Ar ôl codi Cwpan Nathaniel MG nos Wener diwethaf mae sylw’r Seintiau Newydd bellach yn troi tuag at y gynghrair ac mae na bosibilrwydd y gall y bencampwriaeth gael ei hennill yr wythnos hon.
Chwe rownd o gemau cynghrair sydd ar ôl i’w chwarae ac mae gan y Seintiau 12 pwynt o fantais uwchben Pen-y-bont, sydd wedi mynd ar rediad o bedair gêm heb ennill ers yr hollt.
Bydd cewri Croesoswallt yn croesawu Hwlffordd i Neuadd y Parc ddydd Sadwrn cyn mentro i’r Oval nos Fawrth i herio Caernarfon, ac fe all y ras am y bencampwriaeth fod ar ben wedi’r gêm honno, yn ddibynnol ar ganlyniadau eraill.
Mae pethau dipyn tynnach ar waelod y tabl gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r Drenewydd a Llansawel yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae Aberystwyth bellach wyth pwynt yn brin o ddiogelwch y 10fed safle, ac felly mae’r Gwyrdd a’r Duon yn agos at y dibyn cyn teithio i wynebu Cei Connah nos Wener.
CHWECH UCHAF
Y Seintiau Newydd (1af) v Hwlffordd (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:15 (Yn fyw arlein)
Mae’r bencampwriaeth o fewn gafael i griw Craig Harrison sydd angen isafswm o naw pwynt o’u chwe gêm olaf i sicrhau’r tlws am y pedwerydd tymor o’r bron.
Ers colli’n Ewrop yn erbyn Celje ym mis Rhagfyr mae’r Seintiau wedi ennill 11 gêm yn olynol gan gadw llechen lân yn eu pum gêm ddiwethaf.
Er hynny, dim ond un gôl sgoriodd y Seintiau yn erbyn Aberystwyth yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf, oedd yn syndod i nifer o’u dilynwyr oedd wedi disgwyl canlyniad tipyn mwy cyfforddus yn erbyn y tîm ar waelod y tabl.
Ond mae tlws cynta’r tymor wedi’w hawlio a bydd y Seintiau’n disgwyl dim llai na’r trebl eleni gan nad ydi’r clwb wedi cyflawni’r gamp ers tymor 2015/16.
Pe bae’r Seintiau Newydd yn ennill y ddau dlws sy’n weddill (UGC a Cwpan Cymru), yna byddai’r tîm sy’n gorffen yn ail yn cipio lle awtomatig yn Ewrop, ac felly bydd Hwlffordd yn awyddus i gau’r bwlch o driphwynt sydd rhyngddyn nhw â Pen-y-bont (2il).
Mae Hwlffordd yn mwynhau cyfnod cryf gyda’r Adar Gleision ar rediad o wyth gêm heb golli’n y gynghrair (ennill 5, cyfartal 3).
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 14 gôl mewn 26 gêm) a gyda 14 llechen lân hyd yma mae’r golwr Zac Jones ar y brig yn ras am y Faneg Aur.
Ond mae’r Seintiau wedi ennill eu wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd a dyw’r Adar Gleision heb ennill oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd ers 20 mlynedd.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Hwlffordd: ➖✅➖➖✅
Met Caerdydd (5ed) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd Met Caerdydd yn gobeithio dringo ‘nôl uwchben Caernarfon ddydd Sadwrn gan mae dim ond triphwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb.
Mae diffyg cysondeb wedi bod yn broblem i Met Caerdydd y tymor hwn gan nad yw’r clwb wedi ennill dwy gêm yn olynol ers mis Medi.
Cynnal momentwm yw’r nod i Gaernarfon, a dyw’r 3ydd safle ddim rhy bell o afael y Cofis sydd ond wedi colli un o’u 10 gêm ddiwethaf oddi cartref yn y gynghrair (Aber 3-1 Cfon).
Mae’r record benben ddiweddar rhwng y timau yn hafal, gyda’r clybiau wedi cyfarfod chwe gwaith yn 2024 a dim yn gwahanu’r clybiau (Met ennill 2, Cfon ennill 2, cyfartal 2).
Louis Lloyd sydd wedi sgorio tair gôl y Cofis yn erbyn Met Caerdydd y tymor hwn a bydd yn ysu i ychwanegu at ei gyfanswm o 11 gôl y tymor hwn er mwyn aros ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌✅❌✅❌
Caernarfon: ✅✅➖❌✅
Pen-y-bont (2il) v Y Bala (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pen-y-bont a’r Bala wedi stryffaglu ers yr hollt gyda Pen-y-bont m’ond wedi cipio un pwynt allan o’r 12 posib, a’r Bala wedi colli pob un o’u pedair gêm yn ail ran y tymor.
Yn dilyn eu colled yn erbyn Caernarfon bythefnos yn ôl dywedodd Rhys Griffiths nad oedd Pen-y-bont yn cystadlu am y bencampwriaeth, ond mae brwydr i orffen yn 2il oedd hi bellach rhyngddyn nhw a Hwlffordd.
