Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, a gyda naw rownd o gemau i fynd tan yr hollt mae’r ceffylau blaen, Pen-y-bont o fewn un pwynt o gyrraedd y targed hwnnw yn barod.
Dyw Hwlffordd ddim rhy bell ar ei hôl hi gyda 25 o bwyntiau ar y bwrdd, wrth i’r Adar Gleision geisio sicrhau eu bod yn gorffen yn y chwe safle uchaf am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.
Y Seintiau Newydd sy’n 3ydd yn y tabl, naw pwynt y tu ôl i Pen-y-bont ond gyda tair gêm wrth gefn.
Triphwynt yn unig sy’n gwahanu’r chwe clwb yng nghanol y tabl rhwng y 3ydd a’r 8fed safle, felly mae’n gaddo i fod yn frwydr gyffrous i gyrraedd yr hanner uchaf eleni.
Nos Wener, 25 Hydref
Met Caerdydd (4ydd) v Y Drenewydd (8fed) | Nos Wener – 19:45
Mae’n dynn iawn yng nghanol y tabl, a byddai buddugoliaeth i’r Drenewydd nos Wener yn eu codi’n hafal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd.
Wedi dechrau da i’r tymor mae’r canlyniadau wedi dirywio i Met Caerdydd yn ddiweddar, ac mae’r clwb bellach ar rediad o bedair gêm gynghrair heb ennill.
Dyw’r Drenewydd heb fod ar eu gorau chwaith gan ennill dim ond un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf gan ildio 14 o goliau yn eu tair gêm gartref ddiwethaf.
Aberystwyth (30) yw’r unig dîm i ildio mwy o goliau na’r Drenewydd (28) yn y gynghrair y tymor hwn, ond yn ffodus i’r Robiniaid mae eu chwaraewyr ymosodol wedi bod yn tanio.
Does neb wedi cyfrannu at fwy o goliau na Zeli Ismail (12) yn y gynghrair y tymor hwn gyda’r asgellwr wedi creu 11 a sgorio un mewn 11 ymddangosiad hyd yma.
Mae Ismail wedi chwarae rhan allweddol yn 63% o goliau’r Drenewydd y tymor hwn, tra bod Aaron Williams (6 gôl), Jason Oswell (4 gôl) a Josh Lock (3 gôl) wedi elwa o waith creadigol Ismail, gan roi’r bêl yng nghefn y rhwyd.
Ryan Reynolds (4 gôl) yw prif sgoriwr Met Caerdydd, ond ar ôl dechrau campus i’r tymor dyw’r chwaraewr canol cae heb sgorio ers rhwydo gôl gysur yn erbyn Y Drenewydd dros fis yn ôl.
Mae’r Drenewydd wedi ennill eu tair gornest ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd yn cynnwys y fuddugoliaeth o 2-1 ar Barc Latham ym mis Medi.
Mae Met Caerdydd wedi bod yn brysur yn cystadlu yn y cwpanau dros yr wythnos diwethaf, yn curo Pen-y-bont yng Nghwpan Cymru nos Wener, cyn colli yn erbyn Caerdydd yng Nghwpan Nathaniel MG nos Lun.
Ac roedd yna embaras i’r Drenewydd ddydd Sadwrn diwethaf wrth iddyn nhw golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Llanuwchllyn o’r drydedd haen yn ail rownd Cwpan Cymru.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅❌❌❌➖
Y Drenewydd: ͏➖❌❌✅❌
Dydd Sadwrn, 26 Hydref
Pen-y-bont (1af) v Y Bala (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar gyfartaledd mae 31 o bwyntiau wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf yn y tymhorau blaenorol, a gyda naw gêm i fynd tan yr hollt mae Pen-y-bont eisoes wedi hawlio 30 o bwyntiau’n barod.
Methodd Pen-y-bont a chyrraedd y Chwech Uchaf y tymor diwethaf, ond ar ôl dechrau rhagorol i’r ymgyrch yma mae tîm Rhys Griffiths bum pwynt yn glir ar y copa, ac ond wedi colli un o’u 19 gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs Llansawel).
Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae Gwŷr Gwynedd wedi llithro i’r hanner isaf ar ôl ennill dim ond dwy o’u 10 gêm gynghrair flaenorol, gyda un o’r buddugoliaethau rheiny yn dod oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Does neb wedi cael mwy o gemau cyfartal na’r Bala y tymor hwn (6/13), ac oni bai am y fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn y Seintiau, dim ond y tri isa’n y tabl sydd wedi colli’n erbyn Hogiau’r Llyn.
Roedd Y Bala wedi mynd ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Pen-y-bont cyn i dîm Rhys Griffiths drechu criw Colin Caton ar Faes Tegid yn gynharach y tymor hwn (Bala 1-2 Pen).
Er eu bod mewn safle syfrdanol yn y tabl, mae hi wedi bod yn wythnos anodd i Pen-y-bont sydd wedi colli eu lle mewn dwy gystadleuaeth yn dilyn colledion yn erbyn Met Caerdydd yng Nghwpan Cymru, ac yna’r Barri yng Nghwpan Nathaniel MG.
Mae’r Bala ar y llaw arall wedi cyrraedd trydedd rownd Cwpan Cymru ar ôl curo Llanrhaeadr nos Wener diwethaf, a bydd eu gêm yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG yn cael ei chynnal ar 13 Tachwedd.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏❌✅✅✅➖
Y Bala: ✅➖❌➖➖
Y Fflint (10fed) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Does dim un tîm yn yr uwch gynghrair wedi cipio mwy o bwyntiau ar ôl bod ar ei hôl hi mewn gêm na’r Barri y tymor hwn (11).
Mae’r Dreigiau wedi dringo i’r hanner uchaf am y tro cynta’r tymor hwn ar ôl ennill tair o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf.
Mae blaenwr Y Barri, Ollie Hulbert yn mwynhau cyfnod da o flaen y gôl gyda’r gŵr 21 mlwydd oed yn eistedd ar frig rhestr y prif sgorwyr ar ôl sgorio wyth gôl gynghrair.
Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair gartref y tymor hwn, ond bydd Lee Fowler yn chwilio am driphwynt ddydd Sadwrn i dorri’n glir o’r ddau isaf.
Er i’r Fflint rwydo dwy gôl yn yr hanner cyntaf, Y Barri oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, yn sgorio deirgwaith wedi’r egwyl i droi’r gêm ar ei phen ar Barc Jenner (Barr 3-2 Ffl).
Enillodd Y Fflint o 5-1 yn erbyn Gresffordd nos Wener diwethaf i gamu ymlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru, ond colli ar giciau o’r smotyn oedd hanes Y Barri yn erbyn Caerau Trelai o Gynghrair y De.
Ond wedi’r siom o golli’n erbyn clwb o’r ail haen dros y penwythnos fe lwyddodd Y Barri i guro Pen-y-bont nos Fawrth i hawlio eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌❌✅➖❌
Y Barri: ➖✅❌✅✅
Hwlffordd (2il) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 17.15 (Arlein)
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 5 gôl mewn 13 gêm), ond dim ond Cei Connah, Aberystwyth a Llansawel sydd wedi sgorio llai na’r Adar Gleision, ac mae gan dau o’r clybiau rheiny gemau wrth gefn.
Dim ond 20 gôl sydd wedi ei sgorio yn 13 gêm gynghrair Hwlffordd y tymor hwn (cyfartaledd o 1.5 gôl y gêm) sy’n profi pa mor dynn yw gemau’r Adar Gleision eleni.
Mae tîm Tony Pennock yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm gan nad yw’r Adar Gleision wedi gorffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle.
Ar ôl rhediad gwych o bedair buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair mae perfformiadau Caernarfon wedi pylu wrth golli tair o’r bron ym mhob cystadleuaeth.
Dyw Hwlffordd heb golli yn eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn y Cofis, yn cynnwys buddugoliaeth ddramatig yn yr eiliadau olaf ar yr Oval ym mis Awst (Cfon 1-2 Hwl).
