S4C

Navigation

Cafodd Y Drenewydd, Met Caerdydd, Hwlffordd a Pen-y-bont y dechrau delfrydol i’r tymor drwy ennill eu gemau agoriadol y penwythnos diwethaf, a bydd dau o’r clybiau rheiny yn cyfarfod nos Wener yma.

 

 

Nos Wener, 16 Awst

Met Caerdydd v Y Barri | Nos Wener – 19:45

Bydd Met Caerdydd yn falch o fod wedi ennill gêm galed oddi cartref yn erbyn Y Fflint y penwythnos diwethaf, ac hynny ar ôl mynd ar ei hôl hi wedi llai na 10 munud ar Gae-y-Castell.

Fe sgoriodd Dixon Kabongo a Sam Jones i sicrhau buddugoliaeth o 2-1 i dîm Ryan Jenkins ar y penwythnos agoriadol, a bydd y myfyrwyr yn anelu am driphwynt arall yn eu gêm gartref gyntaf y tymor hwn.

Fe gafodd Y Barri ddigon o gyfleon i guro’r Bala y penwythnos diwethaf, ond bu rhaid i’r Dreigiau rannu’r pwyntiau, ac hynny ar ôl ildio cic o’r smotyn ddadleuol, a’r gêm yn gorffen yn 1-1 ar Barc Jenner.

Mae chwech allan o 10 o gemau cystadleuol diwethaf Y Barri wedi gorffen yn 1-1, yn cynnwys eu dwy gêm agoriadol y tymor hwn, yn erbyn Y Bala a Llanelli (Cwpan Nathaniel MG).

Ond bydd Met Caerdydd ddim yn fodlon gyda pwynt yn unig, a tydyn nhw m’ond wedi colli un o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 2).

 

Pen-y-bont v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45

Y Drenewydd sydd ar frig y tabl ar ôl trechu Aberystwyth o 4-1 yn narbi’r canolbarth ar noson agoriadol y tymor.

Roedd y Robiniaid yn colli 1-0 ar yr egwyl, ond cafwyd perfformiad arbennig gan griw Scott Ruscoe yn yr ail hanner gyda Zeli Ismail yn creu tair o’r bedair gôl, a dwy o rheiny i’r blaenwr Jason Oswell.

Pen-y-bont sydd yn ail yn dilyn eu buddugoliaeth gyfforddus o 2-0 oddi cartref yn erbyn Llansawel ble sgoriodd James Crole ddwy gôl yn ei gêm gyntaf i’r clwb.

Roedd Pen-y-bont wedi curo Llansawel o 3-0 y penwythnos canlynol yng Nghwpan Nathaniel MG, sy’n golygu bod tîm Rhys Griffiths wedi cadw llechen lân mewn naw o’u 10 gêm ddiwethaf, ac ond wedi ildio’n ystod y rhediad hwnnw yn erbyn Caernarfon yn rownd derfynol gemau ail gyfle Ewrop.

Cyn y golled honno’n erbyn y Cofis, fe enillodd Pen-y-bont o 5-0 yn y Drenewydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, gan eu ymestyn eu rhediad i saith gêm heb golli yn erbyn cochion y canolbarth (ennill 6, cyfartal 1).

 

Y Bala v Llansawel | Nos Wener – 19:45

Bu rhaid i’r Bala fodloni ar bwynt yn unig wedi eu gêm agoriadol yn erbyn Y Barri brynhawn Sadwrn, ond bydd Colin Caton yn disgwyl buddugoliaeth gartref yn erbyn Llansawel y penwythnos hwn.

Dyw’r Bala ond wedi ennill un o’u 11 gêm gystadleuol ddiwethaf, a daeth honno yn erbyn Rhuthun yng Nghwpan Nathaniel MG bythefnos yn ôl (Rhu 0-1 Bala).

Ar ôl colli yn erbyn Pen-y-bont am ddau benwythnos yn olynol bydd Llansawel yn falch o gael wynebu her wahanol, ond mi fydd hi’n gêm galed unwaith yn rhagor i newydd-ddyfodiaid y gynghrair.

Fe wnaeth y clybiau gyfarfod yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru ‘nôl ym mis Chwefror 2023 ble enillodd Y Bala o 2-0 gyda Chris Venables ac Adam Roscrow yn rhwydo ar Faes Tegid y diwrnod hwnnw.

 

Y Fflint v Y Seintiau Newydd | Nos Wener – 19:45

Efallai nad ydyn nhw wedi dechrau eu hymgyrch yn y gynghrair, ond mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi chwarae saith o gemau cystadleuol y tymor hwn, sef chwe gêm Ewropeaidd ac un gêm gwpan yn erbyn Y Fflint.

Wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Petrocub nos Fawrth, mae’r Seintiau wedi syrthio o Gynghrair Europa a bydd y clwb yn chwarae yn rownd ragbrofol Cyngres UEFA yr wythnos nesaf.

Colli bu hanes Y Fflint yn eu gêm gyntaf ers dychwelyd i’r uwch gynghrair, ac hynny mewn gêm agos yn erbyn Met Caerdydd ddydd Sadwrn diwethaf (Ffl 1-2 Met).

Gorffennodd Y Fflint yn 2il yng Nghynghrair y Gogledd y tymor diwethaf ac esgyn i’r Cymru Premier JD gan i’r pencampwyr, Treffynnon fethu a sicrhau’r trwydded ddomestig, ond mae’r rheolwr Lee Fowler yn benderfynol o wneud y mwyaf o’r sefyllfa a pheidio syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen.

Mae’r clybiau eisoes wedi cyfarfod yng Nghwpan Nathaniel MG y tymor hwn gyda’r Seintiau’n ennill o 5-1, sy’n golygu bod Y Fflint wedi ildio pump, chwech, saith ac wyth yn eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn y pencampwyr.

Enillodd Y Seintiau Newydd y dwbl y tymor diwethaf (UGC a Cwpan MG), yn cipio’r bencampwriaeth am y trydydd tymor yn olynol ac am y 16eg tro yn eu hanes.

YSN oedd y tîm cyntaf i fynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm gynghrair ers Y Barri yn 1997/98, a’r bwlch o 33 pwynt rhwng YSN a Chei Connah (2il) oedd y mwyaf erioed yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru.

 

Aberystwyth v Cei Connah | Nos Wener – 20:00

Wedi dwy flynedd wrth y llyw fe gyhoeddodd Cei Connah bod y rheolwr Neil Gibson wedi gadael y clwb yr wythnos hon.

Yn ystod ei gyfnod fel rheolwr, fe ddaeth Cei Connah yn 2il am ddwy flynedd yn olynol dan arweiniad Neil Gibson gan ennill Cwpan Cymru JD yn 2023/24.

Bydd Aberystwyth a Cei Connah yn chwilio am eu pwyntiau cyntaf yn y gêm hwyr nos Wener.

Ar ôl mynd ar y blaen ar Barc Latham nos Wener diwethaf bydd Anthony Williams yn siomedig bod Aberystwyth wedi ildio pedair gôl yn yr ail hanner gan syrthio i waelod y tabl.

Collodd Cei Connah gartref yn erbyn Hwlffordd brynhawn Sul, ac roedd yr is-reolwr Lee Jones yn cyfaddef ei bod hi am fod yn dymor anodd i’r Nomadiaid gyda nifer fawr o’r garfan wedi gadael dros yr haf, yn cynnwys eu prif sgoriwr llynedd, Jordan Davies (19 gôl, creu 5), yn ogystal â Harry Franklin (9 gôl, creu 7).

Mae gan Aberystwyth record gartref gryf yn erbyn Cei Connah, a dyw’r Gwyrdd a’r Duon heb golli mewn tair gêm gartref yn erbyn y Nomadiaid (ennill 1, cyfartal 2).

Er hynny, dyw Cei Connah ond wedi colli un o’u 15 gornest ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth ym mhob cystadleuaeth (ennill 11, cyfartal 3).

 

Dydd Sadwrn, 17 Awst

Caernarfon v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 17:15 (Online)

Bydd ymgyrch Caernarfon yn dechrau gyda gêm gartref ar yr Oval yn erbyn Hwlffordd, fydd yn llawn hyder ar ôl synnu Cei Connah y penwythnos diwethaf gyda buddugoliaeth o 1-0 ar Gae-y-Castell.

Sgoriodd Ben Ahmun o’r smotyn yn ei gêm gynghrair gyntaf i’r Adar Gleision i sicrhau’r triphwynt a bydd Hwlffordd yn bendant yn anelu am y Chwech Uchaf eleni.

Mae Caernarfon wedi mwynhau haf i’w chofio ar ôl cystadlu’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes a churo Crusaders o Ogledd Iwerddon cyn colli yn erbyn cewri Gwlad Pwyl, Legia Warsaw.

Yn y gorffennol mae nifer o glybiau wedi dechrau’r tymor domestig yn araf ar ôl cystadlu’n Ewrop, a bydd y Cofis yn awyddus i beidio a syrthio mewn i’r arferiad hwnnw.

Hwlffordd gafodd y gorau o bethau yn y gemau rhwng y timau yma’r tymor diwethaf, yn ennill 1-0 ar yr Oval ym mis Rhagfyr yn dilyn gêm gyfartal 1-1 ar Ddôl y Bont ym mis Awst.

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?