Wyth rownd o gemau cynghrair sydd ar ôl y tymor hwn ac mae clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.
Mae’r Seintiau Newydd 17 pwynt yn glir ar y copa ac yn edrych yn bur debygol o sicrhau eu trydydd pencampwriaeth yn olynol a chodi’r tlws am yr 16eg tro yn eu hanes.
Wedi hynny, mae Cei Connah 13 pwynt yn glir o’r Bala yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop.
Bydd enillwyr Cwpan Cymru JD ac enillwyr y gemau ail gyfle hefyd yn hawlio lle’n Ewrop, ond os bydd enillwyr Cwpan Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle drwy orffen yn y ddau safle uchaf yn y gynghrair, yna bydd y tîm sy’n 3ydd yn cyrraedd Ewrop, fel sydd wedi digwydd yn y naw tymor diwethaf.
Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen.
CHWECH UCHAF
Caernarfon (6ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Nos Wener bydd Y Seintiau Newydd yn anelu am eu 30ain buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth er mwyn cymryd cam yn nes at sicrhau’r bencampwriaeth.
Enillodd y Seintiau o 5-1 yn Llansawel y penwythnos diwethaf i hawlio eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD, ac mae tîm Craig Harrison eisoes wedi codi Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr, ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Alban am y tro cyntaf erioed.
Enilodd Y Seintiau Newydd y trebl domestig ddwywaith yn olynol rhwng 2014-16 dan arweiniad Craig Harrison, ond ennill y ‘quadruple’ am y tro cyntaf yw’r nod eleni, a cheisio mynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm ddomestig.
Mae’r Seintiau yn sicr o’u lle’n Ewrop eleni, tra bod Caernarfon yn gobeithio cyrraedd y nod am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ers colli o 2-1 yn erbyn y Seintiau Newydd ar ddydd San Steffan mae Caernarfon wedi mynd ar rediad o bedair gêm heb golli, sy’n cynnwys tair gêm gyfartal yn olynol.
Ond dyw’r Caneris heb ennill dim un o’u 13 gêm ddiwethaf yn erbyn cewri Croesoswallt gyda’r Seintiau’n fuddugol yn y naw gêm flaenorol rhwng y timau.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ➖➖➖✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Drenewydd (5ed) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dyw Scott Ruscoe heb gael y dechrau gorau i’w gyfnod fel rheolwr newydd Y Drenewydd yn colli 3-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd a 3-2 gartref yn erbyn Cei Connah.
Mae’r Robiniaid wedi colli chwe gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers 2011, a bydd Ruscoe yn ysu i ddod a’r rhediad presennol i ben.
Roedd Y Bala’n dathlu ddydd Sadwrn ar ôl curo Mynydd y Fflint yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD er mwyn cyrraedd y rownd gynderfynol am y trydydd tymor o’r bron.
Sgorio goliau yw prif broblem Hogiau’r Llyn eleni gan mae dim ond Pontypridd (17) ac Aberystwyth (19) sydd wedi rhwydo llai na’r Bala (26) mewn 24 gêm gynghrair y tymor hwn.
Yn y ddwy gêm gynghrair rhwng y clybiau yn rhan gynta’r tymor, y tîm cartref oedd yn fuddugol ar y ddau achlysur gyda’r Drenewydd yn ennill 1-0 ar Barc Latham ym mis Medi cyn i’r Bala dalu’r pwyth yn ôl ar Faes Tegid ym mis Rhagfyr (Bala 2-1 Dre).
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌❌❌❌❌
Y Bala: ❌➖✅✅✅
Cei Connah (2il) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15
Mae Cei Connah a Met Caerdydd wedi camu ymlaen i rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Bwcle a Bae Colwyn y penwythnos diwethaf.
Mae’r Nomadiaid mewn safle cryf i gipio lle’n Ewrop gan eu bod 13 pwynt yn glir o’r Bala yn yr ail safle ac ym mhedwar ola’r gwpan.
Gyda dim ond un colled yn eu 10 gêm ddiwethaf (vs YSN), bydd Neil Gibson yn gobeithio y gall Cei Connah orffen y tymor yn gryf er mwyn hedfan i Ewrop yn llawn hyder gan anelu i ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf ers 2019.
Mae Met Caerdydd yn llygadu lle’n Ewrop am y tro cyntaf ers 2019, ond ar ôl methu ag ennill dim un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf bydd angen gwell perfformiadau gan y myfyrwyr os am lwyddo.