Fe gafodd y ddau dîm gêm ddi-sgôr yng Nghwpan Cymru y penwythnos diwethaf gyda Hwlffordd yn mynd ymlaen i guro Adar Gleision Trethomas ar giciau o’r smotyn, a Caernarfon yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Hotspur Caergybi o’r drydedd haen.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖✅✅͏➖✅
Caernarfon: ✅✅✅❌❌
Dydd Sul, 27 Hydref
Aberystwyth (11eg) v Y Seintiau Newydd (3ydd) | Dydd Sul – 13:00
Er bod y Seintiau wedi colli tair gêm gynghrair mewn tymor am y tro cyntaf ers 2020/21, mae’r pencampwyr yn parhau i gropian i fyny’r tabl.
Mae gan Y Seintiau Newydd dair gêm wrth gefn, a pe bae criw Craig Harrison yn ennill y gemau rheiny yna byddan nhw’n codi’n hafal ar bwyntiau gyda Pen-y-bont.
Er eu bod nhw ar ei hôl hi, y Seintiau sy’n dal i arwain fel prif sgorwyr y gynghrair ar ôl rhwydo 29 gôl gyda 12 chwaraewr gwahanol wedi canfod cefn y rhwyd mewn 10 gêm.
Roedd Aberystwyth wedi colli naw gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf erioed cyn dod â’r rhediad i ben gyda buddugoliaeth swmpus ac haeddiannol yn erbyn Caernarfon (Cfon 1-4 Aber).
Doedd Aberystwyth m’ond wedi sgorio pum gôl mewn 12 gêm gynghrair cyn bron a dyblu eu cyfanswm drwy daro pedair ar yr Oval bythefnos yn ôl.
Ond mae’r Seintiau wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth gan sgorio 24 gôl ac ildio dim ond unwaith.
Mae hi wedi bod yn wythnos gymysglyd i Aberystwyth gyda’r Gwyrdd a’r Duon yn colli yn erbyn Rhydaman yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn, cyn curo Cei Connah yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth.
O ran y Seintiau, roedd hi’n noson arbennig iddyn nhw nos Wener diwethaf, yn ennill 16-0 yn erbyn Llangollen o’r drydedd haen yn ail rownd Cwpan Cymru.
Mae carfan Croesoswallt wedi bod yn brysur yn cystadlu’n Ewrop eleni, ac roedd hi’n noson hanesyddol i’r clwb yn Yr Amwythig nos Iau yn ennill eu gêm gartref gyntaf yng Nghyngres UEFA yn erbyn cewri Kazakhstan, Astana.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏❌❌❌❌✅
Y Seintiau Newydd: ❌✅❌✅✅
Cei Connah (9fed) v Llansawel (12fed) | Dydd Sul – 14:30
Ar yr adeg yma’r tymor diwethaf, wedi 12 gêm roedd Cei Connah yn 2il yn y tabl gyda 26 o bwyntiau, ond eleni dim ond hanner hynny sydd gan y Nomadiaid sy’n eistedd yn y 9fed safle (13pt).
Dyw Cei Connah m’ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair ers diwedd Awst (3-0 vs Aber) gyda’u dwy gêm gynghrair ddiwethaf yn gorffen yn ddi-sgôr.
Mae Llansawel wedi llithro ‘nôl i waelod y domen ar ôl ennill dim ond unwaith yn y gynghrair y tymor hwn, a’r fuddugoliaeth honno yn dod oddi cartref yn erbyn y ceffylau blaen, Pen-y-bont.
Aeth Llansawel ar y blaen yn erbyn Cei Connah yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, ond fe frwydrodd y Nomadiaid yn ôl gan ennill yn gyfforddus yn y pen draw (Llan 1-5 Cei).
Dim ond 14 o goliau mae Cei Connah wedi ei sgorio yn eu 12 gêm gynghrair y tymor hwn gyda 36% o rheiny yn dod yn y gêm gyfatebol yn erbyn Llansawel.
Chafodd Cei Connah ddim trafferth sgorio yn erbyn Cegidfa yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn (Cei 5-0 Ceg), cyn colli gartref yn erbyn Aberystwyth yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fawrth.
Llwyddodd Llansawel i osgoi croen banana brynhawn Sadwrn gan ennill 3-0 yn erbyn New Inn o’r bedwaredd haen i sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏➖❌✅➖➖
Llansawel: ➖✅➖❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.