Mae’r Seintiau Newydd wedi torri naw pwynt yn glir ar frig y tabl ac yn agoshau at eu pedwaredd pencampwriaeth yn olynol.
Mae’r Barri hefyd yn bell ar y blaen yn y ras am y 7fed safle, a byddai buddugoliaeth yn erbyn Cei Connah ddydd Sadwrn yn gadael y Dreigiau 11 pwynt yn glir yn y frwydr i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Ond ar waelod y tabl mae’r cyffro mwyaf erbyn hyn, a’r penwythnos hwn mi fydd y ddau isaf yn cyfarfod ar Goedlan y Parc yng ngêm ddarbi’r canolbarth wrth i Aberystwyth a’r Drenewydd geisio dianc o’r gwaelodion er mwyn osgoi syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed.
CHWECH UCHAF
Hwlffordd (3ydd) v Met Caerdydd (4ydd) | Nos Wener – 19:45
Pe bae’r Seintiau Newydd yn cyflawni’r dwbl (UGC a Cwpan Cymru), yna byddai’r tîm sy’n gorffen yn ail yn hawlio lle awtomatig yn Ewrop, ac felly bydd Hwlffordd yn awyddus i gau’r bwlch o chwe phwynt sydd rhyngddyn nhw â Pen-y-bont (2il).
Byddai gorffen yn 3ydd yn fanteisiol i Met Caerdydd hefyd, gan y byddai hynny yn golygu un rownd yn llai yn y gemau ail gyfle, ac felly bydd y myfyrwyr yn anelu i gau’r bwlch o saith pwynt sydd rhyngddyn nhw â Hwlffordd.
Mae Hwlffordd yn mwynhau cyfnod cadarn gyda’r Adar Gleision ar rediad o saith gêm heb golli’n y gynghrair (ennill 4, cyfartal 3).
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 14 gôl mewn 25 gêm) a gyda 13 llechen lân hyd yma mae Zac Jones ar y brig yn ras am y Faneg Aur.
Mae diffyg cysondeb wedi bod yn broblem i Met Caerdydd yn ddiweddar gan nad yw’r clwb wedi ennill dwy gêm yn olynol ers mis Medi.
Mae’r gemau diweddaraf rhwng y clybiau wedi bod yn rhai agos tu hwnt, a does dim un o’r timau wedi llwyddo i sgorio mwy nac unwaith yn y chwe gornest flaenorol (Met 0-0 Hwl, Met 1-1 Hwl, Hwl 1-1 Met, Hwl 1-1 Met, Met 0-0 Hwl, Hwl 1-0 Met).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅➖✅➖➖
Met Caerdydd: ͏➖❌✅❌✅
Y Bala (6ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Bala wedi colli tair gêm yn olynol am y tro cyntaf ers mis Medi 2023, a dyw’r gemau’n dod dim haws i garfan Gwynedd yn y Chwech Uchaf.
Ar ôl crafu eu ffordd i mewn i’r hanner uchaf mae’r Bala wedi colli pob un o’u gemau ers yr hollt, ond bydd Colin Caton ddim yn poeni’n ormodol gan mae’r gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor yw’r rhai pwysig iddyn nhw.
Llwyddodd Y Bala i ennill eu dwy gêm gynghrair yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rhan gynta’r tymor gan ddod y clwb cyntaf erioed i wneud hynny.
Does gan y Seintiau ddim record wych oddi cartref yn erbyn Y Bala, a dyw’r pencampwyr m’ond wedi sgorio unwaith yn eu tair gêm ddiwethaf ar Faes Tegid (Bala 0-0 YSN, Bala 0-1 YSN, Bala 1-0 YSN).
Ond mae’r Seintiau Newydd wedi ennill wyth gêm gynghrair yn olynol gan godi uwchben Pen-y-bont a thorri naw pwynt yn glir ar frig y tabl.
Mae’r Seintiau Newydd yn llygadu’r trebl eleni ar ôl cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD, a bydd cewri Croesoswallt yn herio Aberystwyth yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG y penwythnos nesaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌✅❌❌❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Caernarfon (5ed) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl treulio rhan helaeth o’r tymor ar gopa’r gynghrair bydd Pen-y-bont yn benderfynol o orffen yr ymgyrch yn yr ail safle, yn y gobaith o selio lle’n Ewrop ac osgoi’r gemau ail gyfle.
Y Bala (0pt) yw’r unig glwb yn y gynghrair i gipio llai o bwyntiau na Pen-y-bont (1pt) yn eu tair gêm ers yr hollt, ac mae’r hyder yn isel yng ngharfan Rhys Griffiths sydd ond wedi sgorio un gôl mewn tair gêm.
Cynnal momentwm yw’r nod i Gaernarfon, a dyw’r 3ydd safle ddim rhy bell o afael y Cofis fydd yn ceisio gorffen mor uchel a phosib er mwyn cael mantais yn y gemau ail gyfle.
