S4C

Navigation

Wedi pum buddugoliaeth yn olynol mae’r Seintiau Newydd wedi torri 12 pwynt yn glir ar frig y Cymru Premier JD, ac mae cewri Croesoswallt yn agosáu at eu pumed pencampwriaeth yn olynol. 

Yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop, mae Cei Connah 10 pwynt uwchben Pen-y-bont ar ôl mynd ar rediad rhyfeddol o 17 gêm gynghrair heb golli. 

Lawr yn y Chwech Isaf, ac ar ôl ennill tair gêm yn olynol mae Hwlffordd wedi torri driphwynt yn glir yn y frwydr i orffen yn 7fed a chyrraedd y gemau ail gyfle. 

Pe bae Hwlffordd yn curo Llanelli nos Wener, yna byddai’r Cochion yn sicr o orffen yn y ddau safle isaf, ac felly yn cadarnhau eu cwymp yn ôl i’r ail haen. 

CHWECH UCHAF 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Caernarfon (4ydd) | Nos Wener – 19:45  

Ar ôl curo Bae Colwyn o 2-0 nos Wener mae’r Seintiau bellach wedi ennill wyth o’u naw gêm ddiwethaf, a gyda rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG i ddod ar ddiwedd y mis, bydd cewri Croesoswallt yn anelu i gwblhau dwbl domestig am y pumed tymor o’r bron. 

Sgoriodd Jordan Williams ei 23ain gôl gynghrair i’r Seintiau yn y fuddugoliaeth yn erbyn Bae Colwyn y penwythnos diwethaf, ac mae’r ymosodwr 33 mlwydd oed yn anelu i dorri’r record am y nifer fwyaf o goliau yng nghyfnod y fformat 12-tîm (Chris Venables – 28 gôl yn 2014/15). 

Dyw pethau ddim yn mynd gystal i Gaernarfon, sydd ond wedi ennill un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 6, colli 3). 

Roedd Richard Davies yn feirniadol o berfformiad ei garfan yn dilyn y golled o 2-0 yn erbyn Y Barri brynhawn Sadwrn, a bydd angen codi’r hwyliau yn yr ystafell newid cyn y gêm enfawr yn erbyn Y Rhyl 1879 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ymhen pythefnos. 

Mae carfan Caernarfon yn llawn o gyn-chwaraewyr y Seintiau, sy’n cynnwys tri chwaraewr sydd ar fenthyg o Neuadd y Parc eleni, ac felly fydd yn anghymwys i chwarae nos Wener (Sion Bradley, Josh Lock, Zack Clarke). 

Ond bydd nifer o gyn-Seintiau eraill ar gael fydd yn awyddus i adael eu marc ar y gêm, fel Connor Roberts, Adrian Cieslewicz, Daniel Gosset a Brad Young. 

Bydd hi’n dipyn o dasg i’r Cofis gan fod y Seintiau wedi ennill 17 o’u 18 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, yn cynnwys tair buddugoliaeth yn rhan gynta’r tymor. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

Caernarfon: ͏✅➖➖➖❌ 

 

Bae Colwyn (5ed) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Bydd dau dîm rhwystredig yn cyfarfod ar Ffordd Llanelian ddydd Sadwrn gyda’r ddau glwb wedi tangyflawni yn yr wythnosau diwethaf. 

Dyw Bae Colwyn m’ond wedi ennill un o’u chwe gêm ym mhob cystadleuaeth yn 2026 (colli 4, cyfartal 1), yn cynnwys colled siomedig yn erbyn Caernarfon yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD. 

Tydi rhediad diweddar Pen-y-bont fawr gwell, gan i’r Gleision ennill dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf gan fethu a sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf. 

Wedi dweud hynny, dyw Pen-y-bont m’ond wedi colli un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf, gan i bump o’r gemau rheiny orffen yn gyfartal. 

Wedi 12 gêm o’r tymor, doedd dim ond triphwynt yn gwahanu Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd ar frig y tabl cyn i’r clybiau gyfarfod ym mis Hydref, ond yn dilyn y golled o 6-2 yn Neuadd y Parc dyw tîm Rhys Griffiths m’ond wedi ennill tair o’u 13 gêm gynghrair diwethaf, a’r buddugoliaethau rheiny yn dod yn erbyn y tri clwb isa’n y tabl (Llanelli, Y Bala, Y Fflint). 

Cafwyd gêm i’w chofio rhwng y ddau dîm yma ym mis Tachwedd gyda Jordan Davies yn sgorio hatric i’r Gwylanod mewn buddugoliaeth o 5-4 i Fae Colwyn ar Ffordd Llanelian.  

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ͏❌❌➖✅❌ 

Pen-y-bont: ✅➖➖❌➖
 

Y Barri (6ed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Cei Connah wedi mynd ar rediad o 17 o gemau cynghrair heb golli am y tro cyntaf erioed gan dorri 10 pwynt yn glir yn yr ail safle (ennill 11, cyfartal 6). 

Does dim dwywaith ei bod hi’n rediad arbennig gan y Nomadiaid, ond yr unig bryder i John Disney yw bod y tîm heb ennill yn eu pedair gêm ddiwethaf gan sicrhau pedair gêm gyfartal yn olynol. 

Roedd hi’n fuddugoliaeth dda i’r Barri ddydd Sadwrn diwethaf gyda’r Dreigiau yn ennill o 2-0 oddi cartref yn erbyn Caernarfon. 

