Wedi 10 gêm gynghrair mae’r Seintiau Newydd a Cei Connah wedi torri’n glir ar y copa, gyda’r ddau dîm nesaf yn y tabl, Y Drenewydd a Chaernarfon yn cyfarfod ddydd Sadwrn. Yn yr hanner isaf, bydd Pontypridd yn herio Hwlffordd gyda’r ddau glwb â’u llygaid ar gyrraedd y Chwech Uchaf cyn yr hollt.
Nos Wener, 6 Hydref
Met Caerdydd (7fed) v Y Barri (11eg) | Nos Wener – 19:45
Yn dilyn eu gêm gyfartal o 2-2 ym Mae Colwyn brynhawn Sadwrn mae Met Caerdydd yn parhau yn yr hanner isaf ar ôl ennill dim ond un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf.
Roedd Alex Lang wedi cadw llechen lân ym mhob un o bedair gêm gynghrair agoriadol Met Caerdydd, ond ers hynny dyw’r myfyrwyr ond wedi cadw un llechen lân mewn chwe gêm.
Mae’r Barri’n dal yn safleoedd y cwymp gyda dim ond un fuddugoliaeth mewn 10 gêm y tymor hwn a cholled siomedig o 3-0 gartref yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn.
Dyw’r Barri ond wedi ennill un o’u chwe gêm flaenorol yn erbyn Met Caerdydd, ond daeth y fuddugoliaeth honno yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau ‘nôl yn Ebrill 2022 gyda Kayne McLaggon yn rhwydo unig gôl y gêm o’r smotyn.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖➖❌❌✅
Y Barri: ❌❌✅❌❌
Aberystwyth (12fed) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 20:00
Aberystwyth sydd ar waelod y domen ar ôl colli wyth o’u 10 gêm gynghrair hyd yma, ac mae’n mynd i fod yn her i Anthony Williams lywio’r Gwyrdd a’r Duon o yml y dibyn unwaith yn rhagor eleni gyda’r tîm eisoes bedwar pwynt o dan diogelwch y 10fed safle.
Mae Cei Connah yn hedfan, wedi ennill saith gêm yn olynol gan sgorio 3.4 gôl y gêm yn ystod y rhediad hwnnw diolch i gyfraniad allweddol prif sgoriwr y gynghrair Jordan Davies (9).
Y Nomadiaid yw’r unig glwb i ennill bob un o’u gemau cartref ers dechrau’r tymor, ac mae tîm Neil Gibson yn dynn ar sodlau’r Seintiau Newydd, dim ond dau bwynt y tu ôl i’r pencampwyr.
Ond dyw Cei Connah heb ennill ar Goedlan y Parc ers 2021, gyda’r Gwyrdd a’r Duon yn ennill un a chael un gêm gyfartal gartref yn erbyn y Nomadiaid ers hynny.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌✅❌❌❌
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Dydd Sadwrn, 7 Hydref
Pen-y-bont (5ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl colli 4-2 oddi cartref yn erbyn Cei Connah ddydd Sadwrn, dyw pethau’n mynd dim haws i Ben-y-bont sy’n croesawu cewri Croesoswallt i Fryntirion y penwythnos yma.
Mae’r clybiau wedi cyfarfod ar 17 achlysur, ac er bod y gemau’n tueddu i fod yn rhai agos dyw’r Seintiau erioed wedi colli yn erbyn tîm Rhys Griffiths (ennill 13, cyfartal 4).
Mae’r Seintiau Newydd ar rediad o 13 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth ers cael eu gyrru allan o Ewrop gan Swift Hesperange ar Awst y 1af (ennill 11, cyfartal 2).
Mae ymosodwr y Seintiau, Jordan Williams (10) yn hafal â Jordan Davies ar restr cyfranwyr goliau’r gynghrair ar ôl sgorio pump a chreu pump, a Ben Clark (9) wedi serennu i’r Seintiau hefyd.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌✅✅✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅➖
Y Bala (6ed) v Bae Colwyn (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Bala mewn perygl o syrthio i’r hanner isaf gan eu bod bellach ar rediad o saith gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth, ac ond wedi sgorio unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw.
Pontypridd (2) ac Aberystwyth (5) yw’r unig dimau i sgorio llai na’r Bala (6) wedi’r 10 gêm agoriadol, gyda’r clwb yn gweld colli chwaraewyr ymosodol fel Chris Venables, Lassana Mendes a David Edwards adawodd Maes Tegid dros yr haf.
Efallai bod y targed o gyrraedd y Chwech Uchaf yn dechrau llithro o afael y newydd-ddyfodiaid Bae Colwyn, sydd ond wedi ennill dwy o’u 10 gêm gynghrair hyd yma, a cholli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Prestatyn yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fawrth.
Wedi dweud hynny, dim ond un gêm gynghrair yn fwy mae’r Bala wedi ei hennill (3) felly dylai fod yn frwydr gyffrous yn yr ornest gystadleuol gyntaf erioed rhwng y ddau glwb yma.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌❌❌➖➖
Bae Colwyn: ͏➖❌❌✅✅
Y Drenewydd (3ydd) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Methodd Y Drenewydd ag ennill dim un o’u pedair gêm agoriadol, ond ers hynny mae tîm Chris Hughes wedi tanio gan ennill chwech yn olynol, eu rhediad gorau’n y gynghrair ers 19 mlynedd (ennill saith yn olynol yn Hydref 2004).
Mae’r Robiniad wedi cadw pedair llechen lân yn eu chwe gêm ddiwethaf, ac mae’r golwr Andy Wycherley bellach yn gydradd gyntaf ar frig rhestr y golwyr gyda pum llechen lân mewn 10 gêm.
Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r Drenewydd a Chaernarfon gyda’r Cofis yn anelu i ddychwelyd i’r Chwech Uchaf eleni ar ôl gorffen y tymor diwethaf yn 9fed.
Roedd Y Drenewydd wedi curo Caernarfon wyth gwaith yn olynol cyn i’r Cofis ennill 2-1 yn erbyn y Robinaid ym mis Awst.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅✅✅✅✅
Caernarfon: ✅❌✅❌✅
Pontypridd (9fed) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Arlein)
Pwynt yn unig sy’n gwahanu Pontypridd a Hwlffordd yn yr hanner isaf gyda’r ddau glwb o bosib wedi disgwyl dechreuad gwell i’r tymor.
Pontypridd sydd â’r record ymosodol waethaf yn y gynghrair ar ôl sgorio dim ond dwy gôl mewn 10 gêm, gan fethu a chanfod y rhwyd mewn 80% o’u gemau.
Yr amddiffynnwr, Keston Davies yw’r unig chwaraewr i sgorio o chwarae agored i Bontypridd y tymor yma (vs Aber, 12fed), gyda Ben Ahmun yn rhwydo’r unig gôl arall o’r smotyn (vs Barri, 11eg).
Bydd Hwlffordd yn llawn hyder ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 gartref yn erbyn Aberystwyth brynhawn Sadwrn wrth i Kai Whitmore redeg y sioe o ganol cae a sgorio ddwywaith.
Di-sgôr oedd hi rhwng y ddau dîm yma ar benwythnos agoriadol y tymor, a dyw Hwlffordd erioed wedi ennill oddi cartref ym Mhontypridd yn Uwch Gynghrair Cymru.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌❌❌➖❌
Hwlffordd: ✅➖❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35.