S4C

Navigation

Dim ond llond llaw o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair a does dim ond dau bwynt yn gwahanu’r pedwar clwb rhwng y 5ed a’r 8fed safle. 

Mae Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd eisoes wedi selio eu lle yn y Chwech Uchaf, a dyw Hwlffordd na Met Caerdydd ddim rhy bell ar eu holau. 

Bydd hi’n frwydr hollbwysig ar Faes Tegid nos Sadwrn rhwng Y Bala a’r Barri, sef dau glwb sy’n hafal ar bwyntiau yng nghanol y tabl. 

 

Nos Wener, 6 Rhagfyr 

Hwlffordd (3ydd) v Llansawel (11eg) | Nos Wener – 19:45  

Roedd hi’n noson rwystredig i Hwlffordd nos Fawrth, yn colli o 1-0 yn erbyn Pen-y-bont am y pedwerydd tro yn 2024, ac roedd Tony Pennock yn hynod feirniadol o’r tîm dyfarnu oedd wedi gwrthod gôl i’r Adar Gleision a gyrru’r amddiffynnwr Luke Tabone oddi ar y cae. 

Er hynny, mae Hwlffordd yn parhau i fod mewn safle cryf i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm gan nad yw’r Adar Gleision wedi gorffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle. 

31 o bwyntiau ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai pwynt i Hwlffordd nos Wener yn ddigon i gyrraedd y targed hwnnw. 

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 9 gôl mewn 18 gêm), ond dim ond y tîm isa’n y tabl, Aberystwyth, sydd wedi sgorio llai na’r Adar Gleision (20 gôl). 

Llwyddodd Llansawel i gipio’r triphwynt yn hwyr yn erbyn Y Drenewydd nos Fawrth i sicrhau eu hail buddugoliaeth yn olynol gartref ar yr Hen Heol. 

Ond dyw’r Cochion m’ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair oddi cartref a cholli’r chwech arall, gyda’r unig fuddugoliaeth yn dod ym Mhen-y-bont ym mis Medi.  

Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Hydref, yn ennill o 2-1 ar yr Hen Heol diolch i goliau gan Owain Jones a Lee Jenkins. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ➖✅❌➖❌ 

Llansawel: ✅❌✅❌✅ 

 

Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr  

Aberystwyth (12fed) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae hi wedi bod yn wythnos gymysglyd i Aberystwyth lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes brynhawn Sadwrn, cyn colli o 3-0 yn erbyn Y Fflint nos Fercher, sy’n golygu bod y Gwyrdd a’r Duon bellach saith pwynt o dan diogelwch y 10fed safle. 

Mae Aberystwyth wedi colli 78% o’u gemau cynghrair y tymor hwn, ac mewn perygl gwirioneddol o syrthio allan o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed. 

Gyda 25 o bwyntiau ar y bwrdd, mae Caernarfon angen chwe phwynt arall cyn cyrraedd y targed o 31 pwynt, sydd fel arfer yn ddigon i gyrraedd y Chwech Uchaf, a bydd y Cofis yn benderfynol o ennill tri o’r chwe phwynt rheiny ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn yn erbyn y clwb sydd ar waelod y tabl. 

Ond dyw’r hyder ddim yn rhy uchel yng ngharfan Caernarfon gan i’r Caneris ennill dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (colli 4, cyfartal 2). 

Roedd hi’n fuddugoliaeth ryfeddol i Aberystwyth o 4-1 oddi cartref yn erbyn Caernarfon ym mis Hydref gyda Niall Flint yn sgorio o’r cylch canol i griw Ceredigion. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ͏❌❌✅❌❌ 

Caernarfon: ❌➖❌✅➖
 

Met Caerdydd (4ydd) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Met Caerdydd yn anelu i sicrhau lle yn yr hanner uchaf am y trydydd tymor o’r bron, a byddai triphwynt i’r myfyrwyr brynhawn Sadwrn yn eu codi i 31 o bwyntiau, sef y swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

Mae tîm Ryan Jenkins wedi chwarae 10 gêm gartref ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn gan golli dim ond ddwywaith (ennill 4, cyfartal 4). 

Ond bydd Y Fflint yn ffyddiog o’u gallu i gael canlyniad ar Gampws Cyncoed, gan i’r Sidanwyr ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn y ddau glwb sy’n brwydro yn eu herbyn ar waelod y tabl (Llansawel ac Aberystwyth). 

Bydd Lee Fowler yn gobeithio gall hogiau Cae-y-Castell ei gwneud hi’n dair buddugoliaeth yn olynol yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Awst 2021 a dringo allan o’r tri isaf am y tro cyntaf y tymor hwn. 

