Bydd Y Barri a Cei Connah yn cwrdd ar Barc Jenner brynhawn Sadwrn gyda’r cyfan yn fyw ar S4C am 17:00.
Nos Wener, 16 Hydref
Aberystwyth v Y Seintiau Newydd | Nos Wener – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd yn benderfynol i adennill tlws y cynghrair ac ar ôl ennill eu saith gêm agoriadol gan sgorio 26 gôl a pheidio ildio unwaith mae tîm Scott Ruscoe yn sicr ar y trywydd cywir.
Dyw Aberystwyth ond wedi ennill un o’u 30 gêm ddiwethaf yn erbyn y Seintiau, ac ar ôl ildio pum gôl yn erbyn Y Bala ddydd Sadwrn diwethaf mae hi am fod yn her i hogiau Gavin Allen nos Wener.
Mae’r Seintiau wedi cadw saith llechen lân yn olynol yn y gynghrair am y tro cyntaf ers 13 o flynyddoedd, a gan gofio bod criw Croesoswallt wedi sgorio 10 gôl ar eu hymweliad diwethaf â Choedlan y Parc (Aber 1-10 YSN), bydd angen i Aber fod ar eu gorau os am osgoi crasfa arall y penwythnos yma.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ➖❌❌✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Dydd Sadwrn, 17 Hydref
Derwyddon Cefn v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd ‘na ryddhad i Bruno Lopes nos Wener diwethaf wrth i’r Derwyddon sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o dan arweiniad y gŵr o Bortiwgal, ac hynny oddi cartref yng Nghaernarfon.
Bydd Pen-y-bont yn gobeithio am ymateb ar ôl colli’n drwm yn erbyn y Seintiau (0-4), ond mae tîm Rhys Griffiths yn parhau i fod yn y Chwech Uchaf, a’r nod bydd dal eu tir yno tan yr hollt.
Pen-y-bont oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r timau gwrdd – Kane Owen yn sgorio cic rydd hwyr i gipio’r triphwynt mewn gêm gyffrous ar y Graig ‘nôl ym mis Ionawr (Cefn 2-3 Pen).
Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ➖❌❌❌✅
Pen-y-bont: ❌✅✅✅❌
Hwlffordd v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae gan Hwlffordd gyfle i godi uwchben Caernarfon heno gyda’r posibilrwydd o ddringo i’r Chwech Uchaf.
Dyw Hwlffordd heb orffen yn uwch na’r 12fed safle yn Uwch Gynghrair Cymru ers gorffen yn 7fed yn 2008/09 pan oedd 18 clwb yn y gynghrair.
Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y timau ers 2009, a dyw Hwlffordd heb golli dim un o’u 14 gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis (ers Chwefror 2002).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌❌✅❌✅
Caernarfon: ❌✅✅❌❌
Met Caerdydd v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:30
Gêm fawr tua’r gwaelod rhwng dau dîm sydd wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf ac wedi cael trafferth sgorio y tymor yma (5 gôl yr un yn y gynghrair).
Ar ôl curo Aberystwyth ar y penwythnos agoriadol mae Met Caerdydd wedi mynd ar rediad truenus o saith gêm heb ennill.
Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y clybiau, a dyma’r tro cyntaf i’r Fflint orfod teithio i dde Cymru ar gyfer gêm o bêl-droed ers Chwefror 2013 pan guron nhw Caerau Trelai yng Nghwpan Cymru.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖❌❌❌❌
Y Fflint: ✅❌❌❌❌
Y Drenewydd v Y Bala | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Drenewydd wedi cael dechrau digon diflas i’r tymor gan ennill dim ond un o’u wyth gêm agoriadol.
Bydd Y Bala yn llawn hyder ar ôl taro naw gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf gyda’r capten Chris Venables yn rhwydo pump o rheiny.
Y Bala sydd wedi cael y gorau o’r gemau rhwng y ddau dîm yn ddiweddar gan ennill 5 o’u 7 diwethaf yn erbyn y Robiniaid (cyfartal 1, colli 1).
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖✅❌❌➖
Y Bala: ✅✅❌✅✅
Y Barri v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Bydd Cei Connah dal yn brifo ar ôl colli yn erbyn y Seintiau nos Fawrth gan lithro oddi ar y copa.
Ond mi fydd Y Barri’n benderfynol o osgoi cweir arall ar ôl colli 4-0 ar Faes Tegid nos Fercher.
Dyw’r Nomadiaid heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri, gan ennill y dair ddiwethaf heb ildio.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅✅✅➖❌
Cei Connah: ✅✅✅✅❌