Pum rownd gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, ac mae’r frwydr am safleoedd yn y gemau ail gyfle yn poethi.
Nos Fawrth diwethaf fe sicrhaodd Y Seintiau Newydd eu pumed pencampwriaeth yn olynol drwy guro Cei Connah gyda chic ola’r gêm ar Gae y Castell.
Mae Cei Connah yn parhau 10 pwynt yn glir yn yr ail safle, ac fe all y Nomadiaid hawlio eu lle’n Ewrop y penwythnos yma os bydd canlyniadau yn mynd o’u plaid.
I lawr yn y Chwech Isaf ac mae Hwlffordd bedwar pwynt yn glir yn y ras am y 7fed safle, tra bod angen buddugoliaeth ar Y Bala oddi cartref yn erbyn Y Fflint os am geisio dringo allan o safleoedd y cwymp.
CHWECH UCHAF
Caernarfon (4ydd) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45
Roedd hi’n benwythnos i’w chofio i Gaernarfon wrth iddyn nhw guro Y Rhyl 1879 i sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.
Bydd y Cofis yn wynebu’r Fflint yn y rownd derfynol yn Rodney Parade, Casnewydd ar y 12fed o Ebrill gydag enillwyr y gêm honno yn hawlio lle yn Ewrop.
Er methu ag ennill dim un o’u chwe gêm ddiwethaf, mae Cei Connah yn dal 10 pwynt yn glir yn yr ail safle, ac fe all y Nomadiaid sicrhau eu lle’n Ewrop y penwythnos yma.
Mae’r bartneriaeth ymosodol o Rhys Hughes (sgorio 13, creu 11) a Harry Franklin (sgorio 12, creu 10) yn mwynhau tymor safonol i Gei Connah, gyda’r ddau wedi cyrraedd ffigyrau dwbl o ran sgorio a chreu yn y gynghrair.
Dim ond pwynt sy’n gwahanu Caernarfon (4ydd) a Pen-y-bont (3ydd), a byddai Richard Davies wrth ei fodd pe bae’n gallu codi’r Cofis uwchben y Gleision cyn diwedd y tymor i sicrhau eu safle uchaf erioed yn y pyramid Cymreig.
Mae’r ddwy ornest flaenorol rhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal, a dyw’r Caneris m’ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah (ennill 3, cyfartal 4).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏➖➖❌❌✅
Cei Connah: ➖➖➖❌❌
Bae Colwyn (6ed) v Y Barri (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Bae Colwyn a’r Barri wrth i’r timau geisio gorffen mor uchel a phosib er mwyn sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle.
Mae’r Barri ar rediad ardderchog – wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn y pedwar tîm uchaf yn y tabl, ac hynny heb ildio gôl.
Un o’r buddugoliaethau rheiny oedd y sioc fawr yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG, wrth i’r Dreigiau gipio un o prif dlysau Cymru am y tro cyntaf ers 23 o flynyddoedd.
Bae Colwyn yw’r tîm diwethaf i drechu’r Barri, ac hynny mewn buddugoliaeth o 1-0 i’r Gwylanod ar Barc Jenner diolch i gôl Nathan Peate.
Mae’r clybiau wedi cyfarfod deirgwaith yn barod y tymor hwn ac mae’r record benben yn hafal gyda’r ddau dîm yn ennill unwaith, a’r gêm arall yn gorffen yn gyfartal.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏➖✅❌✅❌
Y Barri: ❌❌✅✅✅
Pen-y-bont (3ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol.
Ond er y llwyddiant yn y gynghrair, mae’n bosib y bydd eleni’n cael ei gyfri fel tymor siomedig i’r Seintiau gan mae dim ond un tlws fydd yn mynd i Groesoswallt, a’u bod wedi cyflawni o leiaf dwbl domestig mewn 10 o’u 12 tymor blaenorol.
O’r 12 tymor diwethaf, dim ond yn 2019/20 a 20/21 y methodd YSN â chyflawni dwbl, ac roedd hynny’n bennaf am i rai cystadlaethau cael eu diddymu oherwydd Covid-19.
Felly, dyma’r tro cyntaf ers tymor 2012/13 i’r dair brif gystadleuaeth cael eu cynnal ac i’r Seintiau Newydd fethu ac ennill o leiaf dwy o’r cystadlaethau rheiny.
Er hynny, mae sicrhau’r bencampwriaeth gyda pum gêm yn weddill yn profi bod criw Craig Harrison wedi dominyddu yn y gynghrair unwaith yn rhagor.
Mae Pen-y-bont wedi bod yn y tri uchaf ers mis Awst, ond mae perygl i dîm Rhys Griffiths lithro lawr y tabl ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf (vs Llanelli).
Dyw Pen-y-bont heb guro clwb o’r Chwech Uchaf ers mis Medi (vs Bae Colwyn), ac mae’r garfan wedi gweld colli James Crole a Gabriel Kircough a adawodd ym mis Ionawr.
