Cafwyd cadarnhad y penwythnos diwethaf mae’r Seintiau Newydd yw pencampwyr Cymru Premier JD 2024/25 wedi i Pen-y-bont ollwng pwyntiau yn erbyn Met Caerdydd nos Wener.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol.
Mae cewri Croesoswallt eisoes wedi codi Cwpan Nathaniel MG fis diwethaf, ac ar ôl curo Cambrian United yn gyfforddus yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ddydd Sul, bydd Craig Harrison yn benderfynol o sicrhau’r trebl eleni am y tro cyntaf ers naw mlynedd.
Pe bae’r Seintiau yn llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru, yna mi fydd y clwb sy’n gorffen yn 2il yn y tabl yn sicrhau lle’n Ewrop, ac felly mae’r gêm rhwng Pen-y-bont (2il) a Hwlffordd (3ydd) yn mynd i fod yn un hollbwysig nos Wener.
Ac i lawr yn y gwaelodion fe all aelodaeth di-dor Aberystwyth ddod i ben dros y penwythnos, oherwydd mae’n bosib y bydd y Gwyrdd a’r Duon syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed nos Wener.
CHWECH UCHAF
Caernarfon (5ed) v Y Bala (6ed) | Nos Wener – 19:45
Erbyn hyn mae’r Bala’n sicr o orffen yn îs na’r 3ydd safle, a gyda Chaernarfon hefyd yn anhebygol o godi i’r tri uchaf mi fydd y clybiau yma’n cystadlu mewn rownd go-gynderfynol yn y gemau ail gyfle eleni.
Bydd angen i’r Bala neu Gaernarfon guro tair gêm felly, os am ennill y gemau ail gyfle a chyrraedd Ewrop unwaith yn rhagor.
Y Bala yw’r unig dîm sydd wedi llwyddo i wneud hyn yn y gorffennol, ac hynny yn 2012/13 pan orffennon nhw’n 7fed cyn curo Cei Connah, Bangor a Phort Talbot i hawlio lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ond dyw momentwm yn sicr ddim o blaid Y Bala gan i’r clwb sicrhau dim ond un pwynt o’r 18 posib ers yr hollt, ac hynny mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Hwlffordd ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae Caernarfon wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf, ond mae eu record cartref yn weddol gryf gan mae’r Seintiau Newydd yw’r unig dîm i ennill oddi cartref ar yr Oval ers mis Rhagfyr.
A dyw’r Cofis heb golli dim un o’u saith gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 2, cyfartal 5) gan guro tîm Maes Tegid ddwywaith ym mis Ionawr.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ➖❌✅❌❌
Y Bala: ❌❌❌❌➖
Hwlffordd (3ydd) v Pen-y-bont (2il) | Nos Wener – 19:45
Gyda’r bencampwriaeth wedi ei chadarnhau, mae’r sylw bellach yn troi tuag at y ras am yr ail safle, a byddai buddugoliaeth i Pen-y-bont nos Wener yn gam enfawr at hawlio’r safle hwnnw.
Mae bechgyn Bryntirion yn dechrau’r penwythnos chwe phwynt uwchben Hwlffordd, a byddai triphwynt nos Wener yn eu gadael naw pwynt uwchben yr Adar Gleision gyda dim ond tair gêm ar ôl i’w chwarae.
Gemau sy’n weddill yn y ras am yr ail safle:
Pen-y-bont – Hwl (oc), YSN (c), Cfon (c), Bala (oc)
Hwlffordd – Pen (c), Cfon (c), Met (oc), YSN (c)
Gan i Gymru golli un safle’n Ewrop, dyw gorffen yn 2il ddim yn gwarantu lle yng Nghyngres Europa eleni, ond pe bae’r Seintiau Newydd yn curo Cwpan Cymru yna fe fyddai’r tîm sy’n 2il yn cipio lle yn Ewrop gan fod y Seintiau eisoes wedi cadarnhau eu lle fel pencampwyr y gynghrair.
Mae Pen-y-bont wedi colli eu tair gêm ddiwethaf oddi cartref, tra bod gan Hwlffordd record gartref wych gan golli dim ond un o’u 16 gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair (Hwl 0-1 YSN) ac ennill eu pedair gêm ddiwethaf ar Ddôl-y-Bont.
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 0.7 gôl y gêm), a gyda 15 llechen lân yn barod y tymor hwn fe all Zac Jones sicrhau’r Faneg Aur dros y penwythnos.
Mae Pen-y-bont ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd gan ennill pedair o rheiny o un gôl i ddim, gyda’r ddwy gêm arall yn gorffen yn ddi-sgôr, ac felly dyw’r Adar Gleision heb sgorio yn eu chwe gornest ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖➖✅❌➖
Pen-y-bont: ͏➖❌❌✅➖
Met Caerdydd (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau’r dwbl am yr ail dymor yn olynol (Cymru Premier JD a Cwpan Nathaniel MG), a’r targed nesaf i gewri Croesoswallt yw cyflawni’r trebl am y tro cyntaf ers 2015/16.
Enillodd y Seintiau’n gyfforddus yn erbyn Cambrian United brynhawn Sul i hawlio eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru, ac ar ôl colli’n erbyn Cei Connah yn y ffeinal llynedd, bydd gan y Seintiau gyfle i ddial yn y rownd derfynol eleni.
