Pedair rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt i’r rhan fwyaf o glybiau’r uwch gynghrair ac mae’r cyffro’n cynyddu yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf.
Roedd yna fuddugoliaethau allweddol i Met Caerdydd a Chaernarfon y penwythnos diwethaf sy’n golygu bod Y Bala, Cei Connah a’r Drenewydd yn parhau yn yr hanner isaf.
31 o bwyntiau yw’r swm arferol sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf ac mae tri clwb eisoes wedi pasio’r targed hwnnw (Pen-y-bont, YSN, Met Caerdydd).
Ond wedi dweud hynny, mae hi’n eithriadol o dynn yng nghanol y tabl, ac mae’n debygol y bydd angen mwy na 31 o bwyntiau i gyrraedd y nod eleni.
34 pwynt yw’r nifer uchaf sydd wedi bod ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf (Y Bala yn 2018/19) a 27 pwynt oedd y nifer lleiaf (Port Talbot yn 2010/11), ond ar gyfartaledd, 31 pwynt ydi’r swm cyffredinol.
Byddai buddugoliaethau i Gaernarfon a’r Barri ddydd Sadwrn yn eu codi i 31 o bwyntiau, tra bydd Y Seintiau Newydd yn anelu i gau’r bwlch ar y brig.
Dydd Sadwrn, 21 Rhagfyr
Aberystwyth (12fed) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae gan Antonio Corbisiero dasg anferthol o’i flaen os am osgoi gweld Aberystwyth yn syrthio allan o Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf erioed.
Mae’r Gwyrdd a’r Duon ar waelod y tabl ar ôl colli 78% o’u gemau cynghrair y tymor hwn, a bydd angen cau’r bwlch o saith pwynt sydd rhyngddyn nhw â’r Fflint (10fed) os am gadw eu statws fel clwb sydd wedi bod yn holl-bresennol ers ffurfio’r gynghrair.
Hyd yma, mae Aberystwyth wedi colli o 3-0 yn eu dwy gêm gynghrair ers i Corbisiero ddychwelyd i gymryd yr awennau (vs Met a’r Fflint), ond hon fydd ei gêm gynghrair gyntaf gartref ar Goedlan y Parc, ble enillodd Aber yn erbyn Caerdydd ar giciau o’r smotyn yn erbyn Caerdydd yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.
Mae Caernarfon wedi codi ‘nôl i’r hanner uchaf ar ôl curo 10-dyn Y Barri brynhawn Sadwrn, sy’n golygu bod y Cofis m’ond wedi colli un o’u pum gêm ddiwethaf (vs Pen-y-bont).
Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf ym mhump o’u chwe tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, ac ar ôl chwarae’n Ewrop dros yr haf bydd Richard Davies yn benderfynol o gyrraedd y Chwech Uchaf eto eleni er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’w garfan gamu i Ewrop unwaith eto.
Roedd hi’n fuddugoliaeth ryfeddol i Aberystwyth o 4-1 oddi cartref yn erbyn Caernarfon ym mis Hydref gyda Niall Flint yn sgorio o’r cylch canol i griw Ceredigion.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏❌❌✅❌❌
Caernarfon: ➖❌✅➖✅
Gemau cyn yr hollt:
Aberystwyth: Bala (c), Hwl (oc), Llan (c)
Caernarfon: YSN (c), Bala (oc), Fflint (c)
Y Bala (7fed) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae gan criw Colin Caton waith i’w wneud os am hawlio eu safle ymysg yr elît unwaith eto eleni.
Gormod o gemau cyfartal yw prif broblem Y Bala eleni gan bod 10 o’u 18 gêm gynghrair wedi gorffen yn gyfartal, yn cynnwys gemau oddi cartref yn Llansawel, Y Fflint a’r Drenewydd ble byddai’r Bala wedi disgwyl gadael gyda’r triphwynt.
Ond ar y llaw arall, mae Gwŷr Gwynedd wedi curo’r pencampwyr ddwywaith gan ddod y clwb cyntaf erioed i wneud y dwbl dros Y Seintiau Newydd yn rhan gynta’r tymor yn y Cymru Premier JD.
