S4C

Navigation

Mae’n benwythnos rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD a bydd pump o glybiau’r uwch gynghrair a thri chlwb o’r ail haen yn cystadlu am le yn y rownd gynderfynol. 

 

Dydd Sadwrn, 4 Chwefror 

Cei Connah v Airbus UK | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Bydd gêm ddarbi Sir y Fflint yn cael ei chynnal yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy wrth i’r clwb sy’n 2il yn yr uwch gynghrair groesawu’r tîm sydd ar waelod y tabl. 

 

Bydd hi’n gyfle i Gei Connah roi siom yr wythnos ddiwethaf y tu ôl iddyn nhw gan i rediad y Nomadiaid o 21 gêm heb golli ddod i ben yn erbyn Y Bala yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ddydd Sadwrn, cyn colli eto nos Fawrth mewn gêm gynghrair yn erbyn Hwlffordd. 

 

Mae Cwpan Cymru wedi rhoi rheswm prin i Airbus gael dathlu eleni gyda’u hunig buddugoliaethau y tymor yma yn dod yn y gystadleuaeth hon yn erbyn Queen’s Park, Trefelin a Phontardawe. 

 

Enillodd Cei Connah y gystadleuaeth yma yn 2018, ac ar ôl curo Dinbych, Bae Colwyn a Llanelli mae’r Nomadiaid wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf eleni am yr wythfed tymor yn olynol. 

 

Unwaith yn unig mae Airbus wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol, ac hynny yn 2015/16 pan gollon nhw 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y Cae Ras. 

 

Dydd Calan 2016 oedd y tro diwethaf i Airbus guro’r Nomadiaid (Air 3-2 Cei), ond ers y gêm honno mae Cei Connah wedi ennill 12 yn olynol yn erbyn eu cymdogion o Frychdyn. 

 

Er hynny, Cei Connah yw’r clwb i sgorio’r nifer lleiaf o goliau yn erbyn Airbus yn eu dwy gêm gynghrair yn rhan gynta’r tymor (3). 

 

Dyma’r tro cyntaf i’r clybiau gyfarfod yng Nghwpan Cymru ers i Gei Connah ennill 3-2 wedi amser ychwanegol yn y drydedd rownd ‘nôl yn nhymor 2009/10. 

 

Cwmbrân Celtaidd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Cwmbrân Celtaidd yw’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, yn 10fed yn y Cymru South JD ac yn wynebu cewri’r uwch gynghrair, Y Seintiau Newydd. 

 

Mae Cwmbrân wedi hawlio eu lle yn rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers tymor 2015/16 ar ôl trechu Rhydaman, Llanilltud Fawr, Caerfyrddin a Penydarren yn y gystadleuaeth eleni. 

 

Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol Cwpan Cymru ar ôl codi’r tlws am yr wythfed tro yn eu hanes y tymor diwethaf yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Pen-y-bont yn Stadiwm Dinas Caerdydd.  

 

Ers eu colled yn erbyn Dundee yng Nghwpan Her yr Alban ym mis Medi, dyw’r Seintiau Newydd heb golli mewn 19 o gemau ym mhob cystadleuaeth (ennill 17, cyfartal 2), yn cynnwys eu buddugoliaethau yn erbyn Y Waun, Caernarfon a’r Drenewydd yng Nghwpan Cymru. 

 

Mae’r Seintiau wedi gorffen rhan gynta’r tymor 16 pwynt yn glir o’r gweddill gan dorri’r record am y nifer fwyaf o goliau a sgorwyd (83) a’r nifer lleiaf o goliau a ildwyd (8) ar yr hollt. 

 

Ond nid Y Seintiau yw’r unig glwb sydd wedi bod yn tanio o flaen gôl yn ddiweddar gan fod Cwmbrân wedi rhwydo 33 o goliau yn eu 10 gêm ddiwethaf (3.3 gôl y gêm). 

 

Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y ddau glwb ers i’r Seintiau ennill 0-3 ar Barc Celtaidd ym mis Rhagfyr 2018 yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru 2018/19 diolch i hatric gan Chris Seargeant, ac ers y diwrnod hwnnw mae’r Seintiau ar rediad arbennig o 17 buddugoliaeth yn olynol yn y gwpan. 

 

Y Bala v Llansawel | Dydd Sadwrn – 14:00 

 

Ar ôl curo Croesyceiliog, Yr Wyddgrug a Bwcle, mae Llansawel wedi llwyddo i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers i’r clwb gael ei ffurfio yn 2009. 

 

Mae Llansawel yn 2il yn nghynghrair y Cymru South JD ac yn awyddus i achosi sioc ar Faes Tegid ddydd Sadwrn. 

 

Ond mae gan Y Bala record gartref ragorol gyda 11 buddugoliaeth a 10 llechen lân yn eu 14 gêm ddiwethaf ar Faes Tegid ym mhob cystadleuaeth. 

 

Ar 30 Ebrill 2017, fe sicrhaodd Y Bala eu buddugoliaeth fwyaf cofiadwy gan drechu’r Seintiau Newydd o 2-1 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn Nantporth, Bangor gan godi’r tlws am yr unig dro yn eu hanes. 

 

Mae’r Bala wedi curo Penarlâg, Y Fflint a Pontypridd yng Nghwpan Cymru y tymor yma, ac ar ôl codi Cwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf mae Hogiau’r Llyn yn anelu am y dwbl eleni. 

 

Dydd Sul, 5 Chwefror 

Pen-y-bont v Treffynnon | Dydd Sul – 12:45 

 

Ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor diwethaf, bydd Pen-y-bont yn gobeithio mynd gam ymhellach eleni a chodi’r tlws. 

Mae bechgyn Rhys Griffiths wedi ennill wyth o’u naw gêm ddiwethaf yng Nghwpan Cymru gyda’r unig golled yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol llynedd (Pen 2-3 YSN). 

Mae Pen-y-bont wedi ennill pum gêm yn olynol, wedi cadw naw llechen lân yn eu 12 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ac yn benderfynol o gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf erioed. 

Hon fydd gêm gartref gyntaf Pen-y-bont yn y gwpan y tymor yma yn dilyn eu buddugoliaethau yn Rhisga, Conwy a Gresffordd yn yr ail, trydedd a’r bedwaredd rownd. 

Ond hon fydd yr her anoddaf hyd yma, yn erbyn Treffynnon sy’n 2il yn y Cymru North JD ar ôl ennill 15 gêm gynghrair yn olynol. 

 

Mae Treffynnon wedi ennill oddi cartref yn Llanuwchllyn, Hakin Utd a Chegidfa yn y gwpan eleni, a bydd tîm Johnny Haseldin yn awyddus i ail-adrodd campau 2013/14 pan lwyddon nhw i gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Aberystwyth.  

 

 Bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?