S4C

Navigation

10 rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt ac mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf wedi dechrau gyda holl dimau’r uwch gynghrair yn anelu am le yn yr hanner uchaf er mwyn sicrhau eu lle yn yr haen uchaf ar gyfer y tymor nesaf. 

 

 

Nos Wener, 20 Hydref 

Aberystwyth (12fed) v Y Drenewydd (3ydd) | Nos Wener – 20:00  

 

Daeth rhediad rhagorol Y Drenewydd i ben nos Fawrth wrth i’r Robiniaid golli am y tro cyntaf ers mis Awst oddi cartref ym Met Caerdydd, ac hynny ar ôl ildio’n hwyr wedi 90 munud (Met 2-1 Dre). 

 

Roedd tîm Chris Hughes wedi ennill wyth gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth cyn teithio i Gampws Cyncoed ble dyw’r Drenewydd erioed wedi ennill yn erbyn y myfyrwyr (colli 9, cyfartal 3). 

 

Aberystwyth sydd ar waelod y tabl ar ôl ennill dim ond un o’u 12 gêm gynghrair hyd yma gyda’r golled ddiweddaraf yn dod yn erbyn Caernarfon nos Fawrth (Cfon 3-0 Aber). 

 

Pum pwynt yn unig sydd gan y Gwyrdd a’r Duon wedi 12 gêm a daeth un o rheiny yn erbyn Y Drenewydd mewn gêm ddi-sgôr ar Barc Latham ym mis Awst. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ❌➖❌✅❌ 

Y Drenewydd: ❌✅✅✅✅ 

 

Dydd Sadwrn, 21 Hydref 

 

Bae Colwyn (11eg) v Pen-y-bont (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Bae Colwyn wedi llithro’n ôl i safleoedd y cwymp, ond mae gan y Gwylanod gêm wrth gefn gan i’w gornest yn erbyn Y Seintiau Newydd gael ei gohirio yng nghanol wythnos. 

 

Mae Pen-y-bont wedi syrthio i’r hanner isaf am y tro cyntaf ers dwy flynedd ar ôl colli tair gêm gynghrair yn olynol gan ildio 11 gôl yn y broses. 

 

Sgoriodd Bae Colwyn chwe gôl yn erbyn Llanrwst y penwythnos diwethaf i selio eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru. 

 

Dyw Bae Colwyn ond wedi cadw un llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, a daeth honno yn eu buddugoliaeth arbennig oddi cartref yn erbyn Pen-y-bont ym mis Medi (Pen 0-1 Bae). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ͏❌➖❌❌✅ 

Pen-y-bont: ❌❌❌✅✅ 

 

Caernarfon (4ydd) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’n eithriadol o dynn yng nghanol y tabl gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r pedwar clwb rhwng y 4ydd a’r 7fed safle, ac un pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Cofis a’r myfyrwyr yn y ras i hawlio lle yn y Chwech Uchaf. 

 

Bydd Caernarfon yn hyderus ar ôl trechu Aberystwyth nos Fawrth, ond diffyg cysondeb yw gwendid y Caneris ar hyn o bryd, gyda’r tîm wedi ennill a cholli bob yn ail yn eu wyth gêm gynghrair ddiwethaf. 

 

Ar ôl curo’r Drenewydd nos Fawrth mae Met Caerdydd bellach ar rediad o bum gêm heb golli ac yn anelu i sicrhau eu lle’n y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol. 

 

Mae gan Caernarfon record ryfeddol yn erbyn Met Caerdydd gyda’r Cofis wedi ennill bob un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn clwb y brifysgol gan gadw pum llechen lân. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ✅❌✅❌✅ 

Met Caerdydd: ✅✅➖➖❌ 

 

Pontypridd (9fed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Mae dwy gêm gyfartal yn olynol yn y gynghrair wedi gweld Cei Connah yn colli tir ar y ceffylau blaen, a bellach mae’r Nomadiaid driphwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ac wedi chwarae un gêm yn fwy. 

 

Er hynny, dyw Cei Connah heb golli yn eu 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 8, cyfartal 2), ac mae hogiau Neil Gibson yn hynod debygol o fod yn cystadlu am le’n Ewrop eto eleni. 

 

Pontypridd sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliau hyd yma (4 gôl mewn 12) gyda’r tîm yn sgorio cyfartaledd siomedig o 0.33 gôl y gêm yn y gynghrair. 

 

Ac er mae dim ond dwywaith mae’r clybiau yma wedi cwrdd, dyw Pontypridd erioed wedi sgorio yn erbyn Cei Connah, gan golli’r ddwy ornest yn erbyn y Nomadiaid y tymor diwethaf. 

  

Record cynghrair diweddar:  

Pontypridd: ❌✅❌❌❌ 

Cei Connah: ͏➖✅✅✅ 

 

Y Bala (6ed) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Bydd Y Bala a Hwlffordd yn teimlo’n feiddgar ar ôl canlyniadau cadarn yng nghanol wythnos gyda’r Adar Gleision yn synnu Pen-y-bont nos Fawrth (Hwl 3-2 Pen) cyn i’r Bala gipio pwynt yn erbyn Cei Connah nos Fercher (Cei 1-1 Bala). 

 

Roedd gan Gei Connah record 100% ar Gae-y-Castell cyn i’r Bala ddod â’r rhediad i ben gyda’u pumed gêm gyfartal y tymor yma, sef y nifer fwyaf yn y gynghrair. 

 

Yn dilyn eu buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Pen-y-bont dyw Hwlffordd bellach ond bedwar pwynt y tu ôl i’r Bala’n y 6ed safle, ac ar ôl dechrau araf i’r tymor dyw’r freuddwyd o gyrraedd y Chwech Uchaf yn sicr ddim ar ben i Tony Pennock a’r tîm. 

 

Ond Y Bala fydd y ffefrynnau ddydd Sadwrn gan nad yw criw Colin Caton wedi colli yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd (ennill 3, cyfartal 3). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ➖✅❌❌❌ 

Hwlffordd: ✅❌✅➖❌ 

 

 

Y Barri (10fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Mae’r Barri wedi codi o’r ddau isaf ar ôl curo Pontypridd o 2-0 nos Fawrth, dim ond eu hail buddugoliaeth ers esgyn yn ôl i’r uwch gynghrair. 

 

A’r Barri yw’r unig dîm i gipio pwynt yn Neuadd y Parc y tymor yma ar ôl i Kayne McLaggon rwydo wedi 96 munud yng nghartre’r pencampwyr ‘nôl ym mis Awst (YSN 2-2 Barr). 

 

Mae’r Seintiau Newydd ar rediad o 16 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth ers cael eu gyrru allan o Ewrop gan Swift Hesperange ar Awst y 1af (ennill 14, cyfartal 2). 

 

Dyw’r Seintiau heb chwarae gêm gynghrair ers pythefnos ar ôl bod yn brysur yn curo East Fife ar giciau o’r smotyn yng Nghwpan Her yr Alban, cyn trechu Rhuthun o 5-0 yng Nghwpan Cymru nos Fercher. 

 

Ar gyfartaledd, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, ac fe all Y Seintiau Newydd groesi’r trothwy hwnnw gyda buddugoliaeth ddydd Sadwrn. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ✅❌❌❌✅ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?