S4C

Navigation

Mae’r tymor newydd wedi dechrau yn y modd mwyaf annisgwyl wrth i’r pencampwyr presennol, ac unig glwb proffesiynol y gynghrair, Y Seintiau Newydd golli gartref o 3-0 yn erbyn Llansawel, sef y tîm orffennodd un safle uwchben y ddau isaf y tymor diwethaf. 

Hon oedd colled drymaf Y Seintiau Newydd yn y Cymru Premier JD ers pedair blynedd, a’r tro cyntaf ers wyth tymor i gewri Croesoswallt golli eu gêm agoriadol yn y gynghrair. 

Roedd hi’n benwythnos da i Pen-y-bont a lwyddodd i drechu Hwlffordd er i’r blaenwr James Crole gael ei hel o’r maes ar ddechrau’r ail hanner. 

Y Barri yw’r unig dîm arall i ddechrau’r ymgyrch gyda triphwynt wedi i’r Dreigiau guro Llanelli o 2-0 ar Barc Stebonheath nos Wener. 

Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i’r nifer o aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27. Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair. Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r swm hwnnw syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.  

 

Nos Wener, 15 Awst 

Cei Connah v Y Bala | Nos Wener – 19:45 

Dechreuodd Cei Connah eu cyfnod dan arweiniad y rheolwr newydd John Disney gyda gêm gyfartal 1-1 oddi cartref yn erbyn y newydd ddyfodiaid, Bae Colwyn.  

Sgoriodd Jason Oswell ei gôl gyntaf i’r Nomadiaid gyda pheniad cynnil yn yr hanner cyntaf ar Ffordd Llanelian, ond roedd rhaid i Disney fodloni ar bwynt yn unig wedi i Nathan Peate unioni’r sgôr i Fae Colwyn cyn yr egwyl.  

Roedd hi’n stori debyg i’r Bala wedi i dîm Steve Fisher fynd ar y blaen yn erbyn Y Fflint drwy gôl Hussein Mehasseb, ond gorffennodd y gêm honno yn 1-1 hefyd wedi i Ben Wynne unioni i’r ymwelwyr.  

Cafwyd gemau dadleuol rhwng y timau yma’r tymor diwethaf yn y cyfnod cyn yr hollt, ac hynny’n bennaf oherwydd y tywydd.  

Roedd Cei Connah yn curo’r Bala o 3-0 yng Nghae y Castell ar y penwythnos olaf cyn yr hollt, ond bu rhaid gohirio’r gêm wedi awr o chwarae oherwydd niwl trwchus. 

Ail-chwaraewyd yr ornest dridiau yn ddiweddarach, ac fe enillodd Y Bala o 2-0 gan gipio’r safle olaf yn y Chwech Uchaf ar draul Y Barri. 

Mae hynny’n golygu nad yw Cei Connah wedi sgorio yn eu tair gêm swyddogol ddiwethaf yn erbyn Y Bala, a dyw’r Nomadiaid heb ennill dim un o’r chwe gêm gynghrair ddiwethaf rhwng y clybiau (cyfartal 3, colli 3). 

 

Llansawel v Met Caerdydd | Nos Wener – 19:45 

Bydd llanciau Llansawel yn llawn hyder ar ôl achosi sioc anferthol drwy guro’r pencampwyr yn gyfforddus ar eu tomen eu hunain ar y penwythnos agoriadol.  

Hon oedd colled drymaf Y Seintiau Newydd yn y Cymru Premier JD ers pedair blynedd, gyda’r blaenwr ifanc Ruben Davies yn serennu i Lansawel wrth sgorio dwy gôl gan ychwanegu at y ddwy sgoriodd yn erbyn Adar Gleision Trethomas yng Nghwpan Nathaniel MG y penwythnos blaenorol.  

Bydd Met Caerdydd ychydig yn siomedig o fod wedi gorfod rhannu’r pwyntiau gyda Chaernarfon ddydd Sadwrn wedi i’r myfyrwyr fynd ar y blaen o 2-0 yn yr hanner cyntaf, cyn ildio dwy gôl hwyr ar Gampws Cyncoed.  

Sgoriodd Ryan Reynolds gôl gampus arall brynhawn Sadwrn i ychwanegu at ei gasgliad eang o goliau syfrdanol yng nghrys marŵn y myfyrwyr. 

Enillodd Met Caerdydd o 5-1 yn Llansawel ar ddechrau’r tymor diwethaf, a dyna’r unig dro i’r myfyrwyr sgorio pump o goliau mewn gêm gynghrair oddi cartref ers eu dyrchafiad i’r Cymru Premier JD yn 2016.  

Ond fe gafodd Llansawel ddial yng Nghampws Cyncoed ar ddydd San Steffan, gan ennill o 3-1 yn y brifddinas yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau. 

 

Dydd Sadwrn, 16 Awst 

 

Y Barri v Bae Colwyn | Dydd Sadwrn – 12:30 

Roedd hi’n ddechrau delfrydol i’r tymor i’r Barri y penwythnos diwethaf gyda tîm Steve Jenkins yn ennill o 2-0 oddi cartref yn Llanelli. 

Ben Margetson a Ieuan Owen oedd y sgorwyr i’r Dreigiau, a bydd George Ratcliffe yn falch o fod wedi cadw llechen lân yn ei gêm gyntaf yn ôl yn lifrau’r Barri. 

Roedd Michael Wilde yn fwy na bodlon gyda gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah yn ei gêm gyntaf fel rheolwr Bae Colwyn yn Uwch Gynghrair Cymru.  

