S4C

Navigation

11 wythnos ers i’r Drenewydd drechu Caernarfon yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cymru Premier JD 2020/21 a bydd y gynghrair yn dechrau o’r newydd unwaith eto’r penwythnos hwn. 

Er mae’r un 12 clwb bydd yn cystadlu yn y gynghrair eleni gan i dymor yr ail haen gael ei ohirio y flwyddyn diwethaf, mi fydd yna ychydig o newid i strwythur y gynghrair eleni. 

Mae Cymru wedi colli un lle yn nghystadlaethau Ewrop ac felly dim ond tri chlwb, yn hytrach na phedwar fydd yn ennill lle yn Ewrop ar ddiwedd y tymor. 

Bydd pencampwyr tymor 2021/22 yn sicrhau lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr, tra bydd y tîm sy’n gorffen yn 2il yn ymuno â enillwyr Cwpan Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa. 

Felly am y tro cyntaf, ni fydd enillwyr y gemau ail gyfle yn mynd i Ewrop, ond yn hytrach mi fydd enillwyr y gemau ail gyfle yn camu i gystadleuaeth Cwpan Her Yr Alban ynghŷd â’r pencampwyr. 

Nos Wener, 13 Awst 

Derwyddon Cefn v Cei Connah | Nos Wener – 19:45 

Tasg gyntaf rheolwr newydd Derwyddon Cefn, Niall McGuinness ar noson agoriadol y tymor bydd wynebu’r pencampwyr, Cei Connah. 

Sicrhaodd y Nomadiaid y bencampwriaeth am yr ail dymor yn olynol ar benwythnos ola’r tymor diwethaf gyda buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref ym Mhen-y-bont. 

Gorffennodd y Derwyddon ar begwn arall y tabl yn dilyn tymor cythryblus ble bu rhaid i’r is-reolwr Jayson Starkey gymryd yr awennau gan i Bruno Lopes fethu a dychwelyd o Bortiwgal oherwydd canllawiau Covid-19. 

Mae Cei Connah wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon, ac er bod ambell i enw mawr wedi gadael Glannau Dyfrdwy dros yr haf, bydd hogiau Andy Morrison yn sicr yn ffefrynnau i guro ar Y Graig. 

Colli 3-0 oedd hanes y Derwyddon yn erbyn Prestatyn y penwythnos diwethaf yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG, ond ennill 2-0 wnaeth deiliad y cwpan, Cei Connah yn erbyn Llandudno. 

 

Dydd Sadwrn, 14 Awst 

Aberystwyth v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30 

Yn dilyn seibiant yr haf bydd Aberystwyth a’r Barri yn gobeithio am ddechrau cadarn i’r tymor newydd ar gefn diweddglo siomedig yn 2020/21. 

Ar ôl cystadlu tua’r brig ar ddechrau’r tymor fe lithrodd Y Barri i’r 5ed safle a cholli yn erbyn Caernarfon yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, tra gorffennodd Aberystwyth yn 10fed gyda’u cyfanswm pwyntiau isaf ers 2011/12. 

Mae gan Y Barri record anhygoel yn erbyn Aberystwyth – tydyn nhw heb golli dim un o’u 10 gêm yn erbyn Aber ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair yn 2017, gan ennill pob un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn criw Ceredigion. 

Enillodd Y Barri 5-0 yn erbyn Llanelli yng Nghwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf ac roedd ‘na ddathlu yn Aberystwyth hefyd yn dilyn buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn Pen-y-bont. 

 

Met Caerdydd v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r tymor newydd yn dechrau fel y gorffennodd y tymor diwethaf i’r Fflint, gyda thrip i’r brif ddinas i herio myfyrwyr Met Caerdydd. 

Mae Neil Gibson wedi bod yn brysur dros yr haf yn hel mwy o hen griw Prestatyn i Gae-y-Castell, a bellach mae rhan helaeth o’r tîm enillodd gynghrair Cymru North i Brestatyn yn 2019/20 wedi dilyn Gibson i’r Fflint gyda Michael Parker a Jack Kenny y rhai diweddaraf i arwyddo i’r clwb. 

Ond yn ogystal â’r hen wynebau disgwyliedig, roedd ‘na ddatganiad annisgwyl yr wythnos diwethaf pan gyhoeddoedd Y Fflint eu bod wedi arwyddo’r blaenwr profiadol ac enillydd gwobr Chwaraewr y Tymor 2020/21, Michael Wilde o Gei Connah. 

