S4C

Navigation

Ar benwythnos ola’r tymor cyffredin bydd Caernarfon a Met Caerdydd yn brwydro i orffen yn 4ydd i gael sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol. 

Mae Pen-y-bont wedi selio’r ail safle am y tro cyntaf erioed, a pe bae’r Seintiau’n llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru fis nesaf yna mi fydd Pen-y-bont yn camu’n syth i Ewrop. 

Am y tro cyntaf ers 21 o flynyddoedd mae Hwlffordd wedi cadarnhau’r 3ydd safle, ac mae’r Barri’n bendant o chwarae’n y gemau ail gyfle ar ôl selio’r 7fed safle. 

Ar waelod y tabl, mae’r frwydr ar ben i’r Drenewydd ac Aberystwyth sydd am syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed eleni. 

Yn yr ail haen mae Bae Colwyn wedi ennill pencampwriaeth Cynghrair y Gogledd gan sicrhau eu bod nhw’n dychwelyd i’r uwch gynghrair ar y cynnig cyntaf, tra mae Llanelli fydd yn esgyn o’r de gan godi yn ôl i’r brif haen am y tro cyntaf ers 2019. 

 

CHWECH UCHAF 

 

Caernarfon (4ydd) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C) 

Bydd gêm bwysica’r penwythnos yn cael ei chynnal ar yr Oval wrth i’r Cofis geisio sicrhau mantais gartref yn y gemau ail gyfle. 

Mae Caernarfon a Met Caerdydd eisoes yn sicr o chwarae gartref yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle, ond byddai gorffen yn 4ydd yn gallu bod yn ddigon i gadarnhau gêm gartref yn y rownd gynderfynol hefyd, yn ddibynol ar ganlyniad rownd derfynol Cwpan Cymru JD. 

Mae’r Cofis un pwynt uwchben Met Caerdydd, ac felly byddai gêm gyfartal yn ddigon i dîm Richard Davies sicrhau’r 4ydd safle gan ddod yn hafal â’u tymhorau gorau erioed yn yr uwch gynghrair (4ydd yn 2018/19 a 2021/22). 

Dyw Met Caerdydd erioed wedi gorffen yn uwch na’r 4ydd safle chwaith (2022/23), a byddai buddugoliaeth iddyn nhw yn eu codi uwchben y Caneris. 

Bydd y tîm sy’n gorffen yn 4ydd yn croesawu’r Barri (7fed) yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle, tra bydd y tîm sy’n 5ed yn croesawu’r Bala (6ed). 

Yn y bum gêm flaenorol rhwng y clybiau yma mae’r timau wedi ennill a cholli am yn ail, ac felly os yw’r patrwm am barhau, gan mae Met Caerdydd enillodd yr ornest ddiwethaf o 4-2 ar yr Oval, tro’r Cofis yw hi i ennill yr wythnos hon. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ❌❌✅➖❌ 

Met Caerdydd: ͏✅➖❌➖➖ 

 

Hwlffordd (3ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Mae Hwlffordd wedi sicrhau’r 3ydd safle ac felly wedi dod yn hafal â’u tymor gorau erioed yn yr Uwch Gynghrair (3ydd yn 2003/04). 

Er hynny, dyw’r Adar Gleision m’ond wedi ennill un o’u wyth gêm ddiwethaf (1-0 vs Met), gyda chwech o’u 10 gêm ddiwethaf yn gorffen yn gyfartal. 

Dyw’r Seintiau ar y llaw arall heb gael gêm gyfartal yn y gynghrair ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Bala ym mis Medi 2023 (57 gêm gynghrair ers hynny – ennill 51, colli 6). 

Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau’r dwbl am yr ail dymor yn olynol (Cymru Premier JD a Cwpan Nathaniel MG), a’r targed nesaf i gewri Croesoswallt yw cyflawni’r trebl am y tro cyntaf ers 2015/16. 

Mae’r Seintiau wedi ennill eu naw gornest ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 5-1 yn Neuadd y Parc ym mis Mawrth. 

Bydd Hwlffordd yn cefnogi’r Seintiau yn rownd derfynol Cwpan Cymru fis nesaf gan y byddai buddugoliaeth i dîm Craig Harrison yn golygu bod yr Adar Gleision yn camu’n syth i rownd derfynol y gemau ail gyfle. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ❌➖❌͏➖➖ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅❌✅ 

 

Y Bala (6ed) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Mae hi wedi bod yn dymor siomedig i’r Bala sydd heb ennill yn eu naw gêm ers yr hollt (colli saith a chael dwy gêm ddi-sgôr). 

Ond mae Pen-y-bont wedi mwynhau eu tymor gorau erioed yn yr uwch gynghrair gan sicrhau’r ail safle am y tro cyntaf. 

Os bydd Y Seintiau Newydd yn curo Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru yna bydd Pen-y-bont yn camu’n syth i Ewrop, ond os bydd y Nomadiaid yn fuddugol yna bydd rhaid i dîm Rhys Griffiths ymuno â’r gemau ail gyfle yn y rownd gynderfynol. 

Bydd Y Bala yn teithio i unai Caernarfon neu Met Caerdydd yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle y penwythnos nesaf (25 / 26 Ebrill). 

Mae Pen-y-bont wedi ennill saith pwynt o’r naw posib yn eu tair gornest yn erbyn Y Bala’r tymor hwn, gyda’r blaenwr James Crole yn rhwydo tair gôl mewn tair gêm. 