Dyma’r tro cyntaf ers Rhagfyr 2023 i Ben-y-bont fynd ar rediad o bedair gêm gynghrair heb ennill a bydd angen troi’r gornel yn sydyn os am hawlio un o’r tri safle’n Ewrop.
Mae’r Bala wedi colli pedair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers Ebrill 2023, a dyw’r gemau’n dod dim haws i garfan Gwynedd yn y Chwech Uchaf.
Mae’r Bala wedi cyrraedd Ewrop ar naw achlysur ers haf 2013, ond bydd angen codi ysbryd carfan Colin Caton os am geisio cyrraedd y nod eto eleni.
Pen-y-bont gafodd y gorau o bethau yn rhan gynta’r tymor, yn ennill 2-1 ar Faes Tegid ym mis Awst cyn cael gêm gyfartal 1-1 ym Mryntirion ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅❌➖❌❌
Y Bala: ✅❌❌❌❌
CHWECH ISAF
Cei Connah (8fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Wener – 19:45
Brwydrodd Aberystwyth yn ddewr yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG nos Wener diwethaf, ac er mae colli oedd eu hanes bydd Antonio Corbisiero yn croesi bysedd y gall ei chwaraewyr berfformio cystal yn y gynghrair a cheisio dianc o’r dyfnderoedd.
Mae Aberystwyth mewn sefyllfa peryglus eithriadol, wyth pwynt o dan diogelwch y 10fed safle gyda dim ond chwe gêm ar ôl i’w chwarae.
Mae’r clwb o Geredigion wedi colli chwech o’u saith gêm ddiwethaf ac wedi methu a sgorio yn eu tair gornest ddiwethaf.
Bydd Cei Connah wedi eu hysgogi yn dilyn eu canlyniadau diweddar, yn ennill tair allan o bedair a chau’r bwlch ar Y Barri i bum pwynt yn y ras am y 7fed safle.
Dyw Aberystwyth m’ond wedi colli un o’u pedair gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah, a’r Gwyrdd a’r Duon oedd yn dathlu wedi eu gornest ddiwethaf ar ôl ennill o 2-1 ar Gae-y-Castell yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏ ❌❌✅❌✅
Aberystwyth: ͏❌❌✅❌❌
Llansawel (10fed) v Y Barri (7fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Llansawel mewn sefyllfa pryderus, dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp gyda chwe gêm ar ôl i’w chwarae.
Mae diffyg cysondeb wedi amharu ar ymgyrch y Cochion gan nad ydyn nhw wedi ennill dwy gêm yn olynol drwy gydol y tymor er iddyn nhw guro clybiau fel Y Seintiau Newydd, Pen-y-bont, Met Caerdydd a Chei Connah.
Roedd Y Barri’n ymddangos yn gyfforddus yn y 7fed safle cyn eu colled yn erbyn Cei Connah bythefnos yn ôl, ond bydd y Dreigiau yn edrych dros eu ‘sgwyddau erbyn hyn gyda’r bwlch wedi cau i bum pwynt.
Ar ôl sgorio yn ei ddwy gêm ddiwethaf, bydd blaenwr Y Barri, Ollie Hulbert yn awyddus i ychwanegu at ei 10 gôl gynghrair er mwyn dringo i’r brig yn y ras am yr Esgid Aur.
Di-sgôr oedd hi’n y gêm ddiwethaf rhwng y timau ar nos Calan, ond fe enillodd Y Barri o 3-1 yn eu gêm gartref yn erbyn Llansawel ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ✅➖❌✅❌
Y Barri: ➖✅✅➖❌
Y Drenewydd (11eg) v Y Fflint (9fed) | Nos Wener – 19:45
Wedi rhediad truenus o 14 o gemau heb fuddugoliaeth roedd Y Drenewydd yn dathlu o’r diwedd ar ôl curo Aberystwyth bythefnos yn ôl yn eu gêm ddiwethaf.
Honno oedd buddugoliaeth gyntaf Callum McKenzie ers cael ei benodi’n reolwr ar y Robiniaid, a thriphwynt cyntaf Y Drenewydd ers curo Caernarfon ym mis Hydref.
Mae angen mynd hyd yn oed ymhellach yn ôl ar gyfer buddugoliaeth gartref ddiwethaf Y Drenewydd, ac hynny yn erbyn Met Caerdydd ar 13 Medi.
Ond dyw’r Fflint heb fod yn tanio oddi cartref chwaith gyda’r Sidanwyr heb ennill oddi cartref ers eu hymweliad diwethaf â Pharc Latham ym mis Hydref gan golli eu saith gêm oddi cartref ers hynny.
Enillodd Y Fflint eu dwy gêm yn erbyn Y Drenewydd yn rhan gynta’r tymor ac roedd hi’n ornest gyffrous ar Barc Latham ym mis Hydref gyda’r Sidanwyr yn ennill o 4-2 gyda chwe sgoriwr gwahanol yn taro ar y noson.
Byddai triphwynt i dîm Lee Fowler yn eu codi wyth pwynt yn glir o’r ddau isaf ac yn gam enfawr tuag at sicrhau eu lle yn y gynghrair am dymor arall.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏ ❌➖❌➖✅
Y Fflint: ͏❌✅❌✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.