Dros y penwythnos diwethaf fe gadarnhaodd Cei Connah eu lle’n Ewrop ar ôl i’r Seintiau Newydd selio eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD.
Bydd Cei Connah yn wynebu’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ar ddydd Sul, 28 Ebrill yn Rodney Parade, Casnewydd.
Mae enillwyr y gwpan yn ennill tocyn i Ewrop, ond gan fod y Seintiau wedi selio eu lle’n Ewrop yn barod drwy ennill y bencampwriaeth, yna bydd y clwb sy’n 3ydd yn cymryd eu lle pe bae’r Seintiau’n fuddugol yn y ffeinal.
A gan bod Cei Connah wedi cadarnhau eu lle yn y tri uchaf yn barod, yna mae nhw’n sicr o gadarnhau safle Ewropeaidd rhyw ffordd.
Fe all Y Bala hawlio’r trydydd safle’n Ewrop dros y penwythnos gan mae dim ond dau bwynt sydd eu hangen arnyn nhw i gadarnhau eu lle’n y tri uchaf.
Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen.
CHWECH UCHAF
Y Bala (3ydd) v Y Drenewydd (6ed) | Nos Wener – 19:45
Dyw’r Bala ond un fuddugoliaeth i ffwrdd o hawlio eu lle’n Ewrop am y nawfed tro ers 2013.
Bu newidiadau mawr i’r garfan ar Faes Tegid dros yr haf ar ôl i’r Bala fethu a chyrraedd Ewrop y tymor diwethaf, gyda chwaraewyr dylanwadol fel Chris Venables, David Edwards, Alex Ramsay, Anthony Kay a Lassana Mendes yn gadael y clwb.
Er hynny, mae Colin Caton mewn safle addawol i arwain ei dîm i Ewrop unwaith yn rhagor eleni ar ôl colli dim ond un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf (vs YSN).
Mae’r Drenewydd allan o’r ras am y tri uchaf ar ôl colli naw o’u 11 gêm ddiwethaf (ennill 1, cyfartal 1), a bydd sylw Scott Ruscoe a’i garfan yn troi at y gemau ail gyfle.
Bydd y Robiniaid yn cystadlu yn y gemau ail gyfle am yr wythfed tro yn eu hanes, ac yn gobeithio dod y tîm cyntaf i ennill y gemau ail gyfle deirgwaith.
Ond colli bu hanes Y Drenewydd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle llynedd (ar giciau o’r smotyn vs Hwlffordd), ac hynny ar ôl curo’r Bala yn y rownd gynderfynol.
Y Bala yw’r unig dîm arall i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle deirgwaith (ennill 1, colli 2), a Bangor yw’r unig glwb arall i ennill y gemau ail gyfle ddwywaith.
Mae’r Bala wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd, yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 5-1 ar Barc Latham ym mis Chwefror ble sgoriodd George Newell hatric i fechgyn Meirionnydd.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖✅✅❌
Y Drenewydd: ➖❌✅❌❌
Y Seintiau Newydd (1af) v Caernarfon (4ydd) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd yn agoshau at y trebl domestig am y trydydd tro yn eu hanes ac am y tro cyntaf ers 2015/16.
Gyda dim ond pedair gêm gynghrair ar ôl i’w chwarae bydd cewri Croesoswallt yn anelu i fod y tîm cyntaf i fynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm gynghrair ers i’r Barri wneud hynny yn 1997/98.
Y Barri a’r Bala yw’r unig glybiau i faglu’r Seintiau’n y gynghrair hyd yma gyda gemau cyfartal ym mis Awst a Medi, ond ers hynny mae tîm Craig Harrison wedi ennill 22 gêm gynghrair yn olynol, yn ogystal â chodi Cwpan Nathaniel MG a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD.
Mae Caernarfon mewn safle cadarn cyn mynd mewn i’r gemau ail gyfle, ac mi fydd y Cofis yn benderfynol o ddal gafael ar y 4ydd safle er mwyn sicrhau gemau cartref yn y rownd gynderfynol a’r rownd derfynol.
