S4C

Navigation

Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau’r bencampwriaeth ac yn anelu i fod y tîm cyntaf i fynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm gynghrair ers i’r Barri wneud hynny yn 1997/98. 

Yn y ras am yr ail safle, mae Cei Connah angen saith pwynt o’u pum gêm olaf i sicrhau’r ail docyn i Ewrop, ond mae’n debygol y bydd gorffen yn y trydydd safle yn ddigon i gyrraedd Ewrop hefyd, fel sydd wedi digwydd yn y naw tymor diwethaf. 

Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen. 

 

 CHWECH UCHAF 

 

Caernarfon (4ydd) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45 

Mae Cei Connah yn dechrau’r penwythnos naw pwynt uwchben Y Bala (3ydd) a byddai buddugoliaeth ar yr Oval yn gam mawr tuag at sicrhau safle awtomatig yn Ewrop. 

Er colli eu dwy gêm ddiwethaf mae’r Nomadiaid yn sicr o orffen yn y tri uchaf, ond bydd Neil Gibson yn benderfynol o beidio colli tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers Hydref 2015. 

Mae yna wyth pwynt yn gwahanu Caernarfon a’r Bala yn y ras i gyrraedd y tri uchaf, ond bydd y Caneris yn teimlo’n hyderus cyn y gemau ail gyfle gyda’r timau sydd o’u cwmpas yn stryffaglu yn ddiweddar. 

Enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle yn 2021/22, sef yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop, ond yn hytrach yn camu i Gwpan Her yr Alban, ac felly mae’r Caneris yn dal i ysu am eu blas cyntaf o bêl-droed Ewropeaidd. 

Gorffennodd hi’n 1-1 yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau ar Gae-y-Castell fis diwethaf, ond dyw Caernarfon heb ennill mewn 15 gêm yn erbyn Cei Connah ers Ebrill 2019 (cyfartal 4, colli 11). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ➖✅❌➖➖ 

Cei Connah: ❌❌✅✅➖ 

 

Met Caerdydd (6ed) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Met Caerdydd wedi llithro i waelod y Chwech Uchaf ar ôl mynd ar rediad o naw gêm gynghrair heb ennill am y tro cyntaf ers tair blynedd. 

Dyw’r myfyrwyr heb ennill gêm gynghrair ers curo’r Bala ar Faes Tegid ar 16 Rhagfyr, gan gipio dim ond pedwar pwynt o’r 27 posib ers hynny (un o’r rheiny vs Bala). 

Dyw Met Caerdydd heb golli yn eu pum gêm flaenorol yn erbyn Y Bala gan ildio dim ond dwy gôl (ennill 2, cyfartal 3), a tydi’r Bala heb ennill ar Gampws Cyncoed ers Rhagfyr 2017. 

Ond mae criw Colin Caton yn llygadu lle’n Ewrop, a gyda’r Bala’n dechrau’r penwythnos wyth pwynt o flaen Caernarfon yn y ras am y trydydd safle, mae gan Hogiau’r Llyn gyfle gwirioneddol i ddychwelyd i Ewrop ar ôl un tymor o absenoldeb. 

Ers colli 1-0 gartref yn erbyn Met Caerdydd ym mis Rhagfyr, dyw’r Bala ond wedi colli un mewn naw ym mhob cystadleuaeth ers hynny (vs YSN), gan ennill pob un o’u saith gêm ddiwethaf oddi cartref. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏❌❌❌➖➖ 

Y Bala: ➖✅✅❌➖✅ 

 

 

Y Drenewydd (5ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau’r dwbl, ac felly mae cewri Croesoswallt hanner ffordd tuag at eu targed o gyflawni’r ‘quadruple’ am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Gorffennodd Y Seintiau Newydd 27 pwynt uwchben Cei Connah (2il) yn nhymor 2016/17 pan dorron nhw record y byd drwy ennill 27 gêm yn olynol (heb gynnwys ciciau o’r smotyn), a bydd Craig Harrison yn awyddus i guro record eu hunain eto eleni gyda 23 pwynt yn gwahanu’r clybiau a phum gêm yn weddill. 

Y Drenewydd oedd y clwb ddaeth a rhediad y Seintiau o 27 buddugoliaeth i ben yn Ionawr 2017 gyda gêm gyfartal 3-3 ar Barc Latham, a bydd y Robiniaid yn awyddus i fyrstio bybl y pencampwyr eto eleni. 

Mae’r Seintiau wedi ennill 25 gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth (32 gêm os yn cynnwys y fuddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn East Fife), ac mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i’r pencampwyr golli ddiwethaf yn y gynghrair (un colled mewn 65 gêm gynghrair – 3-2 vs Met). 

Roedd y rhyddhad yn amlwg ar wyneb Scott Ruscoe ar ôl i’r Drenewydd drechu Met Caerdydd o 2-0 ddydd Sadwrn diwethaf gan ddod a’u rhediad o wyth colled yn olynol i ben. 

