Ar ôl chwarae 10 o gemau cynghrair, triawd o’r de sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier JD gyda Pen-y-bont driphwynt yn glir ar y brig, a Met Caerdydd a Hwlffordd yn yr 2il a’r 3ydd safle.
Mae’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn y 5ed safle ac wedi colli dwy o’u saith gêm gynghrair hyd yma, ond gyda tair gêm wrth gefn bydd criw Craig Harrison yn hyderus o allu cau’r bwlch ar y ceffylau blaen.
Mae’n edrych yn ddu ar Aberystwyth sydd wedi llithro i waelod y tabl ar ôl colli saith gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair.
Nos Wener, 4 Hydref
Cei Connah (9fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Wener – 19:45
Dros chwarter ffordd drwy’r tymor a nid llawer fyddai wedi darogan y byddai Cei Connah yn yr hanner isaf ar ôl colli mwy na hanner eu gemau cynghrair, ac ennill dim ond dwy allan o naw.
Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid yn dechrau’r penwythnos yn y 9fed safle, ar ôl cychwyn araf i’r tymor presennol o dan y rheolwr newydd Billy Paynter.
Clwb arall sy’n stryffaglu yw Aberystwyth, ac ar ôl colli saith gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair mae angen gwella’n gyflym os am osgoi’r cwymp eleni.
I wneud hynny bydd rhaid i garfan Aberystwyth ddod o hyd i’w hesgidiau sgorio gan eu bod m’ond wedi rhwydo un gôl yn eu chwe gêm gynghrair ddiwethaf.
Mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal 1-1 gyda John Owen yn rhwydo yn y ddwy gêm i Aberystwyth.
Ond dyw’r Nomadiaid heb golli gartref yn erbyn Aberystwyth ers Hydref 2015, gan ennill eu naw gêm gartref yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon ers hynny.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏❌❌❌➖❌
Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌
Pen-y-bont (1af) v Y Barri (8fed) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)
Pen-y-bont sy’n parhau i osod y safon, driphwynt yn glir ar y copa gyda 23 o bwyntiau ar ôl ennill saith o’u 10 gêm gynghrair hyd yma.
Adeg yma’r tymor diwethaf, wedi 10 gêm gynghrair, roedd Pen-y-bont yn y 5ed safle gyda 17 o bwyntiau, naw pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd (26pt).
Bydd Y Barri ddim yn dîm hawdd i’w curo gan eu bod m’ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, a’r golled honno yn erbyn YSN (ennill 4, cyfartal 2)
Mae’r dair ornest ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal, ond dyw Pen-y-bont heb golli mewn 10 gêm yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 5).
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅✅✅❌✅
Y Barri: ✅❌➖➖✅
Y Bala (4ydd) v Hwlffordd (3ydd) | Nos Wener – 19:45
Mi fydd hi’n gêm allweddol ar Faes Tegid nos Wener rhwng dau dîm sydd mewn safle addawol i gyrraedd y Chwech Uchaf eleni.
Ond roedd yna rwystredigaeth i’r Bala y penwythnos diwethaf gyda’r garfan yn methu a churo Llansawel, ac hynny ar ôl trechu’r Seintiau Newydd oddi cartref am y tro cyntaf erioed ddyddiau ynghynt.
Does neb wedi ildio llai o goliau na’r Adar Gleision hyd yma (4 gôl mewn 10 gêm) gan gadw chwe llechen lân ac mae tîm Tony Pennock yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm.
Dyw’r Adar Gleision heb orffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle gyda dim ond Y Seintiau Newydd, Y Rhyl a Bangor yn gorffen uwch eu pennau y flwyddyn honno.
Dyw’r Bala heb golli yn eu wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd (ennill 5, cyfartal 3), ond yn y frwydr flaenorol rhwng y clybiau yn Ionawr 2024 roedd yr Adar Gleision ar y blaen o 1-0 wedi 86 munud, ac wedi diweddglo dramatig fe enillodd criw Colin Caton o 3-2 ar Ddôl y Bont.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌✅➖✅➖
Hwlffordd: ❌❌✅➖✅
Y Drenewydd (6ed) v Y Fflint (10fed) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Drenewydd wedi mynd ar rediad o dair gêm gynghrair heb ennill gan ddisgyn i’r 6ed safle, wyth pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Pen-y-bont.
Dyw’r Fflint chwaith heb ennill mewn tair gêm, ac mae angen pwyntiau ar dîm Lee Fowler i godi’n glir o’r ddau isaf.
Dyw’r clybiau yma heb gyfarfod ers Tachwedd 2022 pan enillodd Y Drenewydd o 4-1 ar Gae y Castell.
Aaron Williams sgoriodd gôl ola’r ornest honno, sef ei bumed gôl mewn pum gêm yn erbyn y Sidanwyr.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏✅✅➖➖❌
Y Fflint: ͏✅✅➖❌❌
Dydd Sadwrn, 5 Hydref
Met Caerdydd (2il) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd Met Caerdydd yn awyddus i gadw’r pwysau ar Pen-y-bont a chymryd cam yn nes at hawlio lle yn y Chwech Uchaf eleni.
Er colli ambell chwaraewr profiadol ar ddiwedd yr ymgyrch ddiwethaf mae gan y myfyrwyr saith pwynt yn fwy eleni nac oedd ganddyn nhw ar y pwynt yma’r tymor diwethaf.
Ar ôl dechrau araf i’r tymor mae’r canlyniadau wedi gwella’n ddiweddar i Gaernarfon gyda’r Cofis yn sicrhau 10 pwynt allan o’r 12 posib yn eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf.
Dyw Caernarfon heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf oddi cartref yng Nghampws Cyncoed (ennill 3, cyfartal 2), ond y myfyrwyr oedd yn dathlu ar yr Oval ym mis Awst wedi i Ryan Reynolds rwydo’r gôl fuddugol yn erbyn ei dref enedigol (Cfon 1-2 Met).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅❌✅✅❌
Caernarfon: ❌✅➖✅✅
Dydd Sul, 6 Hydref
Llansawel (11eg) v Y Seintiau Newydd (5ed) | Dydd Sul – 14:30
Ar ôl colli eu chwe gêm agoriadol ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair, mae Llansawel wedi dechrau tanio gan fynd ar rediad o dair gêm heb golli a churo’r clwb ar y copa.
Mae’r Seintiau mewn safle anghyfarwydd, yn dechrau’r penwythnos yn y 5ed safle ar ôl colli dwy o’u saith gêm gynghrair hyd yma.
Mae’r pencampwyr wedi bod yn brysur yn cystadlu’n Ewrop eleni, ac roedd hi’n noson hanesyddol i’r clwb yn Florence nos Iau yn eu gornest gyntaf erioed yng Nghyngres UEFA yn erbyn un o gewri’r Eidal, Fiorentina.
Aeth Llansawel ar y blaen yn erbyn y Seintiau yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y tymor diwethaf, ond sgoriodd y Seintiau bum gôl yn yr hanner awr olaf i sicrhau buddugoliaeth swmpus (Llan 1-5 YSN).
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌❌➖✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅❌❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.