S4C

Navigation

 

Mae’r ras am y Chwech Uchaf wedi cael ei ymestyn tan nos Fawrth, ond mae tair gêm arwyddocaol yn cael eu cynnal y dydd Sadwrn yma. 

Gan i’r gêm rhwng Y Bala a Chaernarfon gael ei gohirio deirgwaith, mae darbi Gwynedd wedi cael ei hail-threfnu am y pedwerydd tro y penwythnos hwn. 

Mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd eisoes wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, a byddai buddugoliaeth i’r Bala yn cadarnhau eu lle hwythau, yn ogystal â Met Caerdydd yn yr hanner uchaf. 

 

Dydd Sadwrn, 11 Ionawr 

Aberystwyth (12fed) v Llansawel (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Tra mae’r ras am y Chwech Uchaf sy’n mynd a’r prif sylw, mi fydd yna gêm allweddol yn y frwydr i osgoi’r cwymp yn cael ei chynnal ar Goedlan y Parc rhwng y ddau glwb isa’n y tabl. 

Mae pedwar pwynt yn gwahanu’r ddau glwb cyn y penwythnos a byddai colled i Aberystwyth yn eu gadael mewn twll pryderus ar waelod y gynghrair. 

Mae Aberystwyth, fel Y Drenewydd, wedi bod yn aelodau di-dor o Uwch Gynghrair Cymru ers 1992 ac mae’r ddau glwb mewn perygl o syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed eleni. 

Y cysur mwyaf i Antonio Corbisiero ydi nad yw Aberystwyth wedi colli dim un o’u pedair gêm gartref ddiwethaf (ennill 3, cyfartal 1). 

Ond roedd hi’n golled drom i’r Gwyrdd a’r Duon yn eu gêm gyfatebol yn erbyn Llansawel, mewn crasfa o 4-0 ar yr Hen Heol ym mis Tachwedd. 

Dyw Llansawel ond un pwynt y tu ôl i’r Drenewydd a diogelwch y 10fed safle, ond dyw eu record oddi cartref heb fod yn wych y tymor hwn. 

Mae’r Cochion wedi colli wyth o’u 10 gêm gynghrair oddi cartref (curo Pen-y-bont a Met Caerdydd), ac felly dyw tîm Andy Dyer heb ennill pwynt wrth deithio tua’r gogledd. 

Beth bynnag fydd canlyniad y gêm, Aberystwyth fydd ar waelod y domen ar ddiwedd rhan gynta’r tymor, ac ers ffurfio’r fformat 12-tîm yn 2010 does dim un tîm erioed wedi llwyddo i ddringo allan o’r ddau isaf ar ôl dechrau ail ran y tymor ar waelod y tabl. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ͏❌❌✅➖❌ 

Llansawel: ✅❌✅➖❌ 

 

 

Y Bala (5ed) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Am y pedwerydd tro o fewn pythefnos mi fydd Y Bala a Chaernarfon yn paratoi i gyfarfod ar Faes Tegid wedi i’r gêm gael ei gohirio deirgwaith oherwydd y tywydd. 

Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Bala a Chaernarfon yng nghanol y tabl ac felly mae hon yn ornest allweddol yn y ras am y Chwech Uchaf. 

Mi fydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy nos Fawrth, a byddai buddugoliaeth i’r Bala ddydd Sadwrn yn cadarnhau eu lle yn yr hanner uchaf. 

Mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd eisoes wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, ond mae pum clwb arall yn dal i gystadlu am y tri safle olaf ymysg yr elît. 

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ac mae criw Colin Caton mewn safle addawol i wneud hynny eto eleni yn dilyn rhediad o naw gêm gynghrair heb golli (cyfartal 7, ennill 2). 

Gormod o gemau cyfartal yw prif broblem Y Bala eleni gan bod 11 o’u 20 gêm gynghrair wedi gorffen yn gyfartal, yn cynnwys gemau oddi cartref yn Llansawel, Y Fflint, Y Drenewydd ac Aberystwyth, ble byddai’r Bala wedi disgwyl gadael gyda’r triphwynt. 

Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf ym mhump o’u chwe tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, ond ar ôl colli eu dwy gêm ddiwetahf mae tîm Richard Davies ym mhell o fod yn ddiogel o’u lle ymysg yr elît eleni. 

Gorffennodd hi’n ddi-sgôr yn y gêm gyfatebol rhwng y clybiau yma ar yr Oval ym mis Awst, sef y bumed gêm gyfartal yn olynol rhwng y ddau dîm. 

Dyw’r Bala heb golli yn eu 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 6, cyfartal 6), ers y golled o 3-0 ar yr Oval ym mis Mai 2021 ble sgoriodd yr amddiffynnwr Max Cleworth ddwy gôl i’r Cofis yn ystod ei gyfnod ar fenthyg o Wrecsam. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ➖➖✅✅➖ 

Caernarfon: ✅➖✅❌❌
 

 

Y Drenewydd (10fed) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Mae’r Drenewydd ar rediad trychinebus o 10 gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 1, colli 9) ac mae’r Robiniaid bellach mewn brwydr i osgoi’r cwymp. 

Mae Callum McKenzie yn dal i aros am ei bwynt cyntaf ar ôl chwe colled yn olynol ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Y Drenewydd. 

Bydd Pen-y-bont yn benderfynol o barhau i gystadlu am y bencampwriaeth gyda’r Seintiau Newydd sydd ond un pwynt uwch eu pennau. 

Dyw tîm Rhys Griffiths m’ond wedi colli un o’u 10 gêm gynghrair oddi cartref y tymor hwn, ac honno yn y funud olaf yng nghartre’r Seintiau (YSN 3-2 Pen). 

Gorffennodd hi’n ddi-sgôr yn y gêm gyfatebol rhwng y ddau dîm ar ddechrau’r tymor, ond fe enillodd Pen-y-bont o 5-0 ar eu hymweliad diwethaf â Pharc Latham yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai. 

Dyw’r Drenewydd heb ennill gartref ers mis Medi, ac mae Pen-y-bont ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn cochion y canolbarth (ennill 6, cyfartal 2). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Drenewydd: ͏❌❌❌❌❌ 

Pen-y-bont: ͏❌✅✅➖✅ 

 

Gemau olaf cyn yr hollt – Nos Fawrth, 14 Ionawr am 19:45: 

 

Caernarfon v Y Fflint 

Cei Connah v Y Bala 

Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd 

Y Barri v Hwlffordd 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?