cwpan, ar ôl colli yn eu dau ymddangosiad blaenorol yn y rownd derfynol yn erbyn Caerfyrddin yn 2013/14 ac Y Seintiau Newydd yn 2014/15.
Cei Connah yw’r unig dîm i guro’r Bala yng Nghwpan Nathaniel MG ers 2017, gyda’r Nomadiaid yn gyrru’r Bala allan o’r gystadleuaeth yn rownd wyth olaf 2018/19, ac yna yn y rownd gynderfynol ddwywaith yn olynol yn 2019/20 a 2021/22 (dim cystadleuaeth yn 2020/21).
Mae’r Bala wedi trechu Y Waun, Caernarfon, Gresffordd a Met Caerdydd i gyrraedd y rownd derfynol eleni, a dyma gyfle cyntaf y clwb i godi un o brif dlysau Cymru ers eu prynhawn cofiadwy ym Mangor ym mis Mai 2017 pan guron nhw Y Seintiau Newydd a chodi Cwpan Cymru JD am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae Cei Connah ar rediad o bedair gêm heb golli yn erbyn Y Bala ac ond wedi ildio unwaith yn y gemau rheiny (ennill 3, cyfartal 1), felly bydd y fantais seicolegol gan y tîm sy’n 2il yn y tabl, bedwar pwynt uwchben Y Bala.
Dyw’r Nomadiaid heb ildio ers dros fis gan gadw pum llechen lân yn olynol, ond dyw’r Bala’n sicr ddim yn brin o hyder chwaith ar ôl ennill saith o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Mi fydd hi’n frwydr a hanner a bydd y cyfan yn fyw ar S4C am 12.15 yng nghwmni Dylan Ebenezer, Sioned Dafydd, Nic Parry, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.