Bydd Y Barri’n herio’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ar 28 Chwefror, ac felly byddai buddugoliaeth arall y penwythnos yma yn hwb mawr i’r hyder cyn y ffeinal fawr ym Mhen-y-bont. 

Yn dilyn gêm ddi-sgôr rhwng y timau yma ar Barc Jenner ym mis Medi, Cei Connah oedd yn fuddugol ar Gae y Castell ym mis Ionawr gyda Callum West, Noah Edwards a Rhys Hughes yn sgorio goliau gwych i’r Nomadiaid (Cei 3-1 Barr). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ❌✅❌❌✅
Cei Connah: ✅➖➖➖➖ 

 

CHWECH ISAF 

Llanelli (12fed) v Hwlffordd (7fed) | Nos Wener – 19:45 

Nos Wener diwethaf fe lwyddodd Llanelli i sicrhau eu pwynt cyntaf ers mis Tachwedd gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Met Caerdydd. 

Ond er hynny, mae’n ymddangos fel bod y frwydr ar fin dod i ben i’r Cochion, gan y byddai colled nos Wener yma yn cadarnhau eu bod yn syrthio yn ôl i’r ail haen. 

Ers newid i’r fformat 12-tîm yn 2010, dim ond unwaith o’r blaen y mae tîm wedi syrthio o’r Cymru Premier JD mor gynnar a mis Chwefror, ac Airbus UK oedd rheiny yn nhymor 2022/23 wedi i’r clwb dderbyn chwe phwynt o gosb. 

Ar ôl colli dim ond un o’u wyth gêm ddiwethaf, mae Hwlffordd wedi torri triphwynt yn glir yn y 7fed safle (ennill 5, cyfartal 2). 

Mae’r Adar Gleision wedi cadw pum llechen lân yn eu chwe gêm ddiwethaf wrth i dîm Tony Pennock lygadu eu lle yn y gemau ail gyfle. 

Dyw Llanelli m’ond wedi ennill pedair gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn, ac mae dwy o’r buddugoliaethau rheiny wedi dod yn erbyn Hwlffordd – y gyntaf yn y gynghrair ym mis Medi (1-0), a’r ail yng Nghwpan Cymru ym mis Hydref (3-0), sef eu buddugoliaeth ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

 

Record cynghrair diweddar:   

Llanelli: ❌❌❌❌➖
Hwlffordd: ➖❌✅✅✅
 

Llansawel (9fed) v Y Bala (11eg)  | Dydd Sadwrn – 12:30 (Arlein) 

Mi fydd hi’n gêm allweddol ar yr Hen Heol rhwng dau dîm sy’n brwydro i osgoi’r cwymp. 

Mae pum pwynt yn gwahanu’r ddau glwb ar ddechrau’r penwythnos a bydd Llansawel yn ysu i agor y bwlch i wyth pwynt rhyngddyn nhw a’r ddau isaf. 

Pe bae’r Bala’n fuddugol yna dim ond dau bwynt fyddai’n gwahanu’r clybiau, felly bydd tîm Steve Fisher yn benderfynol o gau’r bwlch brynhawn Sadwrn. 

Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ond Hogiau’r Llyn sy’n cadw cwmni i Lanelli yn safleoedd y cwymp ar ôl ennill dim ond un o’u 10 gêm ddiwethaf. 

 Dyw Llansawel m’ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf, ond ar ôl derbyn cerdyn coch yn eu dwy gêm ddiwethaf, a methu a sgorio yn y gemau rheiny, bydd angen gwell perfformiad y penwythnos hwn. 

Dyw Llansawel heb golli dim un o’u tair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 1, cyfartal 2) a byddai buddugoliaeth i dîm Andy Dyer yn eu cadw’n dynn ar sodlau Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Llansawel: ͏✅✅✅❌➖
Y Bala: ❌✅❌➖❌ 

 

Y Fflint (10fed) v Met Caerdydd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r Fflint a Met Caerdydd yng nghanol y Chwech Isaf, a bydd y ddau dîm yn awyddus i gystadlu am y 7fed safle, a chodi’n bellach o safleoedd y cwymp. 

Dyw’r Fflint m’ond wedi colli dwy o’u 12 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, a bydd tîm Lee Fowler yn wynebu Dinas Bangor 1876 o’r drydedd haen yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru fis nesaf, gyda’r Sidanwyr yn breuddwydio am godi’r cwpan am y tro cyntaf ers 1954. 

Ers curo’r Seintiau Newydd ddwywaith ym mis Tachwedd, dyw Met Caerdydd m’ond wedi ennill unwaith ers hynny (vs Llanelli), ac mae’r clwb bellach ar rediad o wyth gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 5, colli 3). 

Mewn ymdrech i ddod â’r rhediad hesb i ben, mae Met Caerdydd wedi arwyddo cyn-gapten Casnewydd, James Clarke yr wythnos yma, a bydd yr amddiffynnwr 36 mlwydd oed yn gobeithio gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb y penwythnos yma. 

Enillodd Y Fflint o 4-2 yn eu gêm gartref yn erbyn Met Caerdydd ym mis Awst, ond fe gafodd y myfyrwyr ddîal ym mis Hydref drwy ennill o 4-1 ar Gampws Cyncoed. 

 

Record cynghrair diweddar:   

Y Fflint: ✅❌✅✅➖
Met Caerdydd: ͏➖➖❌➖➖
 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?