Ond dyw’r Caneris heb ennill dim un o’u 14 gêm ddiwethaf yn erbyn criw Croesoswallt gyda’r Seintiau’n fuddugol yn y 10 gêm flaenorol rhwng y timau.
Ac roedd hi’n grasfa yn yr ornest flaenorol rhwng y clybiau gyda Caernarfon yn dioddef eu colled drymaf erioed yn yr uwch gynghrair wrth i’r Seintiau ennill 8-1 ar yr Oval a Brad Young yn sgorio hatric.
Brad Young yw prif sgoriwr y gynghrair eleni gyda 22 o goliau, a bydd gôl nesaf y Seintiau’n un arwyddocaol gan bod y clwb wedi sgorio 99 gôl gynghrair hyd yma ac yn gobeithio cyrraedd y cant am y trydydd tro yng nghyfnod y fformat 12-tîm (ers 2010/11).
Mae Caernarfon wedi llwyddo i sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn y pencampwyr, yn cynnwys gôl anhygoel gan Sion Bradley ym mis Chwefror, ond bydd golwr y Seintiau, Connor Roberts yn ysu i gadw ei 16eg llechen lân y tymor hwn i sichrau y Faneg Aur am yr ail dymor yn olynol.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Caernarfon: ❌✅➖✅❌
Met Caerdydd (5ed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dyw Cei Connah yn sicr heb fod ar eu gorau yn ddiweddar gan gipio dim ond un pwynt o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf, ond serch hynny mae’r Nomadiaid wedi cadarnhau eu lle’n Ewrop am yr wythfed tro ers 2016.
Ers chwarae’n Ewrop am y tro cyntaf yn haf 2016 a churo Stabaek o Norwy, mae Cei Connah wedi hawlio lle’n Ewrop ym mhob tymor ers hynny, oni bai am 2021/22 pan dderbyniodd y Nomadiaid 18 pwynt o gosb gan y gynghrair am gamgymeriad gweinyddol.
Bydd Neil Gibson yn gobeithio gwella ar record Ewropeaidd siomedig Cei Connah eleni gan i’r clwb ennill dim ond dwy o’u 11 rownd yn Ewrop hyd yma (vs Stabaek yn 2016 a Kilmarnock yn 2019).
Ond cyn hynny bydd Gibson yn anelu i gipio Cwpan Cymru a chodi un o brif gwpanau Cymru am y tro cyntaf ers 2013 pan enillodd y gwpan honno fel chwaraewr-reolwr Prestatyn.
Bydd dim cwpan i griw Met Caerdydd eleni wedi iddyn nhw golli 6-2 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru yn erbyn YSN y penwythnos diwethaf, ac hynny ar ôl colli yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG yn erbyn tîm ifanc Abertawe yn gynharach yn y tymor.
Ond mae’r freuddwyd Ewropeaidd yn dal yn fyw i’r myfyrwyr gyda Met Caerdydd yn llygadu lle’n Ewrop am y tro cyntaf ers 2019.
Llwyddodd Met Caerdydd i ennill y gemau ail gyfle yn 2019 a dyna fydd y nod unwaith eto eleni i dîm Ryan Jenkins, er bydd rhaid codi’r safon yn sydyn ar ôl colli pump o’u chwe gêm ddiwethaf.
Mae Cei Connah wedi ennill pump o’u chwe gêm flaenorol yn erbyn Met Caerdydd, ond dyw eu record ddim gystal yn y brifddinas gyda’r Nomadiaid yn ennill dim ond un allan o bump ar Gampws Cyncoed (cyfartal 2, colli 2).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅❌❌❌❌
Cei Connah: ➖❌❌❌✅
CHWECH ISAF
Hwlffordd (7fed) v Y Barri (9fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Hwlffordd wedi torri driphwynt yn glir yn y ras am y 7fed safle ar ôl ennill dwy gêm yn olynol am y tro cyntaf ers mis Tachwedd.
Gorffennodd Hwlffordd yn 7fed y tymor diwethaf cyn mynd ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a churo Shkendija yn Ewrop, ac mae’r Adar Gleision yn ysu am gyfle arall i gystadlu ar y cyfandir.
