S4C

Navigation

Dwy rownd o gemau sydd ar ôl i’w chwarae yn y Cymru Premier JD ac mae digon yn y fantol ym mhob pen o’r gynghrair. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol. 

Mae Pen-y-bont wedi selio’r ail safle am y tro cyntaf erioed, a pe bae’r Seintiau’n llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru fis nesaf yna mi fydd Pen-y-bont yn camu’n syth i Ewrop. 

Byddai buddugoliaeth i Hwlffordd nos Wener yn ddigon i gadarnhau’r 3ydd safle, fydd yn fantais mawr i’r clwb pan daw’r gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor. 

Yn y Chwech Isaf, gall y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle ddod i’w uchafbwynt ddydd Sul pan fydd Cei Connah yn croesawu’r Barri. 

Ac ar waelod y tabl, mae’r frwydr bron ar ben i’r Drenewydd sydd wedi diswyddo eu rheolwr Callum McKenzie’r wythnos hon gan iddo ennill dim ond un o’i 15 gêm wrth y llyw ers cael ei benodi ym mis Tachwedd. 

Mae’r Robiniaid ar yml y dibyn ac angen ennill eu dwy gêm olaf gan obeithio bod Llansawel yn colli eu dwy gêm olaf os am osgoi’r cwymp. 

 

CHWECH UCHAF  

Met Caerdydd (5ed) v Hwlffordd (3ydd) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r ras am yr ail safle ar ben ond fe all Hwlffordd gadarnhau’r 3ydd safle nos Wener gyda buddugoliaeth yn erbyn Met Caerdydd. 

Mi fydd y timau o’r 4ydd i’r 6ed safle yn gorfod chwarae mewn rownd go-gynderfynol yn y gemau ail gyfle eleni, tra bydd y clwb sy’n 3ydd yn cael mantais sylweddol. 

Pe bae Cei Connah yn ennill Cwpan Cymru, yna bydd y tîm sy’n gorffen yn 3ydd yn y gynghrair yn ymuno â’r gemau ail gyfle yn y rownd gynderfynol. 

Ond os bydd Y Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Cymru yna bydd y tîm sy’n gorffen yn 3ydd yn camu’n syth i rownd derfynol y gemau ail gyfle. 

Byddai chwarae llai o gemau’n sicr yn fantais i Hwlffordd, ond ar y llaw arall mi fydd hi’n her i Tony Pennock gynnal ffitrwydd ei garfan gan bod mis o fwlch rhwng gêm ola’r tymor cyffredin a rownd derfynol y gemau ail gyfle. 

Dyw Hwlffordd heb orffen yn 3ydd ers 21 o flynyddoedd, sef eu tymor gorau erioed yn yr Uwch Gynghrair (2003/04), felly mi fyddai’n lwyddiant mawr i’r clwb os wnawn nhw efelychu hynny eleni. 

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 0.7 gôl y gêm), a gyda 15 llechen lân yn barod y tymor hwn mae Zac Jones wedi sicrhau’r Faneg Aur. 

Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu saith gêm ddiwethaf dyw Hwlffordd heb fod ar eu gorau ers yr hollt, ond fe ddaeth yr un fuddugoliaeth honno yn erbyn Met Caerdydd ym mis Chwefror. 

Mae’r gemau diweddaraf rhwng y clybiau yma wedi bod yn rhai agos tu hwnt, a does dim un o’r timau wedi llwyddo i sgorio mwy nac unwaith yn y saith gornest flaenorol (Met 0-0 Hwl, Met 1-1 Hwl, Hwl 1-1 Met, Hwl 1-1 Met, Met 0-0 Hwl, Hwl 1-0 Met, Hwl 1-0 Met). 

Mae sgorio goliau wedi bod yn broblem sylweddol i Met Caerdydd yn ddiweddar gan iddyn nhw fethu â rhwydo mewn pedair o’u pum gêm ddiwethaf. 

