Bydd set llawn o gemau yn cael eu chwarae brynhawn Sadwrn gyda gornest bwysig tua’r gwaelod rhwng Hwlffordd ac Aberystwyth, tra bydd Cei Connah a Pen-y-bont yn cyfarfod gan geisio cadw gafael ar y ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd.
Dydd Sadwrn, 30 Medi
Bae Colwyn (9fed) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae mis Hydref yn brysur agoshau ac efallai bod y targed o gyrraedd y Chwech Uchaf yn dechrau llithro o afael y newydd-ddyfodiaid Bae Colwyn, sydd ond wedi ennill dwy o’u naw gêm gynghrair hyd yma.
Aberystwyth yw’r unig dîm i golli mwy o’u gemau cynghrair na Bae Colwyn y tymor yma, gyda’r Gwylanod wedi colli chwech o’u naw gêm ers esgyn i’r haen uchaf.
Mae Met Caerdydd hefyd yn yr hanner isaf ar ôl ennill dim ond un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf.
Ond y myfyrwyr oedd yn fuddugol pan aeth y timau benben fis diwethaf a Sam Jones oedd y seren yn sgorio unig gôl y gêm ar Gampws Cyncoed.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ❌❌✅✅❌
Met Caerdydd: ➖❌❌✅❌
Hwlffordd (10fed) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’n gaddo i fod yn ornest fawr tua’r gwaelodion rhwng dau dîm sydd wedi cael dechrau digon diflas i’r tymor.
Dyw Hwlffordd ond wedi ennill un o’u naw gêm gynghrair hyd yma, a tydi’r Adar Gleision heb ennill ar Ddôl-y-Bont ers mis Ebrill (Hwl 2-0 Pont).
Roedd Aberystwyth wedi mynd ar rediad o wyth gêm heb ennill cyn eu buddugoliaeth annisgwyl oddi cartref yn Y Bala nos Fercher gyda John Owen yn rhwydo unig gôl y gêm yn y gwynt a’r glaw ar Faes Tegid.
Ond bydd Hwlffordd yn ffyddiog am eu bod ar rediad o dair gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth (ennill 2, cyfartal 1), a bydd Tony Pennock yn mynnu dim llai na triphwynt gan ei garfan ddydd Sadwrn.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖❌❌❌✅
Aberystwyth: ✅❌❌❌❌
Y Barri (11eg) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl ennill dim ond un o’u naw gêm agoriadol mae’n ymddangos y bydd Y Barri yn un arall o’r clybiau fydd yn brwydro i aros yn y gynghrair eleni.
Er hynny, mae’r Dreigiau wedi cael tair gêm gyfartal ac wedi colli 1-0 oddi cartref ar dri achlysur, felly mae tîm Steve Jenkins yn sicr wedi bod yn gystadleuol ers eu dyrchafiad.
Mae Caernarfon wedi cael dechrau cadarnhaol i’r tymor gyda’u hunig golledion hyd yma wedi dod yn erbyn y timau orffennodd yn y tri uchaf llynedd.
Mae’r record benben yn hafal iawn gyda’r 10 gêm flaenorol rhwng y clybiau wedi bod yn rhai agos – Y Barri’n ennill pedair, Caernarfon yn ennill pedair a’r ddwy arall yn gorffen yn gyfartal.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌✅❌❌❌
Caernarfon: ❌✅❌✅❌
Y Drenewydd (4ydd) v Y Bala (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r ddau dîm yma wedi cael dechrau cwbl wrthgyferbyniol i’r tymor – Y Bala’n dechrau’n gryf ond wedi pylu bellach, tra bod Y Drenewydd wedi cymryd cwpl o wythnosau i gynhesu cyn cychwyn tanio.
Methodd Y Drenewydd ag ennill dim un o’u pedair gêm agoriadol, ond ers hynny mae tîm Chris Hughes wedi ennill pump yn olynol, a byddai buddugoliaeth arall ddydd Sadwrn yn golygu y byddai’r Drenewydd ar eu rhediad gorau’n y gynghrair ers 19 mlynedd (ennill saith yn olynol yn Hydref 2004).
Doedd Y Bala heb golli gêm gynghrair tan y penwythnos diwethaf pan ddaethon nhw’r tîm cyntaf i golli’n erbyn Y Barri y tymor yma, ac yna nos Fercher, unwaith eto Y Bala oedd y tîm cyntaf i golli’n erbyn Aberystwyth.
Mae’r Bala bellach ar rediad o chwe gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth, ac ond wedi sgorio unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw.
A dyw pethau ddim yn argoeli’n dda i Hogiau’r Llyn ar gyfer ddydd Sadwrn gan fod Y Drenewydd wedi ennill eu tair gêm flaenorol yn erbyn Y Bala.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅✅✅✅✅
Y Bala: ❌❌➖➖✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Pontypridd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier JD, dau bwynt yn glir ar y copa ac heb golli gêm gynghrair eto.
Mae tîm Craig Harrison ar rediad o 12 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth ers cael eu gyrru allan o Ewrop gan Swift Hesperange ar Awst y 1af (ennill 10, cyfartal 2).
Y pencampwyr sydd â’r record ymosodol orau’n y gynghrair (29 gôl, neu 3.2 gôl y gêm), a’u gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn, Pontypridd sydd â’r record waethaf (2 gôl, neu 0.2 gôl y gêm).
Cyn-amddiffynnwr y Seintiau, Keston Davies yw’r unig chwaraewr i sgorio o chwarae agored i Bontypridd y tymor yma (vs Aber, 12fed), gyda Ben Ahmun yn rhwydo’r unig gôl arall o’r smotyn (vs Barri, 11eg).
Ond Pontypridd sydd â’r record amddiffynnol gryfaf hefyd ar ôl ildio dim ond pum gôl mewn naw gêm, sy’n golygu bod llai na un gôl y gêm wedi cael ei sgorio ar gyfartaledd yn gemau Ponty y tymor yma.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill pob un o’r dair gêm flaenorol rhwng y clybiau heb ildio gôl, yn cynnwys buddugoliaeth oddi cartref o 1-0 fis diwethaf diolch i gôl hwyr Daniel Williams.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd:✅✅✅➖✅
Pontypridd: ❌❌➖❌✅
Cei Connah (2il) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Arlein)
Mae Cei Connah yn dynn ar sodlau’r Seintiau Newydd, dim ond dau bwynt tu ôl y pencampwyr ar ôl ennill chwe gêm gynghrair yn olynol.
Dyw’r Nomadiaid heb golli gêm gartref ers symud i Gae-y-Castell, ac fe rwydodd prif sgoriwr y gynghrair, Jordan Davies ei 7fed gôl y tymor yma wrth i hogiau Neil Gibson guro Bae Colwyn nos Fawrth (Cei 2-1 Bae).
Roedd yna driphwynt hefyd i Ben-y-bont nos Fawrth wrth i Chris Venables sgorio’r unig gôl yn erbyn Y Barri ar noson hanesyddol iddo fo, gyda’r blaenwr profiadol yn gwneud ei 537fed ymddangosiad yn y gynghrair gan dorri record Wyn Thomas.
Mae’r ystadegau benben yn sicr ar ochr Cei Connah gan nad ydynt wedi colli mewn saith gêm yn erbyn Pen-y-bont, ac ildio dim ond un gôl yn y bum gêm ddiwethaf rhwng y clybiau.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Pen-y-bont: ✅✅✅❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:05.