S4C

Navigation

RHAGOLWG PENWYTHNOS CYMRU PREMIER JD 2023/24

Saith rownd o gemau cynghrair sydd ar ôl y tymor hwn ac mae clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.

Mae’r Seintiau Newydd 17 pwynt yn glir ar y copa ac mae na siawns y gall y clwb o Groesoswallt selio’r bencampwriaeth y penwythnos hwn a chodi’r tlws am y trydydd tymor yn olynol.

Bydd Cei Connah yn awyddus i rwystro hynny rhag digwydd drwy ennill eu gêm nhw yn erbyn Y Bala yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop.

Bydd enillwyr Cwpan Cymru JD ac enillwyr y gemau ail gyfle hefyd yn hawlio lle’n Ewrop, ond os bydd enillwyr Cwpan Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle drwy orffen yn y ddau safle uchaf yn y gynghrair, yna bydd y tîm sy’n 3ydd yn cyrraedd Ewrop, fel sydd wedi digwydd yn y naw tymor diwethaf.

Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen.

CHWECH UCHAF

Caernarfon (6ed) v Y Drenewydd (5ed) | Nos Wener – 19:45

Y trydydd safle oedd y targed realistig i’r ddau dîm yma yn dilyn yr hollt yn y gynghrair, ond wedi dechrau siomedig i ail ran y tymor mae’n bosib mae paratoi ar gyfer y gemau ail gyfle ydi’r nod bellach.

Mae Caernarfon a’r Drenewydd yn hafal ar bwyntiau, wyth pwynt y tu ôl i’r Bala (3ydd) ac felly mae safle awtomatig yn Ewrop yn prysur llithro o afael y Caneris a’r Robiniaid.

Dioddefodd Caernarfon eu colled drymaf erioed yn y gynghrair nos Wener diwethaf (Cfon 1-8 YSN), ac mae’r Drenewydd wedi colli saith gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers 2011, felly teg dweud bod yr hyder yn isel yn y ddwy garfan.

Mae Caernarfon yn anelu i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes eleni, tra bo’r Drenewydd yn awyddus i ddychwelyd i’r cyfandir ar ôl colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, ac hynny ar ôl cyrraedd Ewrop am y ddau dymor blaenorol.

Yn y ddwy gêm gynghrair rhwng y clybiau yn rhan gynta’r tymor, y tîm cartref oedd yn fuddugol gyda Caernarfon yn ennill 2-1 ar yr Oval ym mis Awst cyn i’r Drenewydd dalu’r pwyth yn ôl mewn steil ar Barc Latham ym mis Hydref (Dre 4-0 Cfon) gyda Aaron Williams yn taro hatric i’r Robiniaid.

Mae Aaron Williams yn amlwg yn mwynhau wynebu’r Cofis gan iddo sgorio ym mhob un o’r bedair gêm ddiwethaf rhwng y timau (chwe gôl mewn pedair gêm).

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ❌➖➖➖✅

Y Drenewydd: ❌❌❌❌❌

Y Bala (3ydd) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45

Mae’r Bala a Chei Connah yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach, a gyda’r ddau dîm yn eistedd yn y tri uchaf, ac wedi cyrraedd pedwar olaf Cwpan Cymru, mae’r freuddwyd Ewropeaidd o fewn gafael unwaith eto eleni.

Gyda 13 o bwyntiau yn gwahanu’r clybiau a dim ond saith gêm ar ôl i’w chwarae, byddai buddugoliaeth i Gei Connah nos Wener yn gam anferthol i’r Nomadiaid tuag at sicrhau eu lle’n Ewrop.

A gyda dim ond un colled yn eu 11 gêm ddiwethaf (vs YSN), bydd Neil Gibson yn gobeithio y gall Cei Connah orffen y tymor yn gryf er mwyn hedfan i Ewrop yn llawn hyder ac anelu i ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf ers 2019.

Ers cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2013, mae’r Bala wedi llwyddo i gyrraedd y nod ar wyth achlysur, ond ar ôl methu’r gwch y tymor diwethaf bydd Colin Caton yn awyddus i ddychwelyd i Ewrop eleni.

Y Bala sydd wedi cael y gorau o bethau yn y gemau diweddar rhwng y clybiau yma gan golli dim ond un o’r saith gornest flaenorol rhwng y timau (ennill 3, cyfartal 3).

A pe bae Cei Connah yn gollwng pwyntiau nos Wener, yna byddai buddugoliaeth i’r Seintiau ddydd Sadwrn yn ddigon i sicrhau’r bencampwriaeth.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ✅❌➖✅✅

Cei Connah: ✅✅➖✅❌

Y Seintiau Newydd (1af) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 12:45 (Yn fyw arlein)

Bydd Y Seintiau Newydd yn cadw llygad agos ar y gêm rhwng Y Bala a Chei Connah nos Wener, gan y byddai bagliad i’r Nomadiaid yn golygu y gallai’r Seintiau selio’r bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Enillodd y Seintiau o 8-1 yng Nghaernarfon y penwythnos diwethaf, ac mae tîm Craig Harrison eisoes wedi codi Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr, wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Alban am y tro cyntaf erioed.

Enilodd Y Seintiau Newydd y trebl domestig ddwywaith yn olynol rhwng 2014-16 dan arweiniad Craig Harrison, ond ennill y ‘quadruple’ am y tro cyntaf yw’r gamp eleni, a cheisio mynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm ddomestig.

Mae’r Seintiau eisoes wedi sicrhau eu lle’n Ewrop am y 25ain tymor yn olynol, tra bod Met Caerdydd yn llygadu’r targed am y tro cyntaf ers 2019.