Pen-y-bont enillodd y ddwy ornest rhwng y timau yn rhan gynta’r tymor gan chwalu’r Cofis o 5-1 ar eu hymweliad diwethaf â’r Oval ym mis Tachwedd.
Mae bechgyn Bryntirion wedi ennill chwech o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, gyda unig fuddugoliaeth y Caneris yn ystod y rhediad hwnnw yn dod yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf (Cfon 3-1 Pen).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅✅✅➖❌
Pen-y-bont: ͏✅✅❌➖❌
CHWECH ISAF
Aberystwyth (12fed) v Y Drenewydd (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:15 (Yn fyw arlein)
Mae Aberystwyth a’r Drenewydd wedi bod yn aelodau di-dor o Uwch Gynghrair Cymru ers 1992, ond mae’r ddau glwb o’r canolbarth mewn perygl o syrthio i’r ail haen eleni.
Mae Aberystwyth mewn sefyllfa peryglus eithriadol, wyth pwynt o dan diogelwch y 10fed safle gyda dim ond saith gêm ar ôl i’w chwarae.
Dyw’r ddau glwb m’ond wedi ennill pump o’u 25 gêm gynghrair hyd yma, ond y Gwyrdd a’r Duon sydd ar waelod y tabl ar ôl sgorio llai ac ildio mwy na phawb arall (sgorio 22, ildio 59).
Dyw rheolwr newydd y Robiniaid, Callum McKenzie yn bendant heb gael y dylanwad delfrydol ar y garfan gan i’r Drenewydd ennill dim ond dau bwynt allan o’r 30 posib yn y 10 gêm ers ei benodiad ym mis Tachwedd.
Dyw’r Drenewydd m’ond wedi ennill un o’u 19 gêm ddiwethaf (Cfon 1-2 Dre), ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed.
Enillodd Y Drenewydd o 4-1 gartref yn erbyn Aberystwyth ar benwythnos agoriadol y tymor, cyn i’r Gwyrdd a’r Duon dalu’r pwyth yn ôl ym mis Tachwedd gan ennill o 3-1 ar Goedlan y Parc.
Mae’r Drenewydd wedi ennill chwech o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, ond hon yw’r gêm ddarbi bwysicaf i’r ddau glwb ers blynyddoedd lawer.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏❌❌❌✅❌
Y Drenewydd: ͏ ❌❌➖❌➖
Y Barri (7fed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Barri wedi mynd ar rediad cryf o bum gêm heb golli (ennill 2, cyfartal 3) ac mae tîm Andy Legg wyth pwynt yn glir o Gei Connah yn y frwydr i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Mae Cei Connah ar y llaw arall wedi colli pump o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf a bydd Billy Paynter yn teimlo bod rhaid i’w dîm ennill ar Barc Jenner os am unrhyw obaith gwirioneddol o gystadlu am y 7fed safle.
Un cysur i Gei Connah yw eu bod wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru, ac fe all y Nomadiaid sicrhau lle’n Ewrop pe bae nhw’n codi’r tlws am yr ail dymor yn olynol.
Dyw’r Barri heb chwarae’n Ewrop ers haf 2020, ond gyda’r blaenwr Ollie Hulbert ‘nôl yn holliach, mi fyddai’r crysau melyn yn beryglus yn y gemau ail gyfle.
Mae’r Barri wedi curo Cei Connah ddwywaith yn barod y tymor hwn, a byddai triphwynt arall i’r Dreigiau ddydd Sadwrn yn eu codi 11 pwynt yn glir o’r Nomadiaid yn y ras am y 7fed safle.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖➖✅✅➖
Cei Connah: ͏ ❌❌❌✅❌
Y Fflint (9fed) v Llansawel (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Un pwynt sy’n gwahanu’r Fflint a Llansawel, sef y ddau dîm i esgyn i’r uwch gynghrair yr haf diwethaf, a’r targed i’r ddau glwb eleni oedd sicrhau nad oedden nhw’n syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen.
Ar hyn o bryd mae pethau’n edrych yn addawol i’r clybiau, ond byddai buddugoliaeth i’r naill glwb neu’r llall ddydd Sadwrn yn gam mawr tuag at gadarnhau eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Mae’r Fflint mewn brwydr i osgoi’r cwymp gyda tri o glybiau eraill, ond dyw’r Sidanwyr heb golli yn eu saith gêm yn erbyn y clybiau rheiny y tymor hwn (curo Aberystwyth deirgwaith, Y Drenewydd ddwywaith a cipio 4pt yn erbyn Llansawel).
Mae tîm Lee Fowler wedi ennill eu pum gêm gartref ddiwethaf gan ildio dim ond dwy gôl yn ystod y rhediad hwnnw.
Ond mae Llansawel wedi perfformio’n safonol oddi cartref yn ddiweddar gan golli dim ond un o’u pum gornest ddiwethaf oddi cartref (ennill 3, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏✅❌✅❌✅
Llansawel: ❌✅➖❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.





