S4C

Navigation

 

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi brynhawn Iau bod Pontypridd wedi bod yn llwyddiannus yn eu hapel i gael trwydded i chwarae yn y Cymru Premier JD, ac felly mi fyddan nhw’n esgyn i’r uwch gynghrair y tymor nesaf gan gymeryd lle’r Barri fydd yn syrthio i’r ail haen. 

Llanilltud Fawr sydd wedi ennill pencampwriaeth y Cymru South JD, ond mae nhw wedi wedi methu sicrhau trwydded i chwarae’n y brif adran, gan ddod y 7fed clwb mewn 11 tymor i ennill Cynghrair y De a pheidio cael codi i’r uwch gynghrair.  

Mae’n benwythnos ola’r tymor yn y Cymru Premier JD a gyda’r safleoedd pwysig bob pen y tabl eisoes wedi eu cadarnhau mae’r sylw rwan yn troi at y ras am y 7fed safle i gadarnhau pwy fydd yn cyrraedd y gemau ail gyfle. 

 

CHWECH UCHAF 

Y Bala (2il) v Pen-y-bont (6ed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Mae’r Bala wedi sicrhau eu lle yn Ewrop am yr wythfed tro ers 2013 ar ôl selio’r ail safle gyda buddguoliaeth yn erbyn Caernarfon ar ddydd Llun y Pasg (Cfon 0-2 Bala). 

Dyma’r trydydd tro i’r Bala orffen yn yr ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru, a’r tro cyntaf ers tymor 2015/16 yn dilyn rhediad rhagorol gan y clwb ers mis Rhagfyr gyda tîm Colin Caton yn colli dim ond un o’u 16 gêm gynghrair ddiwethaf (ennill 10, cyfartal 5). 

Fe ddechreuodd Y Bala ail ran y tymor ddau bwynt o dan Pen-y-bont oedd yn ail ar y pryd, ond bellach mae’r Bala 16 pwynt uwchben hogiau Rhys Griffiths. 

Mae Pen-y-bont wedi colli chwe gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair, ond mae yna dal obaith o gyrraedd Ewrop drwy lwybr Cwpan Cymru. 

Bydd rhaid i hogiau Rhys Griffiths guro Y Seintiau Newydd am y tro cyntaf erioed yn rownd derfynol Cwpan Cymru yr wythnos nesaf i gael gwireddu’r freuddwyd o chwarae’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Enillodd Pen-y-bont ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru eleni, ond fe dalodd Hogiau’r Llyn y pwyth yn ôl gan ennill 5-0 oddi cartref yn Stadiwm Gwydr SDM dair wythnos yn ôl gyda Will Evans yn taro hatric i’r Bala. 

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖✅✅✅
Pen-y-bont: ❌❌❌❌❌

 

Y Fflint (5ed) v Y Drenewydd (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Dyw’r freuddwyd Ewropeaidd ddim ar ben i’r Drenewydd ond mae eu tynged yn nwylo’r Seintiau Newydd, gan y byddai buddugoliaeth i’r Seintiau yn rownd derfynol Cwpan Cymru wythnos nesaf yn golygu y byddai’r Drenewydd yn cael y tocyn olaf i Ewrop, gan bod cewri Croesoswallt eisoes wedi cadarnhau eu lle’n Ewrop trwy ennill y bencampwriaeth. 

Bydd Y Fflint yn anelu i orffen y tymor yn y 4ydd safle am y tro cyntaf ers 1993/94, sef eu safle uchaf erioed yn y gynghrair, tra bod Y Drenewydd yn sicr o orffen yn 3ydd – eu safle gorau ers 1997/98. 

Mae’r Drenewydd wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint, ond tîm Neil Gibson oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r timau gwrdd ar Gae-y-Castell (Fflint 4-1 Dre). 

Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌❌❌✅
Y Drenewydd: ✅✅✅❌❌
 

Y Seintiau Newydd (1af) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Bydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio gorffen y tymor yn gryf, a byddai triphwynt yn codi eu cyfanswm i 80 o bwyntiau am y tro cyntaf ers 2016/17. 

Mae Caernarfon yn anelu i ddod yn hafal â’u record am y safle uchaf erioed yn y gynghrair (4ydd yn 1996/97 a 2018/19). 

Dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 6, cyfartal 1), ac mae tîm Anthony Limbrick wedi sgorio 12 gôl mewn tair gêm yn erbyn y Cofis y tymor hwn gyda 10 sgoriwr gwahanol yn taro cefn y rhwyd i’r Seintiau (YSN 5-3 Cfon, Cfon 0-4 YSN, Cfon 0-3 YSN). 

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅➖✅✅✅
Caernarfon: ❌✅❌✅❌

 

CHWECH ISAF 

Aberystwyth (8fed) v Cei Connah (10fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Ar ôl achub eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf mae sylw clybiau’r Chwech Isaf yn troi at geisio sicrhau’r 7fed safle a lle yn y gemau ail gyfle. 

Bydd enillwyr y gemau ail gyfle eleni yn cael lle yng nghystadleuaeth Cwpan Her yr Alban, a gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu pedwar o glybiau’r Chwech Isaf mae hi’n mynd i fod yn brynhawn cyffrous i Met Caerdydd, Aberystwyth, Hwlffordd a Chei Connah yng ngêm ola’r tymor cyffredin. 

Mae Aberystwyth yn dechrau’r penwythnos yn hafal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd (7fed), tra bod Cei Connah ddau bwynt o dan y clybiau rheiny. 

Byddai’n rhaid i’r gêm rhwng Hwlffordd a Met Caerdydd orffen yn gyfartal i Gei Connah allu dringo i’r 7fed safle ar y penwythnos olaf. 

Dyw’r Nomadiaid heb golli dim un o’u 10 gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth (ennill 9, cyfartal 1). 

Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌✅➖✅✅
Cei Connah: ✅✅➖✅✅
 

Derwyddon Cefn (12fed) v Y Barri (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Wedi pum tymor yn ôl yn yr uwch gynghrair, daeth cadarnhad ddydd Iau bod Y Barri am syrthio ‘nôl i’r ail haen ar ôl i Bontypridd ennill eu hapel i gael trwydded i chwarae yn y Cymru Premier JD. 

Roedd Y Barri wedi brwydro’n galed i fynd ar rediad o dair gêm heb golli ar ddechrau’r mis, ond wedi dwy golled yn olynol yn erbyn Hwlffordd ac Aberystwyth dros y Pasg mae’r Dreigiau yn sicr o orffen yn yr 11eg safle. 

Gyda dim ond chwe phwynt y tymor yma bydd rhaid i’r Derwyddon ennill brynhawn Sadwrn os am beidio a thorri record eu hunain fel y tîm gwaethaf yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru. 

Lido Afan sydd â’r record waethaf ers ffurfio’r 12 Disglair (15 pwynt mewn 32 gêm yn 2013/14), ond y cyfanswm isaf erioed ydi naw pwynt ac hynny gan Bae Cemaes yn 1997/98 (38 gêm) a Derwyddon Cefn yn 2009/10 (34 gêm). 

Bydd Gavin Chesterfield yn ffyddiog o orffen y tymor gyda buddugoliaeth gan i’r Dreigiau ennill naw o’u 10 gêm flaenorol yn erbyn y Derwyddon. 

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌
Y Barri: ✅✅➖❌❌
 

Hwlffordd (9fed) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Wedi 13 o flynyddoedd wrth y llyw yng Nghampws Cyncoed hon fydd gêm gynghrair olaf Christian Edwards fel rheolwr Met Caerdydd. 

Chwaraeodd Edwards dros 100 o gemau i Abertawe a threulio cyfnodau gyda Nottingham Forest a Bristol Rovers cyn troi at hyfforddi. 

Mae Met Caerdydd wedi llwyddo i ennill tri dyrchafiad dan arweiniad Christian Edwards, a bydd yn benderfynol o selio’r 7fed safle er mwyn sicrhau o leiaf un gêm arall gyda’r myfyrwyr. 

Mae Hwlffordd hefyd yn llygadu’r 7fed safle, a byddai hynny’n golygu eu bod yn cyrraedd eu safle uchaf ers 2008/09. 

Ond mae record Met Caerdydd yn erbyn yr Adar Gleision yn un cadarn, gyda’r clwb o’r brifysgol ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd (ennill 4, cyfartal 1). 

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌❌✅✅❌
Met Caerdydd: ✅❌➖❌✅
 

 

Bydd holl uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?