Enillodd Met Caerdydd o 2-1 ar eu hymweliad â’r Fflint ar benwythnos agoriadol y tymor gyda Dixon Kabongo a Sam Jones yn taro i’r myfyrwyr. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏➖✅❌➖✅ 

Y Fflint: ͏❌❌❌✅✅ 

 

Pen-y-bont (1af) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Pen-y-bont yn parhau i osod y safon ar frig y tabl ar ôl curo Hwlffordd o 1-0 yng nghanol wythnos. 

Byddai buddugoliaeth arall i dîm Rhys Griffiths ddydd Sadwrn yn eu gadael ar 43 o bwyntiau wedi 19 o gemau, sef eu cyfanswm wedi 32 gêm ar ddiwedd y tymor diwethaf. 

Dyw Pen-y-bont m’ond wedi colli tair o’u 15 gêm gartref yn y gynghrair yn 2024, a daeth y cyntaf o rheiny ym mis Ionawr yn erbyn Cei Connah (Pen 0-1 Cei Connah, Pen 0-1 Pontypridd, Pen 0-1 Llansawel). 

Disgynnodd Cei Connah i’r hanner isaf ar ddechrau mis Medi, ond gyda pedair gêm i fynd tan yr hollt mae’r Nomadiaid yn anelu i ddychwelyd i’r Chwech Uchaf. 

Bydd dau o brif sgorwyr y gynghrair yn cyfarfod yn Stadiwm Gwydr SDM gyda James Crole (7 gôl) a Rhys Hughes (8 gôl) wedi serennu i’w clybiau ers ymuno dros yr haf. 

Gabriel Kircough sgoriodd unig gôl y gêm i Ben-y-bont yn yr ornest gyfatebol ar Gae y Castell ym mis Medi, ond cyn hynny doedd Pen-y-bont heb ennill yn eu saith gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ͏➖✅✅❌✅ 

Cei Connah: ͏❌✅❌✅➖ 

 

Y Seintiau Newydd (2il) v Y Drenewydd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl colli 1-0 yn Y Bala nos Fercher mae’r Seintiau bellach wedi colli pum gêm gynghrair am y tro cyntaf ers tymor 2019/20 pan orffennon nhw’n 2il y tu ôl i Gei Connah. 

Bangor oedd y tîm diwethaf i golli 5+ o gemau’n y gynghrair a mynd ymlaen i ennill y bencampwriaeth (2010/11), felly mae gan tîm Craig Harrison dipyn o waith i’w wneud os am godi uwchben Pen-y-bont. 

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe tymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch hwnnw. 

Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan bod y Robiniaid ar rediad o saith gêm heb ennill ym mhob cytadleuaeth, yn cynnwys colled siomedig yn y funud olaf yn erbyn Llansawel nos Fawrth, sy’n golygu bod Callum McKenzie yn dal i aros am ei bwynt cyntaf ar ôl tair colled yn olynol ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Y Drenewydd. 

Bellach mae chwe phwynt yn gwahanu’r Drenewydd a thimau’r Chwech Uchaf, a gyda dim ond pedair gêm yn weddill tan yr hollt, a tri o rheiny yn erbyn y tri uchaf, mae’n ymddangos mae cystadlu’n yr hanner isaf bydd y Robiniaid yn ail ran y tymor. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd, yn cynnwys buddugoliaeth swmpus o 6-1 oddi cartref ar Barc Latham ym mis Medi. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅✅❌✅❌ 

Y Drenewydd: ͏❌➖❌❌❌ 

 

Y Bala (5ed) v Y Barri (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein) 

Y Bala yw’r clwb cyntaf erioed i wneud y dwbl dros Y Seintiau Newydd yn rhan gynta’r tymor yn y Cymru Premier JD. 

Ar ôl curo’r Seintiau oddi cartref am y tro cyntaf erioed ym mis Medi, fe aeth y Bala ar reediad o wyth gêm gynghrair heb ennill cyn curo’r pencampwyr unwaith yn rhagor nos Fercher. 

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ac wedi’r fuddugoliaeth annisgwyl nos Fercher mae criw Colin Caton wedi codi i’r Chwech Uchaf yn hafal ar bwyntiau gyda Caernarfon a’r Barri, ond mae gan y ddau glwb rheiny gemau wrth gefn. 

Mae’r Barri yn mwynhau cyfnod campus ar ôl ennill pump o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf, a dim ond y ddau uchaf (Pen-y-bont ac YSN) sydd wedi llwyddo i guro tîm Steve Jenkins yn y gynghrair ers mis Awst. 

Gorffennodd hi’n gyfartal 1-1 yn yr ornest rhwng y ddau dîm ar Barc Jenner ar benwythnos agoriadol y tymor, a dyw’r Barri heb ennill ar Faes Tegid ers Ebrill 2019 (Bala 2-5 Barr). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ➖➖➖➖✅ 

Y Barri: ✅✅✅❌✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?