S4C

Navigation

Wedi sawl gohiriad dros yr wythnosau diwethaf oherwydd y tywydd garw mae dwy gêm gynghrair wedi eu hail-drefnu ar gyfer y penwythnos hwn. 

Dim ond llond llaw o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair a does dim ond pum pwynt yn gwahanu’r pum clwb rhwng y 4ydd a’r 8fed safle. 

31 o bwyntiau yw’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, ac mae Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd wedi hen basio’r targed hwnnw. 

Byddai buddugoliaethau i Met Caerdydd a’r Barri brynhawn Sadwrn yn eu codi i 31 o bwyntiau, ond bydd Caernarfon yn benderfynol o ddringo ‘nôl i’r hanner uchaf. 

A tua’r gwaelod mae gan Y Fflint gyfle i godi o’r tri safle isaf am y tro cyntaf y tymor hwn. 

 

Dydd Sadwrn, 14 Rhagfyr 

Caernarfon (7fed) v Y Barri (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl buddugoliaeth wych o 2-1 yn erbyn Met Caerdydd yng nghanol wythnos mae’r Barri wedi dychwelyd i’r hanner uchaf, ac mae tîm Steve Jenkins mewn safle addawol i hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21. 

Mae’r Barri yn mwynhau cyfnod campus ar ôl ennill chwech o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf, a dim ond y ddau uchaf (Pen-y-bont ac YSN) sydd wedi llwyddo i guro’r Dreigiau’n y gynghrair ers mis Awst. 

Fel arfer, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i gyrraedd yr hanner uchaf ar yr hollt, a gyda phum gêm yn weddill dyw’r Barri m’ond driphwynt yn brin o’r targed hwnnw. 

Mae Caernarfon chwe phwynt yn brin o’r nod ac heb fod ar eu gorau yn ddiweddar, yn ennill dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (0-1 vs Llansawel). 

A dyw’r Cofis heb fod yn tanio ar yr Oval eleni gyda charfan Richard Davies yn ennill dim ond dwy o’u wyth gêm gartref y tymor hwn. 

Cyfartal 1-1 oedd hi’n y gêm gyfatebol ar Barc Jenner ym mis Medi ar ôl i Louis Lloyd a Sam Snaith sgorio yn y 10 munud agoriadol. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ❌➖❌✅➖
Y Barri: ✅✅❌✅✅ 

 

Gemau cyn yr hollt: 

Caernarfon: Aber (oc), YSN (c), Bala (oc), Fflint (c)
Y Barri: Bala (oc), Pen (c), Llan (oc), Hwl (c) 

 

Met Caerdydd (4ydd) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Met Caerdydd yn anelu i sicrhau lle yn yr hanner uchaf am y trydydd tymor o’r bron, a byddai triphwynt i’r myfyrwyr brynhawn Sadwrn yn eu codi i 31 o bwyntiau, sef y swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

Mae tîm Ryan Jenkins wedi chwarae 10 gêm gartref ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn gan golli dim ond ddwywaith (ennill 4, cyfartal 4). 

Ond bydd Y Fflint yn ffyddiog o’u gallu i gael canlyniad ar Gampws Cyncoed, gan i’r Sidanwyr ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn y ddau glwb sy’n brwydro yn eu herbyn ar waelod y tabl (Llansawel ac Aberystwyth). 

Bydd Lee Fowler yn gobeithio gall hogiau Cae-y-Castell ei gwneud hi’n dair buddugoliaeth yn olynol yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Awst 2021 a dringo allan o’r tri isaf am y tro cyntaf y tymor hwn. 

Enillodd Met Caerdydd o 2-1 ar eu hymweliad â’r Fflint ar benwythnos agoriadol y tymor gyda Dixon Kabongo a Sam Jones yn taro i’r myfyrwyr. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏ ✅❌➖✅❌ 

Y Fflint: ͏❌❌❌✅✅ 

 

Gemau cyn yr hollt: 

Met Caerdydd: Llan (c), Pen (oc), YSN (c)
Y Fflint: Cei (oc), Dre (c), Cfon (oc) 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun. 

 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?