James Crole yw prif sgoriwr a phrif gyfrannydd goliau’r gynghrair y tymor hwn (sgorio 15, creu 7) a bydd yn benderfynol o hawlio’r Esgid Aur ar y penwythnos olaf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ❌➖❌➖❌ 

Pen-y-bont: ͏✅➖✅✅✅ 

 

CHWECH ISAF 

 

Aberystwyth (12fed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Ar ôl cystadlu’n ddi-dor yn Uwch Gynghrair Cymru ers 1992 bydd Aberystwyth yn chwarae eu gêm olaf yn yr haen uchaf brynhawn Sadwrn cyn syrthio i’r ail haen. 

Mae’n debygol y bydd Aberystwyth yn syrthio i Gynghrair y De, ac mae hynny am beri problemau pellach i’r clwb gan bod 13 o’r 18 sydd yn y garfan bresennol yn chwaraewyr o’r gogledd. 

Yn 2021/22 fe orffennodd Cei Connah yn 9fed ar ôl colli 18 pwynt am chwarae chwaraewr anghymwys, a dyna’r unig dro ers 2013/14 i’r Nomadiaid orffen yn îs na’r 7fed safle, tan eleni. 

Mae Cei Connah yn sicr o orffen yn 8fed y tymor hwn, ac oherwydd hynny fe gafodd Billy Paynter ei ddiswyddo fel rheolwr y clwb yn dilyn y golled gartref yn erbyn Y Barri’r penwythnos diwethaf. 

Cafodd Paynter ei benodi’n reolwr Cei Connah yn Awst 2024 wedi i Neil Gibson gael ei ddiswyddo ar ôl colli gêm gynta’r tymor gartref yn erbyn Hwlffordd. 

Roedd Gibson wedi arwain y clwb i’w tlws cyntaf ers dwy flynedd pan enillodd Cei Connah o 2-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym mis Ebrill 2024. 

Er gwaetha’r record sâl yn y gynghrair, mae Paynter wedi arwain Cei Connah i’r rownd derfynol eto eleni a bydd y Nomadiaid yn herio’r Seintiau yn y ffeinal unwaith yn rhagor ymhen pythefnos. 

Y gêm ddydd Sadwrn fydd y bumed ornest rhwng y timau yma’r tymor hwn gyda Cei Connah yn ennill ddwywaith, Aber yn ennill unwaith yng Nghwpan MG, ac un gêm yn gorffen yn gyfartal. 

Ond dyw Aberystwyth heb golli dim un o’u pedair gêm gartref ddiwethaf yn erbyn y Nomadiaid (ennill 1, cyfartal 3). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ͏❌❌❌❌✅ 

Cei Connah: ͏ ✅✅✅❌❌ 

 

Y Barri (7fed) v Llansawel (10fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Am y tro cyntaf ers pedair blynedd mi fydd Y Barri yn cystadlu yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop wedi i’r clwb drechu Cei Connah ddydd Sul diwethaf i sicrhau’r 7fed safle. 

Dros y blynyddoedd mae momentwm wedi profi’n ffactor holl-bwysig wrth ystyried y gemau ail gyfle, a gan i’r Barri ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf mae’r hyder yn uchel ar Barc Jenner. 

Bydd Y Barri yn teithio i unai Caernarfon neu Met Caerdydd yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle y penwythnos nesaf (25 / 26 Ebrill).  

Bydd Y Barri o bosib yn ffafrio gêm yn erbyn Met Caerdydd gan i’r Dreigiau golli dim ond un o’u chwe gornest ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr (ennill 2, cyfartal 3). 

Dyw eu record ddim cystal yn erbyn Caernarfon gan i’r Barri golli tair o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis (ennill 1, cyfartal 1). 

Mae Llansawel wedi llwyddo i osgoi’r cwymp yn eu tymor cyntaf yn yr uwch gynghrair, sy’n golygu bod y ddau glwb esgynnodd dros yr haf (Y Fflint a Llansawel) wedi llwyddo i aros i fyny am y tro cyntaf ers 2016/17 (Met Caerdydd a Derwyddon Cefn).  

Mae’r Barri wedi cipio saith pwynt o’r naw posib yn eu tair gornest yn erbyn Llansawel y tymor hwn, ac roedd hi’n frwydr gyffrous rhwng y timau fis diwethaf gyda’r Barri’n ennill o 4-3 ar yr Hen Heol gyda Ollie Hulbert a Ieuan Owen yn sgorio ddwywaith yr un i’r Dreigiau. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ✅✅❌✅✅ 

Llansawel: ❌➖✅✅❌ 

 

Y Fflint (9fed) v Y Drenewydd (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Y Drenewydd ac Aberystwyth yw’r unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers y tymor cyntaf un yn 1992/93, ond erbyn prynhawn Sadwrn bydd cyfnod y ddau glwb yn yr haen uchaf yn dod i derfyn. 

Ar ôl colli yn erbyn Aberystwyth y penwythnos diwethaf mae’r frwydr ar ben i’r Robiniaid fydd yn chwarae yn yr ail haen y tymor nesaf. 

Mae hi wedi bod yn dymor da i’r Fflint sydd wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf, ac heb golli gartre’n y gynghrair ers mis Hydref. 

Mae’r Fflint wedi cipio saith pwynt o’r naw posib yn erbyn Y Drenewydd y tymor hwn, ond mae asgellwr y Robiniaid, Zeli Ismail wedi rhwydo tair gôl mewn pedair gêm yn erbyn y Sidanwyr. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Fflint: ͏➖❌✅✅✅ 

Y Drenewydd: ͏ ➖➖❌❌❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?