S4C

Navigation

Mae’r tymor newydd wedi cyrraedd a bydd y cyfan yn dechrau nos Wener pan fydd Llanelli yn croesawu’r Barri wrth i’r Cochion ddychwelyd i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers chwe blynedd. 

Bydd hi’n frwydr ddifyr ar Ddôl y Bont hefyd pan fydd Hwlffordd yn herio Pen-y-bont, sef y timau orffennodd yn y 3ydd a’r 2il safle y tymor diwethaf.  

Ac yna brynhawn Sul bydd Bae Colwyn yn croesawu Cei Connah i Ffordd Llanelian, gyda’r Gwylanod yn dychwelyd i’r haen uchaf ar y cynnig cyntaf ar ôl cael eu coroni’n bencampwyr y gogledd y tymor diwethaf. 

Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i’r nifer o aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27. Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair. Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r swm hwnnw syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.  

 

 Nos Wener, 8 Awst 

 

Hwlffordd v Pen-y-bont | Nos Wener – 19:45 

Bydd y ddau dîm yma’n awyddus i adeiladu ar eu llwyddiant ar ôl mwynhau tymor arbennig yn 2024/25 ble orffennodd Hwlffordd yn eu safle uchaf ers dros 20 mlynedd (3ydd), tra bod Pen-y-bont wedi gorffen yn eu safle uchaf erioed (2il). 

Er hynny, roedd hi’n haf siomedig i’r ddau dîm a gollodd ar y cynnig cynta’n Ewrop gyda Hwlffordd yn baglu’n erbyn Floriana o Malta, a Pen-y-bont yn cael eu curo gan Kauno Zalgiris o Lithwania. 

Hwlffordd oedd â record amddiffynnol orau’r gynghrair yn 2024/25, ond mae Tony Pennock wedi gorfod talu am y record safonol honno wrth i glybiau proffesiynol gipio nifer o’i brif chwaraewyr dros yr haf. 

Mae’r amddiffynnwr talentog, Lee Jenkins wedi arwyddo i Gasnewydd, tra bod y golwr Zac Jones wedi ymuno â AFC Fylde. 

Yn ogystal â hynny mae’r chwaraewr rhyngwladol o Malta, Luke Tabone wedi symud i Southport, a’r cefnwr Jacob Owen wedi ymuno â’r Seintiau Newydd. 

Byddai’r pedwar yn sicr wedi bod yn allweddol i’r Adar Gleision yn Ewrop, a gollodd yn erbyn Floriana yn bennaf oherwydd diffyg disgyblaeth gan i’r amddiffynwyr ildio dwy gic o’r smotyn a gweld dau gerdyn coch dros y ddau gymal (yn ogystal â cherdyn coch i’r rheolwr, Tony Pennock). 

Mae Pen-y-bont wedi ceisio cryfhau dros yr haf trwy arwyddo’r ymosodwr Noah Daley o Gaerfyrddin a’r cefnwr Ash Baker o’r Seintiau Newydd. 

Ond colli bu hanes Pen-y-bont yn Ewrop hefyd, yn erbyn y tîm sydd ar frig Cynghrair Lithwania, Kauno Zalgiris (4-1 dros y ddau gymal). 

Mae Pen-y-bont ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 5, cyfartal 2), a dyw’r Adar Gleision m’ond wedi sgorio unwaith yn ystod y rhediad hwnnw. 

 

Llanelli v Y Barri | Nos Wener – 19:45 

Wedi chwe blynedd o aros mae Llanelli yn ôl yn yr uwch gyghrair ar ôl ennill pencampwriaeth Cynghrair y De yn 2024/25. 

Llanelli oedd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn 2007/08, ond ar ôl cyfnod ariannol heriol fe aeth y clwb i’r wal yn 2013 cyn ail-sefydlu yn fuan wedyn a dechrau dringo’r cynghreiriau unwaith eto. 

Fe gododd y Cochion yn ôl i’r haen uchaf ar gyfer tymor 2018/19, ond roedd hi’n flwyddyn anodd i’r clwb orffennodd ar waelod y tabl gyda dim ond 16 pwynt wedi 32 o gemau. 

Bydd Lee John a’r tîm hyfforddi yn benderfynol o roi cynnig gwell arni eleni gan adael eu stamp ar y gynghrair. 

Roedd hi’n dymor cymysglyd i’r Barri llynedd gyda’r tîm yn dechrau’r ymgyrch yn gryf ond yn methu â sicrhau lle’n y Chwech Uchaf. 

Gorffennodd Y Barri’n 7fed cyn colli’n drwm yn erbyn Caernarfon yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle (Cfon 5-2 Barr). 

Mae’r Dreigiau wedi cryfhau’n amddiffynnol trwy arwyddo’r golwr dawnus, George Ratcliffe o Gei Connah, a chyn-amddifynnwr y Seintiau Newydd, Keston Davies. 

Mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y clybiau yma wedi gorffen yn gyfartal 1-1 wedi 90 munud. 

 

Y Bala v Y Fflint | Nos Wener – 19:45 

Mae hi’n gyfnod o newid mawr yn Y Bala wedi ymddiswyddiad Colin Caton a dreuliodd 22 o flynyddoedd wrth y llyw ym Maes Tegid. 