Dyw Met Caerdydd heb sgorio yn eu tair gêm yn erbyn Hwlffordd y tymor hwn, a dyw’r myfyrwyr heb ennill gêm gynghrair yn erbyn yr Adar Gleision ers Rhagfyr 2022. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏❌✅➖❌➖ 

Hwlffordd: ✅❌➖❌͏ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (6ed) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau’r dwbl am yr ail dymor yn olynol (Cymru Premier JD a Cwpan Nathaniel MG), a’r targed nesaf i gewri Croesoswallt yw cyflawni’r trebl am y tro cyntaf ers 2015/16. 

Daeth rhediad rhagorol Y Seintiau Newydd o 15 buddugoliaeth yn olynol i ben pan gollon nhw o 1-0 yn erbyn Pen-y-bont bythefnos yn ôl. 

Dyw momentwm yn sicr ddim o blaid Y Bala gan i’r clwb sicrhau dim ond dau bwynt o’r 24 posib ers yr hollt gan fynd ar rediad o wyth gêm heb ennill. 

Llwyddodd Y Bala i ennill eu dwy gêm gynghrair yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rhan gynta’r tymor, ond fe enillodd y pencampwyr o 2-0 ym Maes Tegid ym mis Chwefror gyda Leo Smith yn sgorio’r gôl agoriadol wedi dim ond 12 eiliad o chwarae. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌ 

Y Bala: ❌❌➖❌➖ 

 

Pen-y-bont (2il) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sul – 14:30 

Ar ôl curo’r Seintiau Newydd bythefnos yn ôl mae Pen-y-bont wedi sichrau’r ail safle, sef eu safle uchaf erioed yn yr uwch gynghrair.  

Mae Pen-y-bont felly yn sicr o osgoi rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle, a pe bae’r Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Cymru yna bydd tîm Rhys Griffiths yn camu’n syth i Ewrop. 

Dyw Caernarfon m’ond wedi ennill un o’u naw gêm oddi cartref yn Stadiwm Gwydr SDM, a daeth y fuddugoliaeth honno ym mis Mawrth 2022 (Pen 0-3 Cfon). 

Mae’r gemau diweddar rhwng y timau wedi bod yn llawn goliau gyda chyfartaledd o bum gôl wedi ei sgorio yn y saith ornest diwethaf. 

Bydd rhaid i Gaernarfon fod yn wyliadwrus o brif sgoriwr Pen-y-bont a phrif gyfrannwr goliau’r gynghrair, James Crole, gan iddo gyfrannu at chwe gôl yn ei ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis (sgorio tair a chreu tair). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ͏❌✅➖✅✅ 

Caernarfon: ✅❌❌✅➖ 

 

CHWECH ISAF 

Y Drenewydd (11eg) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C) 

Y Drenewydd ac Aberystwyth yw’r unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers y tymor cyntaf un yn 1992/93, ond erbyn prynhawn Sadwrn fe all cyfnod y ddau glwb yn yr haen uchaf ddod i derfyn. 

Mae Aberystwyth eisoes yn sicr o orffen ar waelod y tabl a syrthio i’r ail haen ar ôl colli 10 o’u 11 gêm ddiwethaf. 

Ac mae brwydr Y Drenewydd bron ar ben hefyd, gan fod angen i’r Robiniaid ennill eu dwy gêm olaf i osgoi’r cwymp a chroesi popeth bod Llansawel yn colli eu dwy gêm olaf. 

Gemau’n weddill yn y frwydr i osgoi’r cwymp: 

Y Drenewydd: Aber (c), Ffl (oc) 

Llansawel: Ffl (c), Barr (oc)  

Mae’n dasg anferthol i’r Drenewydd sydd m’ond wedi ennill un o’u 19 gêm ddiwethaf (Aber 0-1 Dre), a dyw’r Robiniaid heb ennill gartref ers mis Medi gan golli saith a chael pedair gêm gyfartal ar Barc Latham ers hynny. 

Dyna record sydd wedi arwain at ddiswyddiad y rheolwr Callum McKenzie yr wythnos hon wedi iddo ennill dim ond un allan o 15 ers cymryd yr awennau ym mis Tachwedd. 

Ond mae’r Drenewydd wedi ennill saith o’u naw gornest ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, a bydd rhaid i’r Robiniaid fynd amdani ddydd Sadwrn, neu bydd eu cyfnod di-dor yn yr uwch gynghrair ar ben. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Drenewydd: ͏ ✅➖➖❌❌ 

Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌ 

 

Llansawel (10fed) v Y Fflint (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30  

Beth bynnag ddaw o’r canlyniad yn y gêm gynnar rhwng Y Drenewydd ac Aberystwyth, mae Llansawel yn gwybod y byddai pwynt yn erbyn Y Fflint yn ddigon i gadarnhau eu lle’n y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf. 

Pe bae’r Drenewydd yn gollwng pwyntiau yn erbyn Aberystwyth yna bydd Llansawel yn ddiogel, ond mae tynged tîm Andy Dyer yn nwylo eu hunain ar ôl buddugoliaeth gampus yn erbyn Cei Connah bythefnos yn ôl. 

Am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad mae Llansawel wedi ennill dwy gêm gynghrair yn olynol gan gadw dwy lechen lân yn y gemau rheiny (Aber 0-1 Llan, Llan 1-0 Cei). 

Mae’r Fflint yn ddiogel am dymor arall ar ôl colli dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf (ennill 4, cyfartal 1) a byddai buddugoliaeth i’r Sidanwyr ddydd Sadwrn yn golygu eu bod nhw’n ennill tair gêm yn olynol yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Awst 2021. 

Dyw’r Fflint heb golli dim un o’u tair gêm yn erbyn Llansawel y tymor hwn ac mae’r capten Harry Owen wedi sgorio pedair gôl yn y ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau, yn cynnwys hatric o beniadau ar Gae y Castell ym mis Chwefror. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Llansawel: ❌❌➖✅✅ 

Y Fflint: ͏✅➖❌✅✅ 

 

Cei Connah (8fed) v Y Barri (7fed) | Dydd Sul – 14:30 

Bydd hi’n ornest dyngedfennol ar Gae y Castell brynhawn Sul yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle gan y byddai pwynt yn ddigon i’r Barri selio’r 7fed safle. 

Mae pum pwynt yn gwahanu’r ddau dîm sy’n golygu bod angen i Gei Connah guro’r Barri ac Aberystwyth yn eu dwy gêm olaf os am ddringo uwchben y Dreigiau. 

Pe bae’r Barri’n colli ddydd Sul yna byddai angen i dîm Andy Legg guro Llansawel yn eu gêm olaf os am sicrhau eu bod yn gorffen uwchben Cei Connah. 

Enillodd Y Barri eu dwy gêm yn erbyn Cei Connah yn rhan gynta’r tymor, ond y Nomadiaid oedd yn fuddugol yn y frwydr ddiwethaf rhwng y timau ym mis Chwefror (Barr 0-2 Cei). 

Byddai gorffen yn y 7fed safle yn gwarantu lle’r clwb yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle, oddi cartref yn erbyn y tîm sy’n gorffen yn 4ydd yn y tabl (Caernarfon ar hyn o bryd). 

Roedd Cei Connah wedi ennill chwe gêm yn olynol cyn eu colled annisgwyl oddi cartref yn Llansawel bythefnos yn ôl (Llan 1-0 Cei). 

Er eu safle addawol, dyw’r Barri m’ond wedi cadw un llechen lân yn eu 23 gêm ddiwethaf (Llan 0-0 Barr), a dim ond dwy lechen lân yn eu 35 gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ͏ ✅✅✅✅❌ 

Y Barri: ❌✅✅❌✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?