S4C

Navigation

Pum rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac mae’r ras yn poethi i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

Mae’r Seintiau Newydd naw pwynt yn glir ar y copa ac eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr hanner Uchaf, tra bo Cei Connah a’r Drenewydd yn edrych yn ddigon cyfforddus hefyd. 

Wedi hynny, dim ond pum pwynt sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng y 4ydd a’r 8fed safle gyda Met Caerdydd, Y Bala, Caernarfon, Pen-y-bont a Hwlffordd i gyd yn brwydro i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

 

 

Dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr 

Met Caerdydd (4ydd) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Gyda gêm wrth gefn mae Met Caerdydd mewn safle addawol i hawlio lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol. 

Ar gyfartaledd, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn yr hanner uchaf, a gyda chwe gêm i fynd tan yr hollt byddai pum pwynt arall yn golygu bod tîm Ryan Jenkins yn cyrraedd y targed hwnnw. 

Dyw Met Caerdydd ond wedi colli un o’u 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 6, cyfartal 3), tra bo Aberystwyth wedi colli pedair yn olynol. 

Mae’r myfyrwyr ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Aber (ennill 5, cyfartal 1), yn cynnwys eu buddgoliaeth o 1-0 yng Nghoedlan y Parc ar ddechrau’r tymor ble sgoriodd Eliot Evans unig gôl y gêm yn yr hanner cyntaf, cyn cael cerdyn coch yn yr ail hanner.  

Hon fydd dim ond yr ail gêm rhwng y timau yn ystod 2023, sy’n anarferol o isel o ystyried i’r clybiau wynebu ei gilydd bum gwaith yn 2022 a 2021, a chwe gwaith yn 2019! 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ➖✅✅❌✅ 

Aberystwyth: ❌➖❌✅✅ 

 

Pontypridd (11eg) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae yna sefyllfa bryderus yn datblygu ym Mhontypridd gyda’r clwb wedi eu cyhuddo o dorri rheolau’r gynghrair ynglŷn â chytundebau, taliadau a chwarae chwaraewyr anghymwys.  

Mae Pontypridd eisoes wedi cael eu gwahardd o Gwpan Cymru JD, ac mae siawns y bydd cosbau pellach i ddilyn. 

Tydi pethau ddim yn mynd llawer gwell ar y cae i Bontypridd chwaith gyda’r tîm wedi sicrhau dim ond un pwynt o’u chwe gêm ddiwethaf.  

Dros hanner ffordd drwy’r tymor a dim ond chwe gôl mae Pontypridd wedi ei sgorio mewn 17 gêm gynghrair (0.35 gôl y gêm), felly mae her fawr o flaen y rheolwr Andrew Stokes os am geisio cadw’r clwb rhag y cwymp. 

Mae Caernarfon ymysg y clybiau sy’n cystadlu i hawlio lle’n y Chwech Uchaf a gan bod tair o’u pum gem sy’n weddill yn erbyn timau o’r hanner isaf, mae cyfle gwirioneddol gan y Cofis o gyrraedd y nod. 

Gôl Phil Mooney oedd y gwahaniaeth rhwng y timau ar yr Oval ym mis Medi (Cfon 1-0 Pont), ond dyw’r Caneris erioed wedi ennill oddi cartref ym Mhontypridd. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pontypridd: ❌❌➖❌❌ 

Caernarfon: ➖❌❌❌✅ 

 

Cei Connah (2il) v Y Barri (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Cei Connah yn weddol saff o’u lle yn y Chwech Uchaf, ond yr ail safle ydi targed realistig y Nomadiaid eto eleni, er mwyn sicrhau safle awtomatig yn Ewrop. 

Mae’r Barri wyth pwynt o dan y 6ed safle, felly teg dweud mae osgoi’r cwymp ydi’r brif nod i’r Dreigiau gan eu bod ond driphwynt uwchben Pontypridd (11eg). 

Enillodd Cei Connah o 3-2 oddi cartref ym Mae Colwyn nos Fercher gyda Declan Poole yn creu’r dair gôl i’r Nomadiaid, ac 1-1 oedd hi rhwng Y Barri a Phen-y-bont nos Fawrth wrth i Kayne McLaggon rwydo i dîm Steve Jenkins. 