Nathan Peate beniodd y gôl bwysig i’r Bae yn ei gêm gynghrair gyntaf i’r clwb, ac fe brofodd ei fod yn arwyddiad allweddol i’r Gwylanod gyda perfformiad cadarn yng nghanol yr amddiffyn. 

Fe wnaeth y clybiau yma gyfarfod bum gwaith yn ystod tymor 2023/24 gyda Bae Colwyn yn ennill eu dwy gêm gartref, ond yn methu ac ennill ar eu tri hymweliad â Pharc Jenner (cyfartal 2, colli 1). 

 

Caernarfon v Llanelli | Dydd Sadwrn – 14:30 

Roedd rhaid i Gaernarfon alw ar eu arch-arwr Darren Thomas i achub pwynt i’r Caneris ar Gampws Cyncoed brynhawn Sadwrn gyda’r Cofi Messi yn camu oddi ar y fainc i sgorio gôl arbennig yn yr eiliadau olaf yn y brifddinas.  

Ond doedd dim achos dathlu i Lanelli yn eu gêm gyntaf yn ôl yn yr uwch gynghrair ers chwe blynedd wrth i’r Cochion golli o 2-0 gartref yn erbyn Y Barri nos Wener.  

Mae bron i saith mlynedd wedi mynd heibio ers i’r clybiau yma gyfarfod yn nhymor 2018/19 gyda Caernarfon yn ennill o 3-0 ar yr Oval, cyn cael gêm gyfartal 2-2 ar Barc Stebonheath.  

Dyw Llanelli heb guro Caernarfon ers 16 o flynyddoedd, pan enillodd y Cochion o 5-0 ar yr Oval gyda Rhys Griffiths yn sgorio ddwywaith ac yn creu y dair arall i’r ymwelwyr. 

Bydd Caernarfon yn chwarae eu gemau cartref ar Barc Maesdu, Llandudno y tymor hwn tra bod gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i’w cae arferol, Yr Oval. 

 

Y Fflint v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Rhwydodd Ben Wynne foli hyfryd i gipio pwynt i’r Fflint yn erbyn Y Bala yn eu gêm agoriadol nos Wener diwethaf. 

Bydd Hwlffordd yn rhwystredig gyda canlyniad eu gêm hwythau, wrth golli o 1-0 gartref yn erbyn 10-dyn Pen-y-bont. 

Hwlffordd oedd â record amddiffynnol orau’r gynghrair yn 2024/25, ond camddealltwriaeth yn y cefn arweiniodd at unig gôl y gêm ar Ddôl y Bont. 

Mae hi’n gynnar iawn yn y tymor, ond rydyn ni eisoes wedi gweld sawl enghraifft o ddiffyg trefn a disgyblaeth yn amddiffyn Hwlffordd wedi i’r clwb golli canran helaeth o’u chwaraewyr amddiffynnol dros yr haf (Lee Jenkins, Luke Tabone, Jacob Owen, Zac Jones) 

Enillodd Y Fflint o 1-0 gartref yn erbyn Hwlffordd y tymor diwethaf, ond tîm Tony Pennock oedd yn dathlu wedi’r ornest ddiweddaraf rhwng y timau gan ennill o 4-1 ar Ddôl y Bont ym mis Tachwedd 2024. 

 

Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein) 

Er ein bod ni prin wedi dechrau’r tymor domestig, mae’n deg dweud bod yr ymgyrch hyd yma wedi bod yn siomedig tu hwnt i’r Seintiau Newydd. 

Mae criw Craig Harrison eisoes wedi chwarae chwe gêm gystadleuol yn nhymor 2025/26 gan ennill dim ond un o rheiny (YSN 7-1 Airbus). 

Roedd hi’n ymgyrch Eweropeaidd sâl i’r Seintiau, a gollodd eu dwy rownd yn erbyn Shkëndija a Differdange 03, a byddai neb wedi darogan colled o 3-0 gartref yn erbyn Llansawel ar benwythnos agoriadol y gynghrair. 

Hon oedd colled drymaf Y Seintiau Newydd yn y Cymru Premier JD ers pedair blynedd, a’r tro cyntaf ers wyth tymor i gewri Croesoswallt golli eu gêm agoriadol yn y gynghrair. 

O ran Pen-y-bont, roedd hi’n edrych yn ddu arnyn nhw pan aethon nhw lawr i 10-dyn ar Ddôl y Bont wedi i James Crole roi cic i amddiffynnwr Hwlffordd, Alaric Jones.  

Er hynny, fe lwyddodd tîm Rhys Griffiths i fanteisio ar amddiffyn llac Hwlffordd, gyda Mael Davies yn taro unig gôl y gêm wedi awr o chwarae. 

Enillodd Pen-y-bont eu dwy gêm gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd y tymor diwethaf, ond colli’r ddwy gêm oddi cartref yn Neuadd y Parc. 

Rhoddodd Pen-y-bont dipyn o fraw i’r Seintiau y tymor diwethaf gyda tîm Rhys Griffiths yn synnu pawb wrth eistedd ar frig y tabl dros gyfnod y Nadolig. 

Llwyddodd y Seintiau i gamu ‘nôl i’r copa yn ystod ail ran y tymor gan ennill 12 gêm gynghrair yn olynol a gorffen yr ymgyrch 14 pwynt uwchben Pen-y-bont. 

Bydd Pen-y-bont yn sicr yn gweld colli enillydd yr Esgid Aur, James Crole yn ystod ei waharddiad, yn enwedig gan iddo daro tair gôl gynghrair yn erbyn Y Seintiau Newydd y tymor diwethaf. 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?