S4C

Navigation

Mae yna bedwar clwb yn hafal ar bwyntiau ar frig y Cymru Premier JD, a bydd dau o’r clybiau rheiny yn cyfarfod ar Faes Tegid ddydd Sadwrn pan fydd Y Bala yn croesawu Pen-y-bont. 

 

 

Nos Wener, 30 Awst 

Hwlffordd (4ydd) v Y Drenewydd (5ed) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein) 

Ar ôl ennill dwy a chael dwy gêm gyfartal mae hi wedi bod yn ddechrau cadarn i’r tymor i Hwlffordd, sy’n hafal ar bwyntiau gyda tri o glybiau eraill ar y brig. 

Mae dwy gêm ddiwethaf Hwlffordd wedi gorffen yn ddi-sgôr (yn erbyn Pen-y-bont a Met Caerdydd), a dim ond un gôl mae tîm Tony Pennock wedi ei hildio yn eu pedair gêm gynghrair hyd yma. 

Yn dilyn colled siomedig o 4-0 gartref yn erbyn Caernarfon nos Wener diwethaf, fe wnaeth Y Drenewydd ymateb yn dda gyda buddugoliaeth o 2-1 oddi cartref yn Y Barri ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. 

Dyw Hwlffordd m’ond wedi ennill un o’u chwe gornest ddiwethaf gyda’r Drenewydd (colli 3, cyfartal 2), ond roedd honno’n fuddugoliaeth hollbwysig ar giciau o’r smotyn yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2022/23, gyda’r Adar Gleision yn sicrhau eu lle’n Ewrop. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ✅✅➖͏ 

Y Drenewydd: ͏✅➖❌✅ 

 

Dydd Sadwrn, 31 Awst 

 

Caernarfon (6ed) v Met Caerdydd (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl colli eu gêm agoriadol yn erbyn Hwlffordd, mae Caernarfon wedi cadw dwy lechen lân yn olynol gan guro’r Drenewydd a chipio pwynt yn erbyn Y Bala. 

Mae Met Caerdydd yn un o’r pedwar o dimau sydd ar gopa’r gynghrair ac sydd heb golli dim un o’u pedair gêm agoriadol. 

Er cael gêm ddi-sgôr yn erbyn Hwlffordd ddydd Llun, Met Caerdydd yw prif sgorwyr y gynghrair (8 gôl), ac hynny’n bennaf am iddyn nhw daro pump yn erbyn Llansawel nos Wener.  

Fe wnaeth y timau gyfarfod bum gwaith y tymor diwethaf, ac ar ôl record hafal yn y gynghrair, y Cofis gafodd y gorau o bethau’n y pen draw, yn curo’r myfyrwyr o 2-0 yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Ewrop, diolch i goliau hwyr gan Marc Williams ac Adam Davies. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ❌✅➖ 

Met Caerdydd: ͏✅➖✅➖ 

 

Llansawel (12fed) v Cei Connah (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae hi wedi bod yn ddechrau anodd i’r tymor i Lansawel ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair, gyda’r newydd-ddyfodiaid yn colli eu tair gêm hyd yma yn erbyn Pen-y-bont, Y Bala a Met Caerdydd.  

Ond roedd hi’n ddechrau delfrydol i Billy Paynter yn ei gêm gyntaf fel rheolwr newydd Cei Connah ddydd Llun, gyda’r Nomadiaid yn ennill 1-0 yn eu gêm ddarbi yn erbyn Y Fflint. 

Does dim un o’r ddau dîm wedi bod yn tanio o flaen gôl eleni gyda Llansawel yn sgorio dim ond unwaith mewn tair gêm, a Cei Connah yn sgorio dim ond dwy mewn tair. 

Cafodd clwb presennol Llansawel ei ffurfio yn 2009, ac hon fydd eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Cei Connah. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Llansawel: ❌❌❌ 

Cei Connah: ͏❌➖✅ 

 

Y Bala (3ydd) v Pen-y-bont (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd gêm fwya’r penwythnos yn cael ei chynnal ar Faes Tegid gyda’r Bala a Pen-y-bont yn benderfynol o gadw eu record di-guro yn fyw. 

Roedd Pen-y-bont wedi cadw naw llechen lân yn olynol yn y gynghrair cyn ildio yn eu buddugoliaeth o 5-1 yn erbyn Aberystwyth ddydd Llun. 

Mae’r Bala hefyd wedi amddiffyn yn ddewr yn ddiweddar ac wedi cadw tair llechen lân yn olynol. 

Mae’r Bala ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Pen-y-bont, ac fe enillodd tîm Colin Caton eu dwy gêm yn erbyn hogiau Rhys Griffiths y tymor diwethaf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ➖✅✅➖ 

Pen-y-bont: ͏✅➖͏➖✅  

 

Y Barri (10fed) v Y Fflint (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd hi’n gêm allweddol ar Barc Jenner rhwng dau dîm sydd heb gael dechrau arbennig i’r tymor.  

Wedi gemau cyfartal yn erbyn Y Bala a Met Caerdydd, bydd Y Barri’n siomedig o fod wedi colli eu dwy gêm dros benwythnos Gŵyl y Banc, yn erbyn Aberystwyth a’r Drenewydd.  

Mae’r Fflint yn dal i aros am eu pwynt cyntaf ers codi’n ôl i’r uwch gynghrair, gyda’r Sidanwyr wedi colli pob un o’u pedair gêm hyd yma. 

Dyw’r clybiau heb gyfarfod ers tymor 2021/22 pan enillodd Y Fflint eu dwy gêm yn erbyn y Dreigiau. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ➖➖❌❌ 

Y Fflint: ͏❌❌❌❌ 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?