Cei Connah oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol rhwng y timau yma ym mis Medi, yn ennill 4-1 ar Barc Jenner gyda’u prif sgoriwr Jordan Davies yn sgorio ddwywaith i’r Nomadiaid. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ✅❌❌✅✅ 

Y Barri: ➖✅❌✅❌ 

 

Y Drenewydd (3ydd) v Bae Colwyn (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Byddai pwynt i’r Drenewydd brynhawn Sadwrn yn eu codi i 31 o bwyntiau, sef y cyfanswm cyfartalog sydd wedi bod ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

Ond bydd y Robiniaid yn llygadu’r ail safle, a ticed awtomatig i Ewrop, gan eu bod ond bum pwynt y tu ôl i Gei Connah (2il). 

Dyw Bae Colwyn ond un pwynt uwchben y ddau isaf, a does neb wedi ildio mwy o goliau na’r Gwylanod y tymor hwn.  

Bydd prif sgoriwr y gynghrair, Aaron Williams yn llyfu ei weflau felly gan obeithio ychwanegu at ei 13 gôl i’r Drenewydd hyd yma. 

Mae’r clybiau eisoes wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn gyda’r Drenewydd yn ennill 4-2 ar Ffordd Llanelian mewn gêm gynghrair cyn i Fae Colwyn dalu’r pwyth yn ôl ar Barc Latham gan guro’r Robiniaid ar giciau o’r smotyn fis diwethaf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Drenewydd: ✅➖✅❌➖ 

Bae Colwyn: ❌✅✅❌❌ 

  

Hwlffordd (8fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30WEDI EI GOHIRIO

Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau rhediad o 24 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi ennill 16 yn olynol gan dorri naw pwynt yn glir ar frig y gynghrair gyda gêm wrth gefn.  

Dyma gyfnod hiraf Y Seintiau Newydd heb golli ers Rhagfyr 2018 i Gorffennaf 2019 pan aethon nhw am 25 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, gyda FC Copenhagen yn dod a’r rhediad i ben yn y pen draw.  

A dyma’r tro cyntaf i gewri Croesoswallt ennill 16 gêm yn olynol ers iddyn nhw dorri record y byd yn 2016 gyda 27 buddugoliaeth yn olynol. 

Bydd hi’n her a hanner i Hwlffordd felly sydd yn dal â’u bryd ar gyrraedd y Chwech Uchaf, ond mae hi am fod yn dasg anodd i’r Adar Gleision gan bod tair o’u pum gêm sy’n weddill yn erbyn clybiau sydd uwch eu pennau yn y tabl. 

Ond dyw Hwlffordd ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 5, cyfartal 2), a dyw tîm Tony Pennock heb golli dim un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf. 

Er hynny, mae’r Seintiau wedi ennill eu pum gêm flaenorol yn erbyn Hwlffordd, yn cynnwys buddugoliaeth o 5-1 yn Neuadd y Parc ym mis Medi ble sgoriodd Ryan Brobbel hatric ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ➖✅✅➖❌ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

 

Pen-y-bont (7fed) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 17:30 (Yn fyw arlein) 

Pum gêm i fynd at yr hollt ac o bosib y sioc mwyaf eleni yw bod Pen-y-bont yn eistedd yn yr hanner isaf, ac hynny ar ôl cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf. 

Dyw Pen-y-bont ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf, gan golli pump o rheiny, ac mae tîm Rhys Griffiths ddau bwynt o dan Gaernarfon sy’n dechrau’r penwythnos yn y 6ed safle hollbwysig. 

Y newyddion drwg i Ben-y-bont yw bod rhediad anodd o gemau yn eu wynebu cyn yr hollt gan eu bod angen chwarae Y Seintiau Newydd, Cei Connah a Met Caerdydd yn ogystal â’r Bala a Phontypridd. 

Dyw gemau’r Bala ddim yn rhai hawdd chwaith gyda Met Caerdydd, Y Drenewydd a Hwlffordd i ddod, yn ogystal â Phen-y-bont a Bae Colwyn. 

Y Seintiau Newydd yw’r unig dîm i guro’r Bala yn eu naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, a’r Seintiau hefyd yw’r unig dîm sydd â record amddiffynnol well na chriw Maes Tegid. 

Enillodd Y Bala o 2-1 gartref yn erbyn Pen-y-bont yn gynharach y tymor hwn, a dyw carfan Colin Caton heb golli mewn pedair gêm yn erbyn bechgyn Bryntirion. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ➖❌➖✅❌ 

Y Bala: ➖✅➖❌✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun am 9:30. 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?