Ond ar ôl methu ag ennill dim un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf bydd angen gwell perfformiadau gan y myfyrwyr os am gystadlu am le’n Ewrop.

Mae’r Seintiau wedi bod yn sgorio’n ddi-drugaredd yn erbyn Met Caerdydd yn ddiweddar gan rwydo 33 o goliau yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr (5.5 gôl y gêm), yn cynnwys buddugoliaeth o 8-0 yn Neuadd y Parc ym mis Ionawr, sef colled drymaf erioed Met Caerdydd yn yr uwch gynghrair.

Mae prif sgoriwr y Seintiau, Brad Young wedi sgorio pum gôl yn erbyn Met Caerdydd mewn dwy gêm y tymor hwn ac yn gobeithio ychwanegu at ei gyfanswm brynhawn Sadwrn.

Ond yn rhyfeddol Met Caerdydd yw’r tîm diwethaf i guro cewri Croesoswallt yn y gynghrair, ac hynny o 3-2 ar Gampws Cyncoed ym mis Chwefror 2023, sef unig golled y Seintiau yn eu 63 gêm gynghrair ddiwethaf.

Bydd y clybiau’n cyfarfod eto cyn diwedd y mis yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD, cyn wynebu ei gilydd unwaith yn rhagor bythefnos yn ddiweddarach mewn gêm gynghrair.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Met Caerdydd: ͏❌➖➖➖❌

CHWECH ISAF

Bae Colwyn (12fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:30

Mae Bae Colwyn wedi bod yn ychwanegiad cadarnhaol i’r gynghrair yn dilyn eu dyrchafiad dros yr haf, gyda thorf fwya’r tymor o 1,411 yn gwylio eu gêm agoriadol yn erbyn Caernarfon.

Ond dyw pethau heb fynd yn wych ar y cae gyda thîm Steve Evans ar waelod y domen ar ôl colli 72% o’u gemau cynghrair gan ildio mwy o goliau nac unrhyw glwb arall.

Mae’r sefyllfa’n dechrau edrych yn ddu ar y Gwylanod sydd driphwynt o dan diogelwch y 10fed safle ar ôl colli wyth o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf.

Hwlffordd sy’n arwain y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle ond dyw hogiau Tony Pennock heb ennill mewn pum gêm gyda’u triphwynt diwethaf yn dod ar ddydd San Steffan gartref yn erbyn Y Barri.

Ond enillodd Hwlffordd eu dwy gêm yn erbyn Bae Colwyn yn rhan gynta’r tymor, yn cynnwys buddugoliaeth o 5-0 ar Ddôl y Bont ym mis Tachwedd, sef eu buddugoliaeth fwyaf yn y gynghrair ers Ebrill 2022 (Derwyddon Cefn 1-6 Hwlffordd).

Bydd blaenwr yr Adar Gleision, Martell Taylor-Crossdale yn llyfu ei weflau cyn y penwythnos gan ei fod eisoes wedi sgorio pedair gôl yn erbyn y Gwylanod y tymor hwn, yn cynnwys ei hatric gyntaf erioed yn yr uwch gynghrair.

Record cynghrair diweddar:

Bae Colwyn: ❌✅❌❌❌

Hwlffordd: ͏➖➖❌❌➖
Aberystwyth (10fed) v Y Barri (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda tân eto eleni.

Hon fydd chweched gêm gartref Aberystwyth mewn saith gêm gynghrair ac mae tîm Anthony Williams yn dechrau’r penwythnos ddau bwynt uwchben y ddau isaf.

Dyw’r Barri heb ennill gêm ers yr hollt, ond bydd y Dreigiau’n ymwybodol o bwysigrwydd yr ornest hon, gan y byddai triphwynt yn eu codi naw pwynt uwchben Aberystwyth.

Enillodd Y Barri o 4-2 ar eu hymweliad diwethaf â Choedlan y Parc ar y penwythnos olaf cyn yr hollt yn y gynghrair, ond cyn hynny roedd Aberystwyth wedi mynd ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn y Dreigiau.

Record cynghrair diweddar:

Aberystwyth: ͏➖❌✅❌✅

Y Barri: ➖➖❌✅✅

Pen-y-bont (8fed) v Pontypridd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl colli pwyntiau am dorri rheolau’r gynghrair, mae Pen-y-bont a Pontypridd wedi cael dechrau addawol i ail ran y tymor ac heb golli dim un o’u tair gêm ers yr hollt.

Mae Pontypridd wedi colli triphwynt ychwanegol yr wythnos hon i ddod a cyfanswm eu cosb i naw pwynt ac felly mae’r clwb wedi syrthio yn ôl i’r ddau isaf.

Er y blerwch oddi ar y cae, bydd Gavin Allen yn sicr yn hapus â chanlyniadau ei dîm ers iddo gymryd yr awennau gyda Ponty wedi ennill dwy a chael un gêm gyfartal, gan sgorio wyth gôl ac ildio dim ond unwaith mewn tair gêm.

Dyw Pen-y-bont heb golli chwaith, ond bydd Rhys Griffiths yn siomedig o fod wedi gorfod rhannu’r pwyntiau yn dilyn gemau cyfartal gartref yn erbyn Y Barri ac Aberystwyth.

Mae Pontypridd yn mwynhau eu cyfnod gorau’n y gynghrair y tymor hwn ac wedi colli dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf, ac honno oddi cartref ym Mhen-y-bont ar nos Calan (Pen 1-0 Pont).

Dyw Pontypridd heb sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont, a dyw tîm Rhys Griffiths heb golli dim un o’u pedair gêm gynghrair yn erbyn Pontypridd ers i’r clwb esgyn i’r haen uchaf yn 2022.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ➖➖✅❌✅

Pontypridd: ✅➖✅✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?