S4C

Navigation

Mae ail ran y tymor yn dechrau’r penwythnos hwn wedi i’r gynghrair gael ei hollti’n ddwy ac am y 10 gêm nesaf bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bydd timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp. 

Mae’r Seintiau Newydd 15 pwynt yn glir ar y copa ac yn edrych yn bur debygol o sicrhau eu trydydd pencampwriaeth yn olynol a chodi’r tlws am yr 16eg tro yn eu hanes. 

Wedi hynny, mae Cei Connah 10 pwynt yn glir o’r Bala yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop. 

Bydd enillwyr Cwpan Cymru JD ac enillwyr y gemau ail gyfle hefyd yn hawlio lle’n Ewrop, ond os bydd enillwyr Cwpan Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle drwy orffen yn y ddau safle uchaf yn y gynghrair, yna bydd y tîm sy’n 3ydd yn cyrraedd Ewrop, fel sydd wedi digwydd yn y naw tymor diwethaf. 

Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen. 

 

CHWECH UCHAF 

 

Cei Connah (2il) v Caernarfon (6ed) | Nos Wener – 19:45 

Ar ôl gorffen y tymor diwethaf yn y 9fed safle mae Caernarfon wedi adennill eu lle yn y Chwech Uchaf eleni ac yn anelu i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn hanes y clwb. 

Mae Cei Connah wedi cyrraedd Ewrop saith gwaith yn yr wyth mlynedd diwethaf, a gyda’r Nomadiaid 10 pwynt yn glir yn yr ail safle mae disgwyl iddyn nhw gyrraedd y nod unwaith eto eleni. 

Ond un fydd ddim yn cynrychioli Cei Connah yn Ewrop ydi Jordan Davies, gan fod prif sgoriwr y Nomadiaid wedi arwyddo cytundeb i ymuno â Greenock Morton o Bencampwriaeth yr Alban ym mis Mehefin 2024. 

Mae’r ymosodwr 28 mlwydd oed yn gydradd ail ar restr prif sgorwyr y gynghrair y tymor hwn gyda 15 gôl a bydd hi’n gamp i Neil Gibson geisio denu chwaraewr cystal i lenwi ei esgidiau pan fydd yn gadael y clwb ar ddiwedd yr ymgyrch hon. 

Does gan y Cofis ddim record wych oddi cartref gan iddyn nhw ennill dim ond un o’u saith diwethaf oddi cartref, ac honno yn erbyn y tîm sydd ar waelod y tabl, sef Pontypridd. 

Mae Cei Connah eisoes wedi curo Caernarfon deirgwaith y tymor hwn gan sgorio 14 o goliau, a dyw’r Nomadiaid heb golli yn eu 14 gornest flaenorol yn erbyn y Caneris (ennill 11, cyfartal 3). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ➖✅❌❌✅ 

Cei Connah: ✅❌✅✅✅ 

 

Y Bala (3ydd) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i sicrhau lle’n Ewrop ym mhob un o’r naw blynedd diwethaf, felly dyna fydd y targed i’r ddau dîm yma eleni, gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r clybiau ar drothwy ail ran y tymor. 

Ers cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2013, mae’r Bala wedi llwyddo i gyrraedd y nod ar wyth achlysur, ond ar ôl methu’r gwch y tymor diwethaf ar ôl colli yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, bydd Colin Caton yn awyddus i ddychwelyd i Ewrop eleni. 

Dim ond unwaith y mae Met Caerdydd wedi cyrraedd Ewrop o dan eu henw presennol, ac hynny yn 2019 ar ôl curo’r Bala ar giciau o’r smotyn ym Maes Tegid yn rownd derfynol y gemau ail gyfle. 

Dyw Met Caerdydd heb golli yn eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Y Bala gan ildio dim ond unwaith (ennill 2, cyfartal 2). 

Ond mae’r Bala wedi bod ar rediad cryf yn ddiweddar gan golli dim ond un o’u 10 gêm flaenorol (ennill 7, cyfartal 2), a’r unig golled yn dod gartref yn erbyn Met Caerdydd ym mis Rhagfyr. 

Ac ar ôl ennill 1-0 ar Faes Tegid ym mis Rhagfyr diolch i gôl Eliot Evans mae Met Caerdydd wedi mynd ar rediad gwael o bedair gêm gynghrair heb ennill (cyfartal 2, colli 2). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ✅✅✅❌✅ 

Met Caerdydd: ➖❌➖❌✅ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Drenewydd (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’r Drenewydd wedi penodi rheolwr newydd yn dilyn ymadawiad Chris Hughes, ac mae’r enw newydd yn un cyfarwydd i selogion Y Seintiau Newydd. 

Scott Ruscoe yw rheolwr newydd Y Drenewydd, gŵr 46 oed chwaraeodd am dair blynedd i’r Robiniaid rhwng 1997-2000 cyn gwneud ei farc gyda’r Seintiau Newydd ble bu’n chwaraewr dylanwadol yng nghanol cae am 14 tymor rhwng 2002-2016 cyn mynd ymlaen i reoli’r clwb am bron i bedair blynedd. 

Fel chwaraewr fe enillodd y bencampwriaeth ar saith achlysur gyda’r Seintiau Newydd, cyn codi’r tlws ddwywaith yn olynol fel rheolwr yn 2017/18 a 2018/19.  

Cafodd ei ddiswyddo gan Y Seintiau Newydd ym mis Mawrth 2021 er bod y tîm ar frig y tabl, a bydd yn wynebu ei gyn-glwb yn ei gêm gyntaf wrth y llyw i’r Robiniaid. 

