Mae’n benwythnos ola’r tymor arferol ac bydd naill ai Cei Connah neu’r Seintiau Newydd yn codi tlws y Cymru Premier JD brynhawn Sadwrn.
Mae tîm Andy Morrison ddau bwynt uwch ben Y Seintiau Newydd ac mi fyddai buddugoliaeth ym Mhen-y-bont yn sicrhau’r bencampwriaeth i’r Nomadiaid.
Bydd y ddwy gêm allweddol yn cael eu dangos yn fyw gan Sgorio – Pen-y-bont v Cei Connah yn fyw ar S4C am 11.45 a’r Seintiau Newydd v Y Bala’n fyw ar dudalen Facebook a YouTube Sgorio, cic gyntaf am 12.00.
CHWECH UCHAF
Pen-y-bont (4ydd) v Cei Connah (1af) | Dydd Sadwrn – 12:00
Mae Cei Connah o fewn trwch blewyn i ennill y gynghrair am yr ail dymor yn olynol – curo Pen-y-bont a bydd y Nomadiaid yn dal eu gafael ar y bencampwriaeth.
Haws dweud na gwneud yn erbyn Pen-y-bont – dim ond un o’u pedair gêm diwethaf mae Cei Connah wedi eu hennill yn erbyn tîm Rhys Griffiths, gan sgorio dim ond unwaith yn ystod y pedair gêm hynny.
Ers colli gartref o ddwy gôl i ddim yn erbyn Pen-y-bont fis diwethaf, dim ond un o’u wyth gêm ddiwethaf mae Cei Connah wedi colli (yn erbyn Y Bala).
Mae record oddi cartref Cei Connah yn gadarn y tymor hwn – dim ond dwywaith mae’r Nomadiaid wedi colli tu allan i Lannau Dyfrdwy yn y gynghrair.
Mae Pen-y-bont wedi sicrhau’r 4ydd safle ac wedi cyrraedd y gemau ail gyfle am y tro cyntaf yn eu hanes. Bydd hogiau Rhys Griffiths yn croesawu Robiniaid Y Drenewydd i Stadiwm Gwydr SDM y penwythnos nesaf.
Canlyniadau tymor yma: Cei Connah 1-0 Pen-y-bont, Pen-y-bont 0-0 Cei Connah, Cei Connah 0-2 Pen-y-bont
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅✅➖❌❌
Cei Connah: ✅❌➖✅✅
Y Seintiau Newydd (2il) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:00
Mae tynged Y Seintiau Newydd allan o’u dwylo eu hunain – mae’n rhaid i dîm Anthony Limbrick guro’r Bala a gobeithio y gall Pen-y-bont gipio pwyntiau oddi ar Gei Connah i ennill y gynghrair.
Os yw’r Seintiau’n aflwyddiannus brynhawn Sadwrn, yna bydd cewri Croesoswallt yn methu ag ennill y gynghrair am yr ail dymor yn olynol. Dyw hynny heb ddigwydd ers i Lanelli ennill y gynghrair yn 2008 a’r Rhyl yn 2009.
Mae record Y Seintiau Newydd ar Neuadd y Parc yn erbyn Y Bala yn un arbennig – dyw’r Seintiau heb golli gartref erioed yn erbyn criw Colin Caton.
Mae’r Bala wedi gorffen y tymor yn gryf ac wedi ennill chwech o’u wyth gêm ddiwethaf.
Er y siom o fod 16 pwynt tu ôl i Gei Connah ar frig y tabl, bydd Y Bala’n gorffen y tymor yn 3ydd ac yn cyrraedd Ewrop am y chweched tro mewn saith tymor – tipyn o gamp.
Canlyniadau tymor yma: Y Bala 1-1 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 0-0 Y Bala, Y Bala 0-1 Y Seintiau Newydd
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ❌➖➖✅✅
Y Bala: ✅✅✅❌✅
Y Barri (5ed) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 12:00
Bydd y gêm yma’n rhagolwg diddorol i’r penwythnos nesaf lle bydd y ddau dîm yn mynd benben unwaith yn rhagor yn y gemau ail gyfle, sy’n debygol iawn o fod ar Barc Jenner.
Mae’r Barri wedi gorffen y tymor un safle’n uwch na’r y Cofis yn y Chwech Uchaf yn y ddau dymor diwethaf.