Ond mae’r Seintiau wedi ennill eu saith gêm flaenorol yn erbyn Y Drenewydd gyda Declan McManus yn sgorio naw o goliau yn erbyn y Robiniaid yn ystod y rhediad hynny. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Drenewydd: ✅❌❌❌❌ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

 

CHWECH ISAF 

 

Hwlffordd (7fed) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45 

Hanner ffordd drwy ail ran y tymor ac mae Hwlffordd yn parhau ar frig y Chwech Isaf er iddyn nhw fethu ag ennill dim un o’u pum gêm ers yr hollt. 

Un pwynt sy’n gwahanu Hwlffordd a Phen-y-bont yn y ras i orffen yn 7fed a chyrraedd y gemau ail gyfle, a bydd angen i’r Adar Gleision godi’r safon os am gystadlu am le’n Ewrop am yr ail dymor yn olynol. 

Roedd ‘na embaras i Aberystwyth y penwythnos diwethaf wrth i’w gêm nhw ym Mhontypridd gael ei gohirio gan nad oedd gan y Gwyrdd a’r Duon ffisiotherapydd cymwys ar y fainc. 

Mae Aberystwyth yn parhau i fod yn y ddau isaf felly, yn hafal ar bwyntiau gyda Pontypridd (10fed) yn y frwydr i osgoi’r cwymp. 

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda tân eto eleni. 

Aberystwyth enillodd y gêm ddiwethaf rhwng y timau (Aber 1-0 Hwl), ond dyw carfan Ceredigion ond wedi ennill unwaith yn eu wyth ymweliad diwethaf â Dôl-y-Bont. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ͏❌➖➖➖❌ 

Aberystwyth: ͏➖➖❌✅❌ 

 

Pen-y-bont (8fed) v Bae Colwyn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Gyda pum gêm ar ôl i’w chwarae dyw Pen-y-bont ond un pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle, tra bod Bae Colwyn ond un pwynt o dan diogelwch y 10fed safle. 

Bydd Pen-y-bont yn ffyddiog o allu dringo uwchben Hwlffordd i’r 7fed safle ar ôl buddugoliaeth bwysig oddi cartref yn erbyn yr Adar Gleision nos Wener diwethaf. 

Gorffennodd Pen-y-bont yn 3ydd llynedd gan gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, ond dyw pethau’n sicr heb fynd cystal y tymor hwn gyda’r clwb yn ennill dim ond un o’u naw gêm gartref ddiwethaf. 

Ar ôl esgyn i Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes mae Bae Colwyn mewn perygl o lithro’n syth yn ôl i Gynghrair y Gogledd ar y cynnig cyntaf. 

Does neb wedi colli mwy, ennill llai, nac ildio mwy o goliau na Bae Colwyn y tymor hwn, ond ar ôl colli dim ond un o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf mae’r Gwylanod yn gobeithio cyflawni gwyrth a gorffen y tymor yn gadarn.  

Dyw Bae Colwyn ond wedi ennill pump o’u 27 gêm gynghrair hyd yma, a daeth dwy o rheiny yn erbyn Pen-y-bont yn rhan gynta’r tymor, ond cafodd tîm Rhys Griffiths ddial fis diwethaf gan ennill 2-1 ar Ffordd Llanelian. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ✅❌➖➖✅ 

Bae Colwyn: ➖➖❌✅❌ 

 

Pontypridd (10fed) v Y Barri (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Er gwaetha’r naw pwynt o gosb mae Pontypridd yn benderfynol o osgoi’r cwymp eleni, ac   

Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb sydd â record well na Pontypridd ers yr hollt, a’r Seintiau (14) hefyd yw’r unig rai i gadw mwy o lechi glân na Ponty (11) y tymor hwn.  

Mae Pontypridd yn parhau i fod yn hafal ar bwyntiau gyda Aberystwyth (11eg) wedi i’r gêm fawr rhwng y ddau glwb gael ei gohirio y penwythnos diwethaf. 

Er nad yw’r Barri wedi ennill ers yr hollt bydd y Dreigiau’n dechrau breuddwydio am gyrraedd y gemau ail gyfle gan eu bod nhw ond bedwar pwynt y tu ôl i Hwlffordd (7fed) yn dilyn pedair gêm gyfartal yn olynol. 

Dyw’r Barri ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf, a daeth y golled honno gartref yn erbyn Pontypridd yng ngêm gyntaf Jonathan Jones fel y rheolwr newydd (Barr 0-3 Pont). 

Mae’r clybiau yma wedi cyfarfod deirgwaith y tymor hwn gyda Ponty’n ennill ddwywaith a’r Barri’n ennill unwaith. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pontypridd: ✅✅➖✅✅ 

Y Barri: ➖➖➖➖❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?