Yn dilyn saib ar gyfer ail rownd Cwpan Cymru JD, bydd y sylw’n troi’n ôl at y gynghrair y penwythnos hwn.
Fe lwyddodd naw o 12 clwb yr uwch gynghrair i gamu ymlaen i rownd nesaf y gwpan, gyda Hwlffordd, Llansawel a’r Bala yn colli yn erbyn clybiau eraill o’r haen uchaf.
Roedd hi’n ganlyniad rhagorol i Lanelli a enillodd o 3-0 yn erbyn Hwlffordd, ond bydd hi’n dasg anferth i’r Cochion nos Wener yma wrth i’r clwb sydd ar waelod y gynghrair groesawu’r clwb sydd ar y copa, Y Seintiau Newydd.
Ar ôl curo Llansawel yn gyfforddus o 5-0 bydd Pen-y-bont yn gobeithio am berfformiad cystal gartref yn erbyn Caernarfon wrth i’r timau sy’n 2il a 3ydd fynd benben yn Stadiwm Dragonbet brynhawn Sadwrn.
Ac wrth i’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf ddechrau cynhesu, bydd y gemau rhwng Y Bala a’r Barri, a Met Caerdydd a’r Fflint yn rhai allweddol yng nghanol y tabl.
Nos Wener, 24 Hydref
Llanelli (12fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Bydd y tîm sydd ar waelod y gynghrair yn croesawu’r tîm sydd ar y brig i Barc Stebonheath nos Wener.
Roedd yna lwyddiant i’r ddau dîm ddydd Sadwrn diwethaf gyda Llanelli yn trechu Hwlffordd (3-0), a’r Seintiau Newydd yn ei gadael hi’n hwyr cyn curo’r Wyddgrug (1-2).
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu 10 gêm ddiwethaf ac yn dechrau’r penwythnos chwe phwynt uwchben Pen-y-bont (2il), tra bod Llanelli chwe phwynt o dan ddiogelwch y 10fed safle.
Llanelli sydd â’r record ymosodol waetha’n y gynghrair (0.5 gôl y gêm), tra mae’r Seintiau sydd â’r record ymosodol gryfaf yn y gynghrair (3 gôl y gêm).
Dyw Llanelli heb guro’r Seintiau ers ennill 1-0 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru 2010/11 ble sgoriodd Chris Venables unig gôl y gêm.
Ers hynny, mae’r Seintiau wedi cadw chwe llechen lân yn olynol yn erbyn Llanelli, gan gynnwys yn y gêm gyfatebol rhwng y timau fis diwethaf ble enillodd y pencampwyr o 6-0 yn Neuadd y Parc.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ✅✅❌❌❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Dydd Sadwrn, 25 Hydref
Cei Connah (4ydd) v Hwlffordd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:00
Mae Cei Connah ar rediad cryf ar ôl ennill pedair gêm yn olynol, yn cynnwys buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Y Bala yng Nghwpan Cymru y penwythnos diwethaf.
Dyw’r Nomadiaid m’ond wedi ildio un gôl yn eu pum gêm ddiwethaf gan godi i’r 4ydd safle’n y gynghrair gyda gêm wrth gefn.
Mae Hwlffordd yn parhau i eistedd yn safleoedd y cwymp ar ôl colli chwech o’u wyth gêm ddiwethaf, gyda’r golled ddiweddaraf yn dod yn erbyn Llanelli yng Nghwpan Cymru nos Wener (3-0).
Cei Connah enillodd y gêm gyfatebol ar Ddôl y Bont gyda Rhys Hughes yn taro ddwywaith mewn buddugoliaeth o 3-1 i’r Nomadiaid ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ❌➖✅✅✅
Hwlffordd: ❌❌✅❌✅
Llansawel (10fed) v Bae Colwyn (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Llansawel wedi llithro’n beryglus o agos i’r ddau isaf ar ôl ennill dim ond un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, ac roedd yna fwy o siom i dîm Andy Dyer ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw golli o 5-0 gartref yn erbyn Pen-y-bont.
Mae Bae Colwyn yn mynd o nerth i nerth ar ôl curo Bae Cinmel o 5-0 nos Wener i sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD.
