S4C

Navigation

Ar y penwythnos olaf cyn yr hollt yn y gynghrair mae’n ras dri cheffyl rhwng Caernarfon, Hwlffordd a Phen-y-bont i sicrhau’r safle olaf yn y Chwech Uchaf. 

 Nos Sadwrn bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy ac am weddill y tymor bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bydd timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp. 

 Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Y Bala, Y Drenewydd a Met Caerdydd eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr hanner uchaf am yr ail dymor yn olynol, ac mae Caernarfon yn dechrau’r penwythnos yn y 6ed safle, ddau bwynt uwchben Hwlffordd. 

 Bydd yna newid mawr yn Y Drenewydd ar gyfer ail ran y tymor gan iddyn nhw gyhoeddi’r wythnos hon bod eu rheolwr Chris Hughes wedi gadael y clwb ar ôl degawd wrth y llyw ar Barc Latham. 

 Chris Hughes yw’r ail reolwr i adael ei rôl y mis yma yn dilyn ymadawiad Andrew Stokes a gamodd i lawr fel rheolwr Pontypridd yr wythnos diwethaf. 

 

 

Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 

 

Met Caerdydd (5ed) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C) 

Mae’r dasg yn un syml i Gaernarfon, ennill ac mi fyddan nhw’n sicr o hawlio’r safle olaf yn y Chwech Uchaf. 

Ond, byddai colled neu gêm gyfartal yn agor y drws i Hwlffordd neu Pen-y-bont gael manteisio a chodi uwch eu pennau. 

Roedd y Cofis wedi llwyddo i gyrraedd y Chwech Uchaf am bedair blynedd yn olynol cyn methu a chyrraedd y nod y tymor diwethaf gan orffen yr ymgyrch yn y 9fed safle, dim ond pedwar pwynt uwchben y ddau isaf. 

Ond mae tîm Richard Davies wedi codi’r safon eleni, a gyda’r enwau newydd yn serennu ers ymuno dros yr haf mae’r Caneris yn ffefrynnau i gipio’r tocyn olaf i’r Chwech Uchaf. 

Mae Met Caerdydd wedi cadarnhau eu lle yn yr hanner uchaf am yr ail dymor yn olynol, ond mae criw Ryan Jenkins mewn cyfnod anodd ar ôl dioddef eu colled drymaf erioed yn y gynghrair o 8-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd y penwythnos diwethaf. 

Dyna’r bedwaredd gêm yn olynol i Met Caerdydd fethu a sgorio (colli 3, cyfartal 1), felly bydd angen troi’r gornel yn sydyn os am gystadlu gyda’r goreuon yn ail ran y tymor. 

Enillodd Caernarfon o 5-1 yn erbyn Met Caerdydd yn gynharach yn y tymor wrth i Sion Bradley daro hatric ar yr Oval, ac mae gan y Cofis record ryfeddol yn erbyn y myfyrwyr gan eu bod wedi ennill bob un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn clwb y brifysgol gan gadw pum llechen lân. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ❌➖❌✅✅ 

Caernarfon: ✅❌❌✅➖ 

 

Hwlffordd (7fed) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Hwlffordd yw bygythiad mwyaf Caernarfon am le yn y Chwech Uchaf, gan y byddai buddugoliaeth iddyn nhw yn erbyn Y Bala yn gallu eu codi i’r hanner uchaf pe bae’r Cofis yn baglu. 

Dyw Hwlffordd heb fod yn yr hanner uchaf drwy gydol y tymor, felly fe fyddai’n dipyn o gamp pe bae tîm Tony Pennock yn gallu codi uwchben Caernarfon ar y penwythnos olaf cyn yr hollt. 

Tydi’r Adar Gleision heb orffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle gyda dim ond Y Seintiau Newydd, Y Rhyl a Bangor yn gorffen uwch eu pennau y flwyddyn honno. 

Ond ar ôl colli dim ond un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs YSN) mae gan Hwlffordd gyfle i’w gwneud hi eleni, ond bydd angen ffafr gan Met Caerdydd os am ddringo uwchben y Cofis. 

Mae’r Bala wedi llwyddo i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y 10fed tymor yn olynol, a bydd Colin Caton yn hynod falch gyda safle presennol y clwb ar ôl gwneud sawl newid mawr i’r garfan dros yr haf. 

Dyw’r Bala ond wedi colli unwaith yn eu naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 6, cyfartal 2), ac felly bydd yr hyder yn uchel wrth baratoi at ail ran y tymor. 

Y Bala oedd yn fuddugol o 2-0 yn y gêm gyfatebol ym mis Hydref dioch i ddwy gôl George Newell, a nhw fydd y ffefrynnau eto ddydd Sadwrn gan nad yw criw Colin Caton wedi colli yn eu saith gêm flaenorol yn erbyn Hwlffordd (ennill 4, cyfartal 3). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ͏➖✅❌✅➖ 

Y Bala: ✅✅❌✅➖ 

 

Pen-y-bont (8fed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Mae Pen-y-bont wedi derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys, ac felly wedi syrthio i’r 8fed safle. 

Er hynny, mae Pen-y-bont yn debygol o apelio’r penderfyniad a pe bae eu hapêl yn llwyddiannus fe allen nhw ddringo i’r Chwech Uchaf os aiff canlyniadau eraill o’u plaid. 

Dyma’r ail dymor yn olynol i Ben-y-bont dorri rheolau’r gynghrair a cholli pwyntiau oherwydd hynny, ond fe lwyddon nhw i orffen yn 3ydd a chyrraedd Ewrop llynedd er gwaetha’r triphwynt o gosb. 

Tydi hi heb fod yn dymor da i Ben-y-bont a fyddai’n bendant wedi disgwyl cyrraedd y Chwech Uchaf yn dilyn eu llwyddiannau y tymor diwethaf, ond mae llygedyn bach o obaith ar ôl wedi dwy fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn Met Caerdydd a Pontypridd. 

Ar ôl colli’n drwm yn erbyn Y Seintiau Newydd yn eu gêm ddiwethaf mae Cei Connah bellach 15 pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, ac felly gorffen yn ail ydi’r targed realistig i’r Nomadiaid sydd 10 pwynt uwchben Y Bala (3ydd) gyda 11 gêm ar ôl yn y tymor. 

Mae’r ystadegau benben yn sicr ar ochr Cei Connah gan eu bod eisoes wedi curo Pen-y-bont o 4-2 yn gynharach y tymor hwn, ac heb golli mewn wyth gêm yn erbyn tîm Rhys Griffiths. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ✅✅❌❌➖ 

Cei Connah: ❌✅✅✅✅ 

 

Aberystwyth (10fed) v Y Barri (9fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Roedd hi’n fuddugoliaeth allweddol i Aberystwyth yn erbyn Bae Colwyn y penwythnos diwethaf (Aber 1-0 Bae) gyda’r Gwyrdd a’r Duon yn camu uwchben y Gwylanod ac allan o safleoedd y cwymp. 

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Aberystwyth gartref yn y gynghrair ers mis Ebrill pan enillon nhw yn erbyn Caernarfon ar benwythnos ola’r tymor i sicrhau eu bod yn aros yn yr uwch gynghrair. 

Achosodd Y Barri dipyn o sioc y penwythnos diwethaf hefyd gan iddyn nhw drechu’r Drenewydd o 4-0 i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf gartref yn y gynghrair ers mis Hydref. 

Un safle a phum pwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm sydd yn eistedd uwchben y ddau isaf a bydd y ddau glwb yn gweld hon fel gêm hollbwysig yn y frwydr i osgoi’r cwymp. 