Mae’r Barri ar rediad rhyfeddol o chwe gêm gyfartal yn olynol, ond mae’r canlyniadau hynny wedi bod yn ddigon i gadw’r Dreigiau wyth pwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Dyw Hwlffordd heb golli dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 4, cyfartal 3), a dyw’r Barri heb ennill ar Ddôl y Bont ers 12 mlynedd.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ͏✅✅❌➖➖
Y Barri: ➖➖➖➖➖
Bae Colwyn (12fed) v Pontypridd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r cymylau du yn cau uwchben Ffordd Llanelian, ac fe allai colled yn erbyn Pontypridd ddydd Sadwrn selio tynged Bae Colwyn yn y ddau isaf a’u gyrru lawr i’r ail haen ar ôl dim ond un tymor yn yr uwch gynghrair.
Does neb wedi colli mwy, ennill llai, nac ildio mwy o goliau na Bae Colwyn y tymor hwn, ac os bydd y Gwylanod yn colli ac Aberystwyth yn ennill y penwythnos yma yna bydd tîm Steve Evans yn syrthio i Gynghrair y Gogledd.
Fe enillodd Bae Colwyn ddwy gêm yn olynol yn erbyn Pontypridd a Phen-y-bont ym mis Tachwedd, ond ers hynny dyw’r Gwylanod m’ond wedi ennill un mewn 13 gêm gynghrair gan lithro i waelod y tabl.
Aberystwyth (2), Pen-y-bont (2) a Pontypridd (1) yw’r unig glybiau i golli gemau cynghrair yn erbyn Bae Colwyn y tymor hwn a bydd Steve Evans yn ysu i guro Ponty am yr eildro a dringo uwch eu pennau brynhawn Sadwrn.
Er gwaetha’r naw pwynt o gosb mae Pontypridd yn benderfynol o osgoi’r cwymp eleni, ond bellach mae dau bwynt yn eu gwahanu nhw ac Aberystwyth yn niogelwch y 10fed safle.
Dioddefodd Pontypridd eu colled cyntaf ers penodiad Gavin Allen y penwythnos diwethaf (Pont 0-1 Hwl), a’u colled cyntaf yn 2014 ar ôl rhediad o chwe gêm yn ddi-guro.
Mae Pontypridd wedi curo Bae Colwyn ddwywaith ers dechrau’r flwyddyn, yn cynnwys buddguoliaeth swmpus o 4-0 ym mis Chwefror.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ❌❌➖➖❌
Pontypridd: ❌➖✅✅➖
Aberystwyth (10fed) v Pen-y-bont (8fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Arlein)
Roedd yna ryddhad mawr i’w glywed o gyfeiriad Aberystwyth yr wythnos hon pan cafodd datganiad y gynghrair ei chyhoeddi yn nodi na fydd y clwb yn colli pwyntiau ar ôl teithio i Bontypridd heb ffisiotherapydd cymwys ar gyfer eu gêm ym mis Mawrth.
Ac felly, yn dibynnu ar ganlyniad y frwydr rhwng Bae Colwyn a Pontypridd y penwythnos yma, fe allai Aberystwyth yrru Bae Colwyn i’r ail haen gyda buddugoliaeth yn erbyn Pen-y-bont nos Sadwrn.
Mae Aberystwyth wedi gorffen yn y 10fed safle ar bedwar achlysur ers i’r gynghrair newid i’r fformat 12 tîm yn 2010 gan ddod yn agos i syrthio sawl tro, ac mae criw Ceredigion yn 10fed eto eleni gyda pedair gêm ar ôl i’w chwarae.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda tân eto eleni.
Bydd Pen-y-bont yn rhwystredig o fod wedi gorfod rhannu’r pwyntiau mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Barri’r penwythnos diwethaf, yn enwedig gan i’w gwrthwynebwyr orffen y gêm gyda dim ond naw dyn ar y cae.
Mae tîm Rhys Griffiths angen triphwynt felly i aros yn dynn ar sodlau Hwlffordd yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Dyw Aber heb golli yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont (ennill 1, cyfartal 1), ond dyw Pen-y-bont heb golli gêm gynghrair ar Goedlan y Parc ers pedair blynedd.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏✅❌➖➖❌
Pen-y-bont: ͏➖✅✅❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.