S4C

Navigation

Tair rownd o gemau sydd ar ôl i’w chwarae yn y Cymru Premier JD ac mae digon yn y fantol ym mhob rhan o’r gynghrair. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol. 

Pe bae’r Seintiau yn llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru, yna mi fydd y clwb sy’n gorffen yn 2il yn y tabl yn hawlio lle’n Ewrop, ac fe all Pen-y-bont sicrhau’r safle hwnnw ddydd Sadwrn. 

Yn y Chwech Isaf, mae’r ras i gyrraedd y gemau ail gyfle yn poethi wedi i Gei Connah gau’r bwlch ar Y Barri i ddim ond dau bwynt. 

Ac ar waelod y tabl mae’r frwydr ar ben i Aberystwyth sydd yn sicr o syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed, ac mae’r Drenewydd yn agos at y dibyn hefyd cyn teithio i Barc Jenner nos Wener. 

 

 

CHWECH UCHAF  

Hwlffordd (3ydd) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu chwe gêm ddiwethaf mae Hwlffordd wedi methu a chau’r bwlch ar Pen-y-bont yn y ras am yr ail safle. 

Bydd yr Adar Gleision yn awyddus i ddal eu gafael ar y 3ydd safle felly er mwyn gwarantu gêm gartref yn y gemau ail gyfle.  

Byddai triphwynt i Gaernarfon yn dod a’r bwlch rhyngddyn nhw a Hwlffordd i lawr i ddau bwynt, a dyna fydd y nod i’r Cofis yn dilyn eu canlyniad arbennig yn erbyn Y Bala nos Wener diwethaf (Cfon 5-0 Bala). 

Honno oedd buddugoliaeth fwyaf y Caneris ers ennill o 5-0 yn erbyn Airbus UK ym mis Rhagfyr 2019. 

Sgoriodd capten y Cofis, Darren Thomas ddwywaith yn y gêm honno yn erbyn Airbus, a daeth mlaen fel eilydd nos Wener diwethaf gan wneud ei 400fed ymddangosiad i Gaernarfon. 

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 0.7 gôl y gêm), a gyda 15 llechen lân yn barod y tymor hwn mae Zac Jones wedi sicrhau’r Faneg Aur eleni. 

Dyw Hwlffordd heb golli yn eu chwe gornest ddiwethaf yn erbyn y Cofis, yn cynnwys buddugoliaeth ddramatig yn yr eiliadau olaf ar yr Oval ar benwythnos agoriadol y tymor (Cfon 1-2 Hwl). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ➖✅❌➖❌ 

Caernarfon: ❌✅❌❌✅ 

 

Pen-y-bont (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau’r dwbl am yr ail dymor yn olynol (Cymru Premier JD a Cwpan Nathaniel MG), a’r targed nesaf i gewri Croesoswallt yw cyflawni’r trebl am y tro cyntaf ers 2015/16. 

Fe all Pen-y-bont sicrhau’r ail safle pe bae nhw’n cipio pwynt ddydd Sadwrn, neu os bydd Hwlffordd yn methu a churo Caernarfon. 

Mae Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd wedi ildio yr un nifer o goliau’r tymor hwn (28 gôl mewn 29 gêm), ond mae’r pencampwyr wedi sgorio 34 o goliau’n fwy na thîm Rhys Griffiths. 

Dyw’r Seintiau m’ond wedi ildio un gôl yn eu naw gêm ddiwethaf gan sgorio 31 o goliau. 

Bydd criw Craig Harrison yn llawn hyder ar ôl ennill 15 gêm yn olynol, ac am eu bod wedi ennill chwech o’u saith gornest flaenorol yn erbyn Pen-y-bont, yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 4-0 yn Neuadd y Parc fis diwethaf.  

Ond fe wnaeth Pen-y-bont lwyddo i drechu’r Seintiau o 2-1 ym mis Medi gyda Clayton Green a Chris Venables yn sgorio dau beniad i fechgyn Bryntirion yn Stadiwm Gwydr SDM. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ͏❌❌✅➖✅ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

 

Y Bala (6ed) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Erbyn hyn mae’r Bala’n sicr o orffen yn îs na’r 3ydd safle, a gyda Met Caerdydd hefyd yn anhebygol o godi i’r tri uchaf mi fydd y clybiau yma’n cystadlu mewn rownd go-gynderfynol yn y gemau ail gyfle eleni. 

Bydd angen i’r Bala neu Met Caerdydd guro tair gêm felly, os am ennill y gemau ail gyfle a chyrraedd Ewrop unwaith yn rhagor. 

Y Bala yw’r unig dîm sydd wedi llwyddo i wneud hyn yn y gorffennol, ac hynny yn 2012/13 pan orffennon nhw’n 7fed cyn curo Cei Connah, Bangor a Phort Talbot i hawlio lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Ond dyw momentwm yn sicr ddim o blaid Y Bala gan i’r clwb sicrhau dim ond un pwynt o’r 21 posib ers yr hollt, gan ddioddef eu colled trymaf oddi cartref yn y gynghrair ers Tachwedd 2017 nos Wener diwethaf (Cfon 5-0 Bala). 