Mae’r Seintiau wedi ennill eu tair gêm gynghrair yn erbyn Pen-y-bont y tymor hwn gan sgorio chwe gôl yn y ddwy ornest ddiwethaf.
Mae Rory Holden a Jordan Williams wedi taro hatric yr un yn erbyn y Gleision y tymor yma, a bydd prif sgoriwr y gynghrair, Jordan Williams yn awyddus i ychwanegu at ei 23 gôl gynghrair hyd yma.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖❌➖❌❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
CHWECH ISAF
Hwlffordd (7fed) v Met Caerdydd (10fed) | Nos Wener – 19:45
Hwlffordd sy’n parhau i arwain y pac yn y Chwech Isaf, ond bydd Tony Pennock yn disgwyl ymateb gan ei garfan wedi i’r Adar Gleision golli yn erbyn Y Fflint yn eu gêm ddiwethaf.
Mae Hwlffordd wedi cadw chwe llechen lân yn eu wyth gêm ddiwethaf, ac ar ôl ennill y gemau ail gyfle’r tymor diwethaf, bydd yr Adar Gleision yn anelu i ail-adrodd y gamp eleni.
Dyw pethau ddim yn mynd cystal i Met Caerdydd sydd wedi llithro i’r 10fed safle, chwe phwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Ers curo’r Seintiau Newydd ddwywaith ym mis Tachwedd, dyw Met Caerdydd m’ond wedi ennill unwaith (vs Llanelli), ac mae’r clwb bellach ar rediad o naw gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 6, colli 3).
Dyw Hwlffordd heb golli yn eu naw gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd, ac mae wyth o’r 11 gornest ddiwethaf rhwng y clybiau ym mhob cystadleuaeth wedi gorffen yn gyfartal ar ôl 90 munud.
Pe bae Hwlffordd yn ennill, a’r Bala’n colli brynhawn Sadwrn, yna byddai’r Adar Gleision yn diogelu eu lle’n y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅✅✅✅❌
Met Caerdydd: ➖❌➖➖➖
Llanelli (12fed) v Llansawel (8fed) | Nos Wener – 19:45
Bydd Llansawel yn llawn hyder gan i’r Cochion golli dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf (ennill 4, cyfartal 2) gan agor bwlch o saith pwynt rhyngddyn nhw a safleoedd y cwymp.
Mae gan Lansawel gêm wrth gefn hefyd a bydd tîm Andy Dyer yn edrych i fyny gan geisio cau’r bwlch o bedwar pwynt sydd rhyngddyn nhw a Hwlffordd.
Gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 27 gêm gynghrair, a dim ond 10 pwynt ar y bwrdd, mae hi wedi bod yn dymor eithriadol o siomedig i Lanelli.
Ond fe ddaeth un o’r buddugoliaethau rheiny oddi cartref yn erbyn Llansawel, felly fydd hi ddim yn noson hawdd i Lansawel.
Mae Llanelli yn sicr o syrthio ar ddiwedd y tymor, ond mae’r canlyniadau wedi gwella ychydig yn yr wythnosau diweddar gyda’r Cochion yn colli dim ond un o’u tair gêm ddiwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌❌➖❌➖
Llansawel: ͏✅✅❌➖✅
Y Fflint (9fed) v Y Bala (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:30 (Yn fyw arlein)
Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ac o’r clybiau presennol, Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb arall sydd wedi aros yn y gynghrair yn ddi-dor ers tymor cynta’r Bala yn 2009/10.
Ond ar ôl 12 mlynedd yn y Chwech Uchaf, mae’r Bala wedi methu’r nod eleni ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio i’r ail haen ar ôl ennill dim ond dwy o’u 18 gêm gynghrair ddiwethaf.
Dyw’r Bala m’ond wedi ennill unwaith ers mis Tachwedd, a daeth y fuddugoliaeth honno oddi cartref yn erbyn Y Fflint gyda cyn-chwaraewr y Sidanwyr, Cameron Ferguson yn serennu mewn crasfa o 4-0 ar Gae y Castell.
Y Fflint a’r Seintiau Newydd yw’r unig ddau glwb sydd heb golli gêm gynghrair ers yr hollt, ac mae tîm Lee Fowler wedi agor bwlch o saith pwynt rhyngddyn nhw a’r Bala yn safleoedd y cwymp.
Roedd Y Bala wedi mynd ar rediad o 15 gêm heb golli yn erbyn Y Fflint cyn i’r rhediad ddod i ben ym mis Ionawr gyda’r Sidanwyr yn ennill o 4-3 mewn gêm gyffrous ar Faes Tegid.
Bydd Y Fflint yn dal i deimlo ar ben y byd ar ôl curo Bangor 1876 o 5-1 y penwythnos diwethaf i sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 72 o flynyddoedd.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅✅➖➖✅
Y Bala: ❌➖❌❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.