Y Gwylanod sydd â record amddiffynnol orau’r gynghrair (ildio 0.7 gôl y gêm) ac mae carfan Michael Wilde wedi cadw llechen lân yn eu pedair gêm ddiwethaf.
Sgoriodd Tom Walters ddwywaith i Lansawel yn y gêm gyfatebol ar Ffordd Llanelian ym mis Awst, ond doedd hynny ddim yn ddigon i gipio’r triphwynt (Bae 2-2 Lls).
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏❌❌➖✅❌
Bae Colwyn: ͏❌❌✅✅➖
Pen-y-bont (2il) v Caernarfon (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd hi’n ornest arwyddocal yn Stadiwm Dragonbet ddydd Sadwrn rhwng y timau sy’n 2il a 3ydd.
Ar ôl colli o 6-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn eu gêm gynghrair ddiwethaf mae Pen-y-bont bellach chwe phwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, ond bum pwynt uwchben Caernarfon (3ydd).
O ystyried bod y tîm sy’n gorffen yn 2il yn camu’n syth i Ewrop, byddai buddugoliaeth i dîm Rhys Griffiths brynhawn Sadwrn yn eu gadael mewn safle addawol i hawlio pêl-droed Ewropeaidd.
Mae’n gêm allweddol i Gaernarfon hefyd a ddechreuodd y tymor ar dân, ond sydd bellach mewn perygl o golli gafael ar y ddau uchaf ar ôl sicrhau dim ond un pwynt o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf.
Mae’r ddau dîm yma wedi camu ymlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru JD ar ôl canlyniadau calonogol ddydd Sadwrn (Llansawel 0-5 Pen-y-bont, Y Drenewydd 0-3 Caernarfon).
Mae Pen-y-bont wedi ennill wyth o’u 10 gornest flaenorol yn erbyn Caernarfon, yn cynnwys buddugoliaeth o 2-1 ar Barc Maesdu ym mis Medi ble rwydodd Noah Daley ddwywaith i’r ymwelwyr.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅✅➖✅❌
Caernarfon: ͏✅❌❌❌➖
Y Bala (8fed) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r ras am y Chwech Uchaf yn dechrau poethi gyda naw rownd o gemau i fynd tan yr hollt, ac mae hi’n eithriadol o dynn yng nghanol y tabl gan mae dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng y 6ed a’r 10fed safle.
Mae’r Barri a’r Bala yn hafal ar bwyntiau ac felly bydd hi’n frwydr hollbwysig rhwng y ddau dîm ddydd Sadwrn.
Ar ôl dechrau’r ymgyrch yn gadarn, mae’r Bala wedi baglu’n ddiweddar gan golli pum gêm yn olynol gan sgorio dim ond unwaith yn ystod y rhediad hwnnw (cic o’r smotyn yn erbyn Cei Connah).
Roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus o 4-0 i’r Barri yn y gêm gyfatebol ar Barc Jenner ym mis Medi a bydd y Dreigiau yn llawn hyder ar ol chwalu Aberystwyth o 5-0 brynhawn Sadwrn.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌❌❌❌
Y Barri: ✅➖❌❌➖
Met Caerdydd (7fed) v Y Fflint (9fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Dim ond un pwynt sy’n gwahanu Met Caerdydd a’r Fflint a bydd y ddau glwb â un lygad ar geisio cyrraedd y Chwech Uchaf, ac un lygad yn edrych dros eu hysgwyddau.
Mae Met Caerdydd wedi mynd ar rediad o bum gêm heb golli, yn cynnwys buddugoliaeth swmpus o 5-1 yn erbyn Ffynnon Taf yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn.
Mae’r Fflint wedi ennill dwy yn olynol gyda Elliott Reeves yn serennu i’r Sidanwyr gan sgorio pum gôl dros y ddwy gêm (Fflint 4-0 Llanelli, Bow Street 0-3 Fflint).
Enillodd y Fflint o 4-2 yn y gêm gyfatebol ar Gae y Castell ym mis Awst, ond dyw carfan Lee Fowler heb ennill oddi cartref ar Gampws Cyncoed ers pedair blynedd.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌✅✅✅➖
Y Fflint: ❌✅❌❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.