Enillodd Met Caerdydd dair o’u pedair gêm yn erbyn Y Fflint y tymor diwethaf, a bydd y ddau glwb yn benderfynol o gael dechrau cryf i’r tymor newydd ar ôl treulio’r ymgyrch flaenorol yn rhan isa’r tabl. 

Chafodd Met Caerdydd ddim trafferth yn trechu Rhydaman 4-0 yn y gwpan nos Wener diwethaf, ond colli wnaeth Y Fflint ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Bala. 

 

Y Bala v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30 

Am yr ail dymor yn olynol gorffennodd Y Bala’n 3ydd y tu ôl i Cei Connah a’r Seintiau Newydd yn 2020/21.  

Roedd criw Colin Caton 14 pwynt yn glir o Ben-y-bont (4ydd), ond roedd yna fwlch mwy o 17 pwynt rhwng Y Bala a’r Seintiau Newydd (2il), a gyda’r clwb sy’n 3ydd ddim yn sicr o’u lle’n Ewrop haf nesaf mae hi am fod yn dasg anodd i gau’r bwlch ar y cewri tua’r copa. 

Ond gall profiad David Edwards a Paul Rutherford fod yn allweddol i’r Bala eleni wedi i’r ddau chwaraewr canol cae ymuno o’r Amwythig a Wrecsam dros yr haf. 

Dyw’r ystadegau benben ddim yn edrych yn rhy ffafriol i Ben-y-bont gan mae’r Bala sydd wedi ennill pob un o’r chwe gêm gynghrair flaenorol rhwng y timau gan sgorio 23 o goliau (cyfartaledd o 3.8 gôl y gêm). 

Ciciau o’r smotyn oedd tynged y ddau dîm y penwythnos diwethaf gyda’r Bala yn curo’r Fflint, ond Pen-y-bont yn colli yn Aberystwyth. 

 

Caernarfon v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 17:15 

11 wythnos i’r diwrnod ers i Gaernarfon golli 5-3 yn erbyn Y Drenewydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2020/21 a bydd y Cofis yn dechrau eu hymgyrch newydd ar yr Oval yn erbyn Hwlffordd. 

Mae Huw Griffiths wedi rhoi gweddnewidiad i’w garfan dros yr haf gydag enwau mawr fel Gareth Edwards, Michael Parker, Paulo Mendes, Joe Williams, Jack Kenny, Nathan Craig, Telor Williams a Josh Tibbetts i gyd yn gadael yr Oval. 

Yn eu lle mae Griffiths wedi arwyddo’r profiadol Steve Evans a Dion Donohue yn ogystal ac enwau cyffrous fel Daniel Gosset, Robert Hughes a’r golwr ifanc Jakub Ojrzyński ar fenthyg o Lerpwl. 

Mae Hwlffordd hefyd wedi gwneud ategiadau diddorol dros yr haf gyda Henry Jones, Dylan Rees a Lee Idzi yn symud i Ddôl y Bont. 

Yn rhyfeddol, dyw Hwlffordd heb golli dim un o’u 16 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon a bydd y Cofis eisiau sicrhau bod y rhediad hwnnw yn dod i ben brynhawn Sadwrn. 

Enillodd y ddau dîm o 3-0 yng Nghwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf – y Cofis yn curo Rhuthun ac Hwlffordd yn drech ar Goytre United. 

 

Dydd Sul, 15 Awst 

Y Drenewydd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sul – 14:30 

Gyda’r Seintiau Newydd yn parhau i gynrychioli Cymru ar eu hantur Ewropeaidd cafodd y gêm hon ei symud i ddydd Sul i alluogi digon o amser wedi eu gêm yn erbyn cewri Gweriniaeth Tsiec, Viktoria Plzen. 

Ar ôl ennill y gemau ail gyfle chafodd Y Drenewydd ddim gystal hwyl yn Ewrop wrth golli 5-0 dros ddau gymal yn erbyn Dundalk gyda’r clwb o Iwerddon yn profi’n rhy gryf i’r Robiniaid. 

Gorffennodd y Seintiau’r tymor yn waglaw am yr ail flwyddyn yn olynol a bydd Anthony Limbrick yn benderfynol na fydd hynny’n digwydd eto yn ei dymor llawn cyntaf gyda’r clwb o Groesoswallt. 

Dyw’r Robiniaid heb ennill dim un o’u 12 gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd, ers dydd San Steffan yn 2013. 

Sgoriodd Aaron Williams bedair gôl wrth i’r Drenewydd guro Cambrian a Clydach y penwythnos diwethaf ond colli oedd hanes y Seintiau ar ôl chwarae’r tîm ieuenctid yn erbyn Penrhyncoch. 

  

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol ac ar Sgorio nos Lun am 5:30. 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?