Met Caerdydd oedd yn dathlu wedi’r gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm ar ôl curo Cei Connah o 3-1 yng Nghampws Cyncoed, ond ers eu dyrchafiad yn 2016 dyw’r myfyrwyr heb ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn y Nomadiaid.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅➖✅❌✅
Met Caerdydd: ͏➖➖➖❌➖
CHWECH ISAF
Pen-y-bont (8fed) v Aberystwyth (10fed) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl apelio yn erbyn eu triphwynt o gosb mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth i Ben-y-bont sydd bellach wedi colli chwech o bwyntiau am chwarae chwaraewyr anghymwys.
Dywedodd Jack Sharp, pennaeth y cynghreiriau domestig, bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru am weithio’n agos gyda’r clybiau er mwyn sicrhau na fydd gwallau fel hyn yn amharu ar y gynghrair yn y dyfodol.
Mae’r gosb ddiweddaraf wedi gweld Pen-y-bont yn colli eu lle ar frig y Chwech Isaf a nawr mae tîm Rhys Griffiths yn eistedd driphwynt o dan Hwlffordd yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Mae Aberystwyth yn dechrau’r penwythnos un pwynt uwchben y ddau isaf, a gyda’r ddau glwb hynny sef Pontypridd a Bae Colwyn yn mynd benben brynhawn Sadwrn, byddai colled i Aber nos Wener yn eu gweld yn llithro i safleoedd y cwymp cyn diwedd y penwythnos.
Roedd Pen-y-bont wedi ennill pum gêm o’r bron yn erbyn Aberystwyth cyn i’r Gwyrdd a’r Duon ennill 2-0 oddi cartref yn Stadiwm Gwydr SDM yn yr ornest ddiwethaf rhwng y clybiau ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖✅❌✅✅
Aberystwyth: ͏❌✅❌✅➖
Y Barri (9fed) v Hwlffordd (7fed) | Nos Wener – 19:45
Bydd Y Barri’n benderfynol o gau’r bwlch o bum pwynt sydd rhyngddyn nhw a Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle.
Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu chwe gêm gynghrair ddiwethaf ar Barc Jenner (4-0 vs Dre), dyw’r Barri heb fod digon cyson eleni, ond aros i fyny fydd y targed cyntaf i Jonathan Jones a’i dîm.
Hwlffordd sy’n arwain y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle ond dyw hogiau Tony Pennock heb ennill mewn pedair gêm gyda’u triphwynt diwethaf yn dod ar ddydd San Steffan gartref yn erbyn Y Barri (Hwl 2-0 Barr).
Gorffennodd Hwlffordd yn 7fed y tymor diwethaf cyn mynd ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a churo Shkendija yn Ewrop.
Dyw Hwlffordd heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 4, cyfartal 2), ond ar y llaw arall, dim ond unwaith mewn chwe gêm mae’r Adar Gleision wedi ennill oddi cartref ar Barc Jenner (cyfartal 1, colli 4).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖❌✅✅➖
Hwlffordd: ͏➖❌❌➖✅
Pontypridd (11eg) v Bae Colwyn (12fed) | Dydd Sadwrn – 12:15 (Yn fyw arlein)
Yng ngêm fwya’r penwythnos bydd Pontypridd yn croesawu Bae Colwyn, sef y ddau dîm sy’n hafal ar bwyntiau ar waelod y tabl.
Fe dderbyniodd Pontypridd chwe phwynt o gosb yn gynharach yn y tymor am chwarae chwaraewyr anghymwys ond bellach dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r Dreigiau a diogelwch y 10fed safle.
Mae Gavin Allen wedi creu argraff ers ymuno â’r clwb fel rheolwr, yn ennill 3-0 oddi cartref yn Y Barri yn ei gêm gyntaf cyn cael gêm gyfartal yn Hwlffordd er i’w dîm chwarae’r rhan helaeth o’r gêm gyda dyn yn brin yn dilyn cerdyn coch cynnar Luke Cummings.
Mae Bae Colwyn wedi bod yn ychwanegiad cadarnhaol i’r gynghrair yn dilyn eu dyrchafiad dros yr haf, gyda thorf fwya’r tymor o 1,411 yn gwylio eu gêm agoriadol yn erbyn Caernarfon.
Ond dyw pethau heb fynd yn wych ar y cae gyda thîm Steve Evans ar waelod y domen ar ôl colli 71% o’u gemau cynghrair gan ildio mwy o goliau nac unrhyw glwb arall.
Enillodd Bae Colwyn yn gyfforddus o 3-0 ar eu hymweliad diwethaf â Phontypridd ym mis Tachwedd, ond Ponty oedd yn dathlu ym mis Ionawr wedi i gôl hwyr Ethan Vaughan gipio’r triphwynt ar Ffordd Llanelian (Bae 2-3 Pont).
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ➖✅✅❌✅
Bae Colwyn: ✅❌❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.