Does dim newid ar frig yr uwch gynghrair yn dilyn buddugoliaethau i’r pedwar uchaf yng nghanol wythnos.
Mae’n hynod o dynn ar frig y tabl gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r tri uchaf, ac mae’n stori debyg ar y gwaelod hefyd, gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r tri isaf.
Y Seintiau Newydd sydd wedi camu i’r copa ar wahaniaeth goliau yn dilyn pedair buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair, gyda’r Cofis a Pen-y-bont yn dynn ar sodlau’r pencampwyr.
Ar y gwaelod, bydd Llanelli yn falch o fod wedi sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf y tymor yma yng nghanol wythnos, tra bod Hwlffordd mewn cyfnod helbulus ar ôl colli pedair yn olynol.
Nos Wener, 26 Medi
Llanelli (12fed) v Hwlffordd (11eg) | Nos Wener – 19:45
Bydd y ddau isaf yn cyfarfod ar Barc Steboneath nos Wener gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r timau yn safleoedd y cwymp.
Hawliodd Llanelli eu triphwynt cyntaf ers eu dyrchafiad nos Fawrth wrth frwydro ‘nôl i drechu 10-dyn Llansawel ar yr Hen Heol (Lls 1-2 Lli).
Mae Hwlffordd ar y llaw arall ar rediad o bedair colled yn olynol yn dilyn canlyniad siomedig arall yng nghanol wythnos (Hwl 2-3 Barr).
Dyw hi’n ddim syndod mae’r ddau isaf yw’r ddau dîm sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliau’r tymor yma.
Hon fydd y gêm gynghrair gyntaf rhwng y clybiau ers i Hwlffordd wneud y dwbl dros Llanelli yng Nghynghrair y De 2019/20, ond mae’r timau wedi cyfarfod yng Nghwpan Cymru ers hynny, gyda’r Cochion yn trechu’r Adar Gleision o 2-0 ar Ddôl y Bont yn y bedwaredd rownd y tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌❌❌➖✅
Hwlffordd: ➖❌❌❌❌
Y Bala (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Bala’n parhau i blesio eu selogion wedi i’r clwb guro Bae Colwyn o 1-0 am yr eildro’r tymor hwn i aros yn y 4ydd safle.
Er eu safle addawol, mae goliau wedi bod yn brin i’r Bala sydd m’ond wedi rhwydo naw gôl mewn naw gêm gynghrair.
Dwy gôl sy’n gwahanu’r Seintiau a Chaernarfon ar frig y tabl gyda’r ddau glwb wedi ennill chwech, colli un a chael dwy gêm gyfartal yn y gynghrair y tymor yma.
Ar ôl curo’r Fflint nos Fawrth mae’r Seintiau bellach ar rediad o naw gêm heb golli, yn cynnwys pum buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Enillodd Y Bala eu dwy gêm gynghrair yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rhan gynta’r tymor diwethaf, ond cafodd y Seintiau dalu’r pwyth yn ôl wedi’r hollt gan ennill y ddwy ornest yn ail ran y tymor.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖❌➖✅
Y Seintiau Newydd: ➖✅✅✅✅
Dydd Sadwrn, 27 Medi
Pen-y-bont (3ydd) v Bae Colwyn (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pen-y-bont wedi cau’r bwlch ar y ddau ar y brig gyda dim ond pwynt yn gwahanu’r tri uchaf wedi i dîm Rhys Griffiths ennill eu tair gêm gynghrair ddiwethaf.
James Crole oedd seren y sioe i’r ymwelwyr ar Gampws Cyncoed nos Fawrth, yn taro hatric yn erbyn y myfyrwyr a chreu’r unig gôl arall (Met 0-4 Pen).
Pen-y-bont sydd â record amddiffynnol orau’r gynghrair ar ôl ildio dim ond chwe gôl mewn naw gêm hyd yma.