Esgynnodd Y Bala o’r drydedd haen i’r uwch gynghrair dan arweiniad Caton gan ennill Cwpan Cymru, Cwpan Nathaniel MG a gorffen yn yr ail safle deirgwaith. 

Mae Steve Fisher wedi bod wrth ochr Caton ar hyd y daith fel is-hyfforddwr, ac yntau sy’n cymryd yr awennau fel rheolwr ar gyfer y tymor newydd gyda newidiadau mawr i’r garfan. 

Dim ond pump o’r garfan flaenorol sydd wedi aros gyda’r clwb ar gyfer y tymor newydd gyda nifer o enwau newydd yn ymuno gan gynnwys y blaenwr John Owen o Aberystwyth. 

Ar ôl osgoi’r cwymp y tymor diwethaf gan orffen yn hafal a’r bwyntiau gyda Cei Connah yn yr 8fed safle, bydd Y Fflint yn gobeithio am flwyddyn cystal eleni. 

Mae cyn-gapten Aberystwyth, Jack Thorn wedi ymuno â’r Sidanwyr, yn ogystal â’r asgellwr Joe Faux o Gaernarfon. 

Bydd hi’n dasg anodd i’r Fflint, sydd heb ennill yn eu 13 gornest flaenorol yn erbyn Y Bala (colli 11, cyfartal 2) ers Rhagfyr 2019. 

 

Dydd Sadwrn, 9 Awst 

 Met Caerdydd v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30 

Gorffennodd Met Caerdydd a Chaernarfon yn y 5ed a’r 4ydd safle y tymor diwethaf, a bydd y ddau dîm yn disgwyl cyrraedd y Chwech Uchaf unwaith eto eleni. 

Fe gafodd Caernarfon y gorau o’r myfyrwyr yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai gan ennill ar giciau o’r smotyn ar yr Oval, cyn colli yn erbyn Hwlffordd yn y ffeinal. 

Ar ôl dod yn agos at gyrraedd Ewrop bydd y ddau glwb yn awchu i gyrraedd y nod y tymor hwn, yn enwedig gan bod un safle ychwanegol ar gael eto eleni. 

Bydd Lifumpa Mwandwe a Jasper Payne yn ychwanegiadau cyffrous ar yr esgyll yng Nghampws Cyncoed y tymor hwn wrth i Met Caerdydd baratoi am eu 10fed tymor yn yr uwch gynghrair. 

Ac mae Richard Davies wedi bod yn brysur yn atgyfnerthu carfan y Cofis gyda Connor Roberts yn ymuno fel golwr, Kyle Harrison ac Osebi Abadaki yn ymuno o’r Bala, Iwan Lewis o Aberystwyth, ac yna Connor Evans a Zack Clarke yn cryfhau’r linell ymosodol. 

Ond bydd hi’n her llenwi esgidiau’r blaenwr Louis Lloyd sydd wedi symud i St Johnstone yn yr Alban ar ôl ennill gwobr yr Esgid Aur a gwobr Chwaraewr Ifanc y Tymor yn 2024/25. 

Bydd Caernarfon yn chwarae eu gemau cartref yn Llandudno eleni tra bod gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i’w cae arferol, Yr Oval. 

 

Dydd Sul, 10 Awst 

 

Y Seintiau Newydd v Llansawel | Dydd Sul – 14:30 

Roedd hi’n haf siomedig i’r Seintiau Newydd a gollodd eu dwy rownd yn Ewrop yn erbyn Shkëndija a Differdange 03. 

Wedi’r llwyddiant o gyrraedd rownd y gynghrair yng Nghyngres UEFA llynedd, ac ar ôl gwario swm honedig o £200,000 am y blaenwr newydd Ben Wilson roedd disgwyl i bencampwyr Cymru wneud tipyn gwell yn Ewrop eleni, ond roedd y perfformiadau dros y bedair gêm yn ddi-fflach. 

Yr unig gysur i Craig Harrison yw bod modd rhoi ei sylw llawn i’r tymor domestig eleni a cheisio cwblhau’r trebl am yr ail flwyddyn yn olynol. 

Osgoi’r cwymp bydd y nod cychwynnol i Lansawel unwaith eto’r tymor hwn, yn enwedig gan i’r garfan gael ei gwanhau drwy golli Luke Bowen, Caleb Demery, Tyler Brock a Jasper Payne dros yr haf. 

Llwyddodd Llansawel i drechu’r Seintiau o 3-1 ar yr Hen Heol fis Tachwedd diwethaf, ond fe gafodd criw Croesoswallt ddial fis yn ddiweddarach gan ennill 5-2 yn Neuadd y Parc. 

 

 Bae Colwyn v Cei Connah | Dydd Sul – 17:00 (S4C) 

Mae Bae Colwyn wedi esgyn yn ôl i’r uwch gynghrair ar y cynnig cyntaf ar ôl cipio pencampwriaeth Cynghrair y Gogledd 2024/25. 

Ac mae’r rheolwr Michael Wilde wedi bod yn brysur iawn yn cryfhau’r garfan dros yr haf er mwyn sicrhau na fydd y clwb yn syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen y tro hwn. 

Mae’r Gwylanod wedi arwyddo nifer o enwau profiadol o’r uwch gynghrair yn cynnwys Aeron Edwards, Nathan Peate a Louis Robles o’r Bala. 

Mae Alex Downes a Matty Hill wedi dychwelyd i Ffordd Llanelian ar gyfer eu hail gyