Ar gyfartaledd, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, ac mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah eisoes wedi croesi’r trothwy hwnnw gyda saith gêm i fynd tan yr hollt.
Ond i’r gweddill, mae’n gaddo i fod yn dipyn o ras i gyrraedd y Chwech Uchaf eleni gyda’r Bala ar hyn o bryd yn eistedd yn 6ed, un pwynt uwchben Pen-y-bont sydd â gêm wrth gefn.
Bydd Y Seintiau Newydd yn herio Arbroath yn rownd wyth olaf Cwpan Her yr Alban brynhawn Sadwrn, felly dim ond pum gêm fydd yn cael ei chwarae yn y Cymru Premier JD dros y penwythnos.
Nos Wener, 17 Tachwedd
Aberystwyth (11eg) v Y Bala (6ed) | Nos Wener – 20:00
Bydd Y Bala’n teithio i Goedlan y Parc am yr eildro mewn chwe diwrnod yn dilyn eu buddugoliaeth yno yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD ddydd Sadwrn diwethaf.
Sgoriodd Iwan Roberts unig gôl y gêm i’r Bala y penwythnos diwethaf gan dalu’r pwyth yn ôl i Aberystwyth a gurodd Y Bala o 1-0 mewn gêm gynghrair ar Faes Tegid ym mis Medi, gyda Roberts yn gweld cerdyn coch y noson honno.
Ond dyw’r Gwyrdd a’r Duon heb ennill gartref yn erbyn Y Bala ers pum mlynedd, pan sgoriodd Geoff Kellaway, Rio Ahmadi ac Ashley Ruane mewn buddugoliaeth o 3-2 ym mis Medi 2018.
Ac ar ôl colli 1-0 gartref yn erbyn Y Drenewydd nos Fawrth, dyw Aberystwyth yn dal heb ennill dim un gêm gynghrair ar Goedlan y Parc y tymor hwn gan sicrhau dim ond un pwynt allan o 18 posib.
Ond tydi’r Bala heb fod ar eu gorau eleni chwaith, gyda criw Colin Caton yn ennill dim ond dwy o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf.
Ac mae record oddi cartref Y Bala yn siomedig gan nad ydi’r clwb wedi ennill mewn 14 gêm gynghrair, gyda’u triphwynt diwethaf yn dod ar ddydd San Steffan y llynedd ar yr Oval (Cfon 1-5 Bala).
Er hynny, does gan neb record amddiffynnol well na’r Bala yn y gynghrair y tymor hwn (ildio 11 mewn 15), a dim ond Aberystwyth (9) a Phontypridd (5) sydd wedi sgorio llai na hogiau Maes Tegid (11).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌✅✅❌➖
Y Bala: ➖❌✅➖✅
Dydd Sul, 19 Tachwedd
Caernarfon (5ed) v Y Barri (10fed) | Dydd Sul – 14:30
Ar ôl pythefnos o seibiant bydd Caernarfon yn awyddus i ail-gydio yn eu hymgyrch i geisio hawlio lle yn y Chwech Uchaf.
Mae’r Cofis driphwynt yn glir o’r clwb sy’n 7fed, sef Pen-y-bont ond mae ganddyn nhw gêm wrth gefn i’w chwarae yn erbyn Bae Colwyn sydd ar waelod y tabl.
A Bae Colwyn (32) ydi’r unig dîm sydd wedi ildio mwy o goliau na Chaernarfon (30) y tymor yma.
Mae’r Caneris unai wedi sgorio o leiaf tair gôl neu ildio o leiaf tair gôl mewn 11 o’u 12 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 5, colli 7).
Ond mae Caernarfon mewn safle dipyn cryfach na’r Barri, sydd ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp ar ôl ennill dim ond tair o’u 15 gêm gynghrair hyd yma.
Y Cofis oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Medi (Barr 0-3 Cfon), ond mae’r Barri wedi ennill ar eu dau ymweliad diwethaf â’r Oval.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌✅✅❌
Y Barri: ❌✅❌✅❌
Cei Connah (2il) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sul – 14:30
Mae Cei Connah a Hwlffordd wedi camu ymlaen i bedwaredd rownd Cwpan Cymru ar ôl buddugoliaethau yn erbyn Prestatyn a Rhydaman o’r ail haen y penwythnos diwethaf.
Sgoriodd Jordan Davies hatric arall ym muddugoliaeth Cei Connah o 8-0 yn erbyn ei gyn-glwb Prestatyn, a bydd y blaenwr dawnus eisiau creu argraff yn erbyn un arall o’i gyn-glybiau ddydd Sul.
Mae Hwlffordd wedi dechrau dringo’r tabl ar ôl colli dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 4, cyfartal 1) a dyw’r Chwech Uchaf ddim allan o afael yr Adar Gleision, sydd ond bedwar pwynt y tu ôl i’r Bala (6ed).
Mae Cei Connah eisoes wedi trechu Hwlffordd y tymor hwn (Hwl 1-3 Cei), a dyw’r Adar Gleision heb ennill oddi cartref yn erbyn y Nomadiaid ers 20 mlynedd.
A dim ond un o’u wyth gêm oddi cartref y mae Hwlffordd wedi ei ennill y tymor hwn, gyda’r fuddugoliaeth honno yn dod yn erbyn Bae Colwyn (12fed).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ❌✅✅➖͏➖
Hwlffordd: ✅➖❌✅❌✅
Pen-y-bont (7fed) v Y Drenewydd (3ydd) | Dydd Sul – 14:30
Mae’n gaddo i fod yn gêm allweddol ym Mryntirion wrth i Ben-y-bont geisio dringo ‘nôl i’r Chwech Uchaf.
Mae Pen-y-bont wedi colli pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf, ac ar ôl cael eu gyrru allan o Gwpan Cymru gan Llanelli o’r ail haen nos Wener diwethaf bydd Rhys Griffiths yn benderfynol o weld ei garfan yn ymateb yn gadarnhaol brynhawn Sul.
Roedd Y Drenewydd hefyd yn siomedig o golli yng Nghwpan Cymru dros y penwythnos, ond fe enillodd y Robiniaid gêm gynghrair yn erbyn Aberystwyth yn nghanol wythnos gan godi i’r 3ydd safle.
Mae Pen-y-bont wedi ennill eu pum gêm flaenorol yn erbyn Y Drenewydd, ond bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn wyliadwrus o flaenwr y Robiniaid, Aaron Williams sy’n dal ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair gyda 12 gôl.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅❌❌❌❌
Y Drenewydd: ✅❌➖❌✅
Pontypridd (9fed) v Bae Colwyn (12fed) | Dydd Sul – 14:30
Mae yna sefyllfa bryderus yn datblygu ym Mhontypridd gyda’r clwb wedi eu cyhuddo o dorri rheolau’r gynghrair ynglŷn â chytundebau, taliadau a chwarae chwaraewyr anghymwys.
Mae Pontypridd eisoes wedi cael eu gwahardd o Gwpan Cymru JD, ac mae siawns y bydd cosbau pellach i ddilyn.
Yn y cyfamser, ar y cae bydd Ponty yn herio Bae Colwyn am y tro cyntaf erioed gan obeithio agor bwlch rhyngddyn nhw a’r clwb sydd ar waelod y domen.
Bae Colwyn (2) ydi’r unig dîm i ennill llai o gemau na Pontypridd (3) yn y gynghrair y tymor hwn, ond does neb wedi sgorio llai o goliau na Ponty (5 gôl mewn 15 gêm).
Ar ôl ennill dwy gêm yn olynol ym mis Medi mae Bae Colwyn wedi mynd ar rediad o saith gêm gynghrair heb ennill gan sicrhau dim ond un pwynt o’r 21 posib.
Ond fe gafodd y Gwylanod reswm i ddathlu y penwythnos diwethaf ar ôl cuor’r Drenewydd ar giciau o’r smotyn er mwyn selio eu lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ➖❌❌❌✅
Bae Colwyn: ͏❌❌❌❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00.