Mae diffyg cysondeb wedi bod yn broblem i Met Caerdydd y tymor hwn gan nad yw’r clwb wedi ennill dwy gêm yn olynol ers mis Medi.
Bydd criw Craig Harrison yn llawn hyder ar ôl ennill 14 gêm yn olynol, ac am eu bod wedi ennill eu 10 gêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 8-0, 7-1, 6-2, 5-0, 5-1 a 4-0.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌✅❌✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
CHWECH ISAF
Y Drenewydd (11eg) v Cei Connah (8fed) | Nos Wener – 19:45
Pedair gêm yn weddill a gwahaniaeth goliau’n unig sy’n golygu bod Llansawel yn eistedd yn niogelwch y 10fed safle, a’r Drenewydd yn nhywyllwch yr 11eg safle.
Wedi gêm gyfartal rhwng Llansawel a’r Drenewydd yn ddiweddar mae’r ddau glwb yn parhau’n hafal ar bwyntiau, ond mae gan Lansawel saith gôl o fantais dros y Robiniaid, ac felly bydd rhaid i’r Drenewydd gael canlyniadau gwell na’r Cochion os am godi uwch eu pennau cyn diwedd y tymor.
Gemau’n weddill yn y frwydr i osgoi’r cwymp:
Y Drenewydd: Cei (c), Barri (oc), Aber (c), Ffl (oc)
Llansawel: Aber (oc), Cei (c), Ffl (c), Barr (oc)
Mae Cei Connah wedi camu i rownd derfynol Cwpan Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol, ac ar ôl ennill pum gêm o’r bron mae’r Nomadiaid yn cadw’r pwysau ar Y Barri yn y ras am y 7fed safle.
Hydref 2021 oedd y tro diwethaf i’r Drenewydd guro Cei Connah, a bellach mae’r Nomadiaid ar rediad o 12 gêm heb golli yn erbyn y Robiniaid (ennill 8, cyfartal 4)
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏ ❌➖✅➖➖
Cei Connah: ͏ ✅❌✅✅✅
Aberystwyth (12fed) v Llansawel (10fed) | Nos Wener – 19:45
Mae’r frwydr bron ar ben i Aberystwyth a byddai colled i’r Gwyrdd a’r Duon nos Wener yn cadarnhau cwymp y clwb i’r ail haen.
Mae Aberystwyth a’r Drenewydd wedi bod yn aelodau di-dor o Uwch Gynghrair Cymru ers 1992, ond mae’r ddau glwb o’r canolbarth mewn perygl o syrthio i’r ail haen eleni.
I fod yn deg, mae Aberystwyth wedi bod yn chwarae gyda tân am gyfnod hir gan orffen dim ond un safle uwchben y ddau isaf (10fed) yn y ddau dymor diwethaf.
Anthony Williams oedd rheolwr y clwb rhwng Mai 2022 ac Hydref 2024, a gadawodd y clwb mewn sefyllfa truenus yn y ddau isaf, ac ar ôl i Dave Taylor gymryd yr awennau dros dro am fis, fe ddychwelodd Antonio Corbisiero i reoli’r clwb ym mis Tachwedd.
Er ei ymdrechion dyw Corbisiero heb allu llywio carfan Ceredigion i ffwrdd o’r dyfnderoedd ac ar ôl colli saith o’u wyth gêm ddiwethaf (a methu a sgorio yn eu pedair gornest ddiwethaf) mae’r anochel yn agoshau i Aberystwyth.
Mae’r gemau rhwng y ddau dîm wedi bod yn rhai llawn goliau hyd yma’r tymor hwn gyda Llansawel yn ennill o 4-0 a 6-1 yn rhan gynta’r tymor, cyn i Aberystwyth ennill o 3-2 ar yr Hen Heol fis diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏✅❌❌❌❌
Llansawel: ❌✅❌❌➖
Y Fflint (9fed) v Y Barri (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl cipio buddugoliaeth yn y funud olaf yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Llansawel ac Aberystwyth, mae’r Barri’n parhau bum pwynt yn glir o Gei Connah yn y ras am y 7fed safle ac yn gobeithio cystadlu’n y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ers tymor 2020/21.
Gemau’n weddill yn y ras am y 7fed safle:
Y Barri: Ffl (oc), Dre (c), Cei (oc), Llan (c)
Cei Connah: Dre (oc), Llan (oc), Barr (c), Aber (oc)
Dyw’r Barri m’ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf (ennill 4, cyfartal 3), a daeth y golled honno yn erbyn y Nomadiaid fis diwethaf, a bydd y clybiau’n cwrdd eto ar 13 Ebrill mewn gêm dyngedfennol.
Dyw’r Fflint ddim ond bedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp ac felly bydd Lee Fowler yn mynnu perfformiad gan ei garfan i geisio codi’n glir o’r gwaelodion.
Mae’r Barri wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint ac felly’r Sidanwyr yw’r unig dîm yn y gynghrair i golli 100% o’u gemau’n erbyn y Dreigiau y tymor yma.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌✅✅➖❌
Y Barri: ✅➖❌✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.