Llwyddodd y Seintiau i gyrraedd yr hollt heb golli dim un gêm gynghrair y tymor hwn (ennill 20, cyfartal 2) ac mae’r pencampwyr wedi ennill eu 16 gêm gynghrair ddiwethaf. 

Mae’r Seintiau wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd gyda Declan McManus yn sgorio saith o goliau yn erbyn y Robiniaid yn ystod y rhediad hynny yn cynnwys lob hyfryd o bellter fis diwethaf.  

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

Y Drenewydd: ❌❌❌❌✅ 

CHWECH ISAF 

 

Aberystwyth (10fed) v Hwlffordd (7fed) | Nos Wener – 20:00 

Hwlffordd sy’n arwain y ras yn y Chwech Isaf, yn dechrau ail ran y tymor driphwynt yn glir yn y 7fed safle ac yn gobeithio efelychu eu campau o’r tymor diwethaf pan orffennon nhw’n 7fed cyn mynd ymlaen i ennill y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop. 

Mae fel petae bod dwy gynghrair yn y Chwech Isaf gyda pum pwynt yn gwahanu Hwlffordd, Pen-y-bont a’r Barri yn y ras am y 7fed safle, a dim ond dau bwynt yn gwahanu Aberystwyth, Bae Colwyn a Pontypridd yn y frwydr i osgoi’r cwymp. 

Gyda 10 gêm yn weddill, dyw Aberystwyth ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp ac mae’r Gwyrdd a’r Duon mewn perygl o lithro o’r gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Aberystwyth sydd â’r record gartref waethaf yn y gynghrair ar ôl colli wyth o’u 11 gêm ar Goedlan y Parc (cyfartal 2, ennill 1), ond Hwlffordd oedd un o’r tri clwb i ollwng pwyntiau yno yn rhan gynta’r tymor (Aber 1-1 Hwl). 

Er hynny mae Hwlffordd ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth (ennill 3, cyfartal 2) a dyw’r Adar Gleision heb golli oddi cartref ers mis Hydref. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ͏❌✅➖❌❌ 

Hwlffordd: ͏❌➖✅❌✅ 

 

Y Barri (9fed) v Pontypridd (12fed) | Dydd Sadwrn – 13:00 

Mae Pontypridd wedi penodi cyn-reolwr Aberystwyth, Gavin Allen fel eu rheolwr newydd yn dilyn ymadawiad Andrew Stokes. 

Mae Pontypridd yn eistedd ar waelod y tabl ar ôl derbyn cosb o chwe phwynt am dorri rheolau’r gynghrair, ond bellach dau bwynt yn unig sydd rhyngddyn nhw a diogelwch y 10fed safle. 

Bydd disgwyl i Allen gryfhau’r garfan gan i bedwar o chwaraewyr allweddol y tîm adael yn ystod mis Ionawr gyda Corey Shephard, Kurtis Rees, Joe Hunt a Danny Williams yn ffarwelio â’r clwb. 

Mae’r Barri naw pwynt uwchben y ddau isaf, felly anelu am y 7fed safle fydd y nod i’r Dreigiau er mwyn cystadlu am le’n Ewrop. 

Enillodd Y Barri eu dwy gêm olaf cyn yr hollt gan sgorio pedair gôl yn y ddwy gêm ac felly mi fyddan nhw’n ysu i gael ail-ddechrau eu tymor ddydd Sadwrn. 

Y tîm cartref oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm rhwng y clybiau yn rhan gynta’r tymor – Pontypridd yn ennill 1-0 ym mis Medi cyn i’r Barri dalu’r pwynt yn ôl gyda buddugoliaeth o 2-0 ar Barc Jenner ym mis Hydref. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ✅✅➖❌❌ 

Pontypridd: ✅❌✅❌❌ 

 

 

Bae Colwyn (11eg) v Pen-y-bont (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Pen-y-bont yw’r unig un o’r chwe chlwb orffennodd yn y Chwech Uchaf y tymor diwethaf i fethu ac ail-adrodd y gamp eleni. 

Llwyddodd Pen-y-bont i orffen yn 3ydd yn nhymor 2022/23 gan hawlio lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, ond dyw’r tîm heb gyrraedd yr un uchelfannau eleni ac felly’n paratoi am ail ran y tymor yn yr hanner isaf. 

Ond dyw’r freuddwyd Ewropeaidd ddim ar ben i Ben-y-bont gan eu bod yn bendant am gystadlu gyda Hwlffordd i gyrraedd y 7fed safle a’r gemau ail gyfle. 

Dyw Bae Colwyn heb gael y dechreuad delfrydol i’w cyfnod yn yr uwch gynghrair ar ôl esgyn dros yr haf gyda’r Gwylanod mewn perygl o syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen. 

Mae tîm Steve Evans wedi colli chwe gêm gynghrair yn olynol gyda’u buddugoliaeth ddiwethaf yn y gynghrair yn dod gartref yn erbyn Pen-y-bont ym mis Tachwedd. 

Yn wir, Pen-y-bont oedd yr unig dîm i golli eu dwy gêm gynghrair yn erbyn Bae Colwyn yn rhan gynta’r tymor felly bydd y Gwylanod yn gobeithio cwblhau’r hatric dros eu gwrthwynebwyr brynhawn Sadwrn. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ❌❌❌❌❌ 

Pen-y-bont: ❌✅✅❌❌ 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?