Bydd yr hwyliau braidd yn isel yn y brifddinas yn ogystal gan iddyn nhw ddioddef crasfa’r penwythnos diwethaf hefyd (Met 0-6 YSN). 

Dyw Met Caerdydd m’ond wedi colli un o’u naw gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 4, cyfartal 4), gan ennill dwy a chael un gêm gyfartal yn erbyn criw Colin Caton y tymor hwn. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ❌❌❌➖❌ 

Met Caerdydd: ͏✅❌✅➖❌ 

 

 

CHWECH ISAF 

Y Barri (7fed) v Y Drenewydd (11eg) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r Barri wedi baglu yn y ras am y 7fed safle ar ôl colli’n hwyr yn erbyn Y Fflint ddydd Sadwrn diwethaf, a bellach dim ond dau bwynt sydd rhwng y Dreigiau a Chei Connah.  

Mae’r Drenewydd yn eithriadol o agos i’r dibyn ar ôl ennill dim ond un o’u 18 gêm ddiwethaf (Aber 0-1 Dre), a bellach mae tîm Callum McKenzie driphwynt y tu ôl Llansawel a diogelwch y 10fed safle. 

 

Gemau’n weddill yn y frwydr i osgoi’r cwymp: 

Y Drenewydd: Barri (oc), Aber (c), Ffl (oc) 

Llansawel: Cei (c), Ffl (c), Barr (oc)  

 

Er hynny, roedd y Robiniaid wedi mynd ar rediad o bedair gêm heb golli (ennill 1, cyfartal 3) cyn eu colled yn erbyn Cei Connah nos Wener diwethaf. 

Mae’r record benben wedi bod yn hafal rhwng y timau wedi tair gêm y tymor hwn gyda’r Drenewydd yn ennill unwaith, Y Barri’n ennill unwaith, a’r gêm ddiwethaf yn gorffen yn gyfartal. 

Mae gan flaenwr y Robiniaid, Aaron Williams, record sgorio wych yn erbyn Y Barri gan iddo daro naw gôl yn y saith gêm ddiwethaf rhwng y clybiau. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ➖❌✅✅❌ 

Y Drenewydd: ͏ ➖✅➖➖❌ 

 

Aberystwyth (12fed) v Y Fflint (9fed) | Nos Wener – 20:00 

Mae cyfnod di-dor Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru ar fin dod i ben gan i’r Gwyrdd a’r Duon gadarnhau eu cwymp i’r ail haen drwy golli yn erbyn Llansawel y penwythnos diwethaf. 

Roedd Aberystwyth yn un o’r 20 clwb gwreiddiol chwaraeodd yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru yn 1992/93, a dim ond nhw a’r Drenewydd sydd wedi llwyddo i aros yn y brif haen ers hynny. 

Ond wedi 33 o dymhorau ar y lefel uchaf, mae’n bosib y bydd y ddau glwb o’r canolbarth yn syrthio i’r ail haen eleni. 

Ar ôl curo’r Barri ddydd Sadwrn diwethaf mae’r Fflint yn agoshau at y lan, a byddai triphwynt ar Goedlan y Parc nos Wener yn cadarnhau lle’r Sidanwyr yn y gynghrair am dymor arall. 

Mae’r Fflint wedi ennill eu tair gêm yn erbyn Aberystwyth hyd yma’r tymor hwn, ac hynny heb ildio unwaith. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌ 

Y Fflint: ͏✅✅➖❌✅ 

 

Llansawel (10fed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Fel y gêm ar Barc Jenner mae hon yn ornest bwysig i’r ddau glwb am resymau gwahanol gydag un tîm yn brwydro i osgoi’r cwymp, a’r llall yn ysu i gyrraedd y gemau ail gyfle. 

Mae Llansawel yn dechrau’r penwythnos driphwynt uwchben Y Drenewydd, tra bo Cei Connah ddau bwynt y tu ôl i’r Barri yn y ras am y 7fed safle. 

Ar ôl curo’r Drenewydd nos Wener mae Cei Connah wedi ymestyn eu rhediad i chwe buddugoliaeth yn olynol ac mae momentwm yn sicr o blaid y Nomadiaid. 

Dyw Llansawel heb ennill gêm gartref ers dechrau mis Rhagfyr ac mae eu tair gêm olaf yn erbyn y tri clwb sydd uwch eu pennau. 

Enillodd Llansawel o 1-0 oddi cartref yn erbyn Cei Connah fis diwethaf, ond fe sgoriodd y Nomadiaid bum gôl ar eu hymweliad diwethaf â’r Hen Heol ym mis Awst (Llan 1-5 Cei). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Llansawel: ✅❌❌➖✅ 

Cei Connah: ͏ ❌✅✅✅✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?