Roedd peniad hwyr Mark Cadwallader yn ddigon i ennill y gêm gyfatebol i Aberystwyth yn erbyn Y Barri ar Barc Jenner ym mis Tachwedd (Barr 0-1 Aber), a dyw’r Gwyrdd a’r Duon heb golli dim un o’u chwe gornest flaenorol yn erbyn y Dreigiau (ennill 5, cyfartal 1). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ͏✅➖❌❌❌ 

Y Barri: ✅➖❌❌➖ 

 

Bae Colwyn (11eg) v Pontypridd (12fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Mae Pontypridd yn paratoi am eu gêm gyntaf ers ymadawiad y rheolwr Andrew Stokes a gyhoeddodd ei fod wedi camu lawr o’i rôl yr wythnos diwethaf. 

Roedd Stokes wedi arwain Pontypridd i’r 8fed safle llynedd yn eu tymor cyntaf yn yr uwch gynghrair, ond wedi problemau oddi ar y cae a arweiniodd at gosb o chwe phwynt i’r clwb mae’r rheolwr wedi penderfynu camu o’r neilltu. 

Mae Bae Colwyn wedi syrthio’n ôl i’r ddau safle isaf yn dilyn eu colled siomedig yn erbyn 10-dyn Aberystwyth y penwythnos diwethaf. 

Pontypridd ydi’r unig dîm sy’n îs yn y tabl na Bae Colwyn, ac hynny gan iddyn nhw dderbyn chwe phwynt o gosb ym mis Rhagfyr am dorri rheolau’r gynghrair. 

Pontypridd sydd â’r record ymosodol waethaf yn y gynghrair ar ôl sgorio dim ond 10 gôl mewn 21 gêm hyd yn hyn, ond mi fydd hi’n gyfle i glwb y Rhondda ychwanegu at eu cyfanswm gan mae Bae Colwyn sydd â’r record amddiffynnol waethaf yn y gynghrair. 

Mae Bae Colwyn wedi colli eu pum gêm gynghrair ddiwethaf, a dyw Pontypridd heb ennill gêm gynghrair oddi cartref ers mis Awst (vs Aberystwyth). 

Enillodd Bae Colwyn o 3-0 yn y gêm gyfatebol ym Mhontypridd, sef buddugoliaeth fwya’r Gwylanod yn y gynghrair ers eu dyrchafiad dros yr haf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ❌❌❌❌❌ 

Pontypridd: ❌✅❌❌❌ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Drenewydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Wedi degawd wrth y llyw ar Barc Latham mae Chris Hughes wedi gadael Y Drenewydd ar ôl arwain y clwb i Ewrop ar dri achlysur. 

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf eleni am y seithfed tro dan ofal Chris Hughes, ond bydd angen i’r Robinaid benodi rheolwr arall ar gyfer ail ran y tymor i gymryd lle y gŵr 44 oed o Ddinbych. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi mynd ar rediad o 31 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2017, ac wedi ennill 23 yn olynol gan dorri 15 pwynt yn glir o Gei Connah ar frig y gynghrair. 

Yn ogystal â hedfan i frig y tabl, mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ac wedi camu ymlaen i bedwaredd rownd Cwpan Cymru ac i rownd gynderfynol Cwpan Her yr Alban. 

Dyma rediad gorau’r clwb o Groesoswallt ers Awst 2016 i Chwefror 2017 (31 gêm heb golli), ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol. 

Bydd criw Craig Harrison yn benderfynol o dorri record eu hunain, ac i guro eu record blaenorol o 39 gêm gystadleuol heb golli rhwng Awst 2014 ac Ebrill 2015. 

Y Drenewydd oedd yn cadw’r pwysau ar Gei Connah yn y ras am yr ail safle, ond ar ôl tair colled yn olynol mae’r Robiniaid wedi llithro a bellach mae 11 pwynt yn eu gwahanu nhw a’r safle awtomatig i Ewrop. 

Sgoriodd Josh Daniels a Ben Clark i sicrhau buddugoliaeth o 2-0 i’r Seintiau Newydd ar Barc Latham ym mis Tachwedd ac mae’r pencampwyr wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd gan sgorio 19 o goliau (3.8 gôl y gêm) ac ildio dim ond unwaith mewn saith gêm. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

Y Drenewydd: ❌❌❌✅✅ 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun am 9:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?