Roedd hi’n noson rwystredig i Fae Colwyn nos Fawrth wrth i’r Gwylanod golli o 1-0 yn erbyn Y Bala am yr eildro’r tymor hwn.
Dyw’r timau yma heb gyfarfod ers Mawrth 2024 pan enillodd Pen-y-bont yn gyfforddus o 5-0 gyda pum sgoriwr gwahanol yn taro’r rhwyd ym Mryntirion.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏❌➖✅✅✅
Bae Colwyn: ͏➖✅✅➖❌
Y Barri (5ed) v Cei Connah (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n fuddugoliaeth felys i’r Barri nos Fawrth wrth i dîm Steve Jenkins rwydo’n hwyr i sicrhau’r triphwynt ar Ddôl y Bont (Hwl 2-3 Barr).
Mae’r Barri wedi codi i’r 5ed safle, a’r nod i’r Dreigiau bydd aros yn yr hanner uchaf tan yr hollt er mwyn hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21.
Ar ôl colli’n erbyn Caernarfon, mae Cei Connah yn dechrau’r penwythnos yn yr hanner isaf ar wahaniaeth goliau, ond mae gan dîm John Disney gêm wrth gefn.
Enillodd Y Barri dair o’u pedair gêm yn erbyn Cei Connah y tymor diwethaf, ac fe sgoriodd blaenwr y Dreigiau, Ieuan Owen deirgwaith yn erbyn y Nomadiaid.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖❌✅➖✅
Cei Connah: ✅❌➖✅❌
Y Fflint (9fed) v Llansawel (8fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Bydd hi’n frwydr gyffrous ar Gae y Castell gan mae dim ond pwynt sy’n gwahanu Y Fflint a Llansawel, dau glwb orffennodd yn y Chwech Isaf y tymor diwethaf, ond sy’n anelu yn uwch eleni.
Roedd hi’n noson i’w anghofio i Lansawel nos Fawrth wrth i’r Cochion ddod y tîm cyntaf i golli’n erbyn Llanelli yn y gynghrair y tymor hwn.
Mae gan Y Fflint record ragorol yn erbyn Llansawel gan i’r timau gyfarfod am y tro cynta’r tymor diwethaf ac fe lwyddodd y Sidanwyr i ennill tair o’r bedair gornest, gyda’r gêm arall yn gorffen yn gyfartal, ac felly dyw Llansawel erioed wedi curo’r Fflint.
Sgoriodd amddiffynnwr a capten Y Fflint, Harry Owen bedair gôl yn erbyn Llansawel y tymor diwethaf, yn cynnwys hatric ar Gae y Castell ym mis Chwefror.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅✅❌➖❌
Llansawel: ͏❌➖❌➖❌
Dydd Sul, 28 Medi
Caernarfon (2il) v Met Caerdydd (10fed) | Dydd Sul – 14:30
Gyda dim ond un colled mewn 10 gêm ym mhob cystadleuaeth, mae hi wedi bod yn gychwyn ardderchog i’r tymor i Gaernarfon sy’n dechrau’r penwythnos yn hafal ar bwyntiau gyda’r Seintiau Newydd ar frig y tabl.
Caernarfon yw prif sgorwyr y gynghrair y tymor hwn gyda 27 o goliau, ac Adam Davies sydd wedi sgorio wyth o rheiny, gan greu pump i’w gyd-chwaraewyr hefyd.
Dyw hi’n bendant heb fod y dechrau delfrydol i’r tymor i Met Caerdydd sydd yn dal heb ennill gêm gynghrair y tymor hwn.
Gorffennodd hi’n gyfartal 2-2 yn y gêm gyfatebol ar Gampws Cyncoed ar benwythnos agoriadol y tymor gyda arwr Caernarfon, Darren Thomas yn cipio pwynt i’r Cofis yn yr eiliadau olaf.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏➖✅✅❌✅
Met Caerdydd: ͏❌❌➖❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.