Enillodd Caernarfon o 5-0 ar Barc Jenner yn 2004, ond ers eu dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair yn 2018 dyw’r Cofis heb ennill yn eu pum gêm oddi cartref yn erbyn Y Barri (colli 3, cyfartal 2).
Mae’r ddau dîm wedi ei chael hi’n anodd ers i bêl-droed ddychwelyd yng Nghymru ym mis Mawrth – y Cofis wedi ennill un o’u deg gêm ddiwethaf, tra bod Y Barri heb ennill dim un o’u wyth gêm diwethaf – rhediad gwaethaf y clwb yn y gynghrair ers syrthio yn 2003/04.
Canlyniadau tymor yma: Y Barri 3-1 Caernarfon, Caernarfon 2-0 Y Barri, Caernarfon 0-1 Y Barri
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌❌❌❌
Caernarfon: ❌➖➖✅❌
CHWECH ISAF
Hwlffordd (9fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 12:00
Ar ôl gorffen yn y 7fed safle ar yr hollt gydag wyth pwynt o fwlch rhyngddyn nhw a’r 8fed safle, mae ail ran y tymor wedi bod yn hynod o siomedig i Hwlffordd.
Mae rhediad gwael o un fuddugoliaeth mewn deg gêm wedi gweld yr Adar Gleision yn syrthio i’r 9fed safle.
Serch hynny, mae gan Hwlffordd gyfle i orffen y tymor ar nodyn positif yn erbyn tîm Derwyddon Cefn sydd wedi colli pob un o’u wyth gêm ddiwethaf.
Mae’r Hynafiaid yn dioddef ar hyn o bryd ac wedi ildio o leiaf pum gôl yn eu pum gêm ddiwethaf.
Hwlffordd yw’r unig glwb yn y gynghrair sydd heb ennill yn erbyn y Derwyddon y tymor hwn.
Mae’r Derwyddon wedi ennill saith pwynt o’u tair gêm yn erbyn Hwlffordd y tymor yma, sef 44% o’u cyfanswm pwyntiau (7/16).
Er hynny, dyw’r Derwyddon heb ennill ar Ddôl y Bont ers 2006.
Canlyniadau tymor yma: Hwlffordd 1-1 Derwyddon Cefn, Derwyddon Cefn 4-1 Hwlffordd, Derwyddon Cefn 2-1 Hwlffordd
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖❌❌➖❌
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌
Met Caerdydd (8fed) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 12:00
Ar ôl dechrau araf i ran cynta’r tymor, mae Myfyrwyr y Met wedi codi’r safon yn ddiweddar.
Mae tîm Christian Edwards ar rediad o wyth gêm heb golli ac wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn y gynghrair.
Mae’r gwrthwynebwyr, Y Fflint, hefyd wedi dangos eu doniau yn ddiweddar gan golli dim ond dwy o’u deg gêm ddiwethaf ac os yw canlyniadau’n mynd o’u plaid, fe allai tîm Neil Gibson godi uwchben Hwlffordd a gorffen y tymor yn y 9fed safle.
Y Fflint yw’r unig glwb y llwyddodd Met Caerdydd i’w curo ddwywaith yn rhan gynta’r tymor, ond fe gafodd tîm Neil Gibson ddial wedi’r hollt gan ennill 2-0 ar Gae y Castell ym mis Mawrth.
Canlyniadau tymor yma: Met Caerdydd 2-1 Y Fflint, Y Fflint 0-1 Met Caerdydd, Y Fflint 2-0 Met Caerdydd
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖✅✅✅✅
Y Fflint: ➖❌✅✅➖
Y Drenewydd (7fed) v Aberystwyth (11fed) | Dydd Sadwrn – 12:00
Mae Robiniaid Y Drenewydd yn hedfan ar ôl selio’r 7fed safle a lle yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Tipyn o wrthgyferbyniad i Aberystwyth – tîm sy’n debygol o orffen yn y ddau isaf am y tro cyntaf erioed yn yr Uwch Gynghrair.
Dim ond un fuddugoliaeth sydd gan Aberystwyth yn eu 14 gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Y Drenewydd.
Canlyniadau tymor yma: Y Drenewydd 1-1 Aberystwyth, Aberystwyth 1-0 Y Drenewydd, Aberystwyth 1-2 Y Drenewydd
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅✅✅❌✅
Aberystwyth: ➖✅❌➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30.