Ond ddydd Sadwrn diwethaf fe darodd yr hen felltith unwaith eto, wrth i’r Bala fel sawl clwb arall eleni fethu ac ennill eu gêm ganlynol ar ôl curo’r Seintiau (Pen-y-bont – curo’r Seintiau yna colli vs Llansawel, Y Bala – curo’r Seintiau yna cyfartal vs Llansawel, Caernarfon – curo’r Seintiau yna colli vs Drenewydd, Llansawel – curo’r Seintiau yna colli vs Fflint, Y Bala – curo’r Seintiau yna colli vs Caerau Trelai).
Ildiodd Y Bala unig gôl y gêm yn y funud olaf yn erbyn Caerau Trelai ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD, wrth i’r clwb o’r ail haen gamu i rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes.
Honno oedd dim ond ail golled Y Bala mewn 14 gêm oddi cartref ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn, gyda’r unig golled arall yn dod yng Nghwpan Nathaniel MG yn erbyn Y Seintiau Newydd (ennill 2, cyfartal 10).
Byddai triphwynt i’r Bala brynhawn Sadwrn yn eu codi uwchben Y Barri ar wahaniaeth goliau yn dilyn colled y Dreigiau yng Nghaernarfon y penwythnos diwethaf.
Mae’r Barri wedi ennill pump o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf ac yn anelu i hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21.
Gorffennodd hi’n gyfartal 1-1 yn yr ornest rhwng y ddau dîm ar Barc Jenner ar benwythnos agoriadol y tymor, a dyw’r Barri heb ennill ar Faes Tegid ers Ebrill 2019 (Bala 2-5 Barr).
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖➖➖➖✅
Y Barri: ✅❌✅✅❌
Gemau cyn yr hollt:
Y Bala: Aber (oc), Cfon (c), Cei (oc)
Y Barri: Pen (c), Llan (oc), Hwl (c)
Dydd Sul, 22 Rhagfyr
Y Seintiau Newydd (2il) v Llansawel (11eg) | Dydd Sul – 14:30
Am y tro cyntaf ers tymor 2018/19 nid Y Seintiau Newydd fydd ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru dros y Nadolig.
Ar ddydd Nadolig 2018 roedd Y Seintiau Newydd yn y 3ydd safle, bum pwynt y tu ôl i Gei Connah ar y brig (Y Barri yn 2il), ond fe lwyddodd cewri Croesoswallt i frwydro ‘nôl yn ail ran y tymor gan ennill y bencampwriaeth 12 pwynt yn glir o’r Nomadiaid yn y pen draw.
Mae’r Seintiau wedi colli pum gêm gynghrair am y tro cyntaf ers tymor 2019/20 pan orffennon nhw’n ail y tu ôl i Gei Connah, ond pe bae’r pencampwyr yn ennill eu gêm wrth gefn y penwythnos hwn yna dim ond un pwynt fydd rhyngddyn nhw â’r ceffylau blaen, Pen-y-bont.
Does dim un clwb wedi ennill pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru ar ôl colli pum gêm neu fwy ers i Bangor wneud hynny yn nhymor cynta’r 12 Disglair yn 2010/11.
Dyw Llansawel heb chwarae ers tair wythnos pan enillon nhw yn hwyr yn erbyn Y Drenewydd i sicrhau eu hail buddugoliaeth yn olynol gartref ar yr Hen Heol.
Ond dyw’r Cochion m’ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair oddi cartref a cholli’r chwech arall, gyda’r unig fuddugoliaeth yn dod ym Mhen-y-bont ym mis Medi.
Roedd hi’n noson arbennig i Lansawel yn eu gêm gyfatebol yn erbyn y pencampwyr fis diwethaf gyda’r Cochion yn synnu’r Seintiau gan ennill o 3-1 ar ôl sgorio deirgwaith yn yr hanner cyntaf ar yr Hen Heol.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅❌✅❌
Llansawel: ✅❌✅❌✅
Gemau cyn yr hollt:
Y Seintiau Newydd: Cfon (oc), Cei (c), Dre (c), Met (oc)
Llansawel: Met (oc), Barri (c), Hwl (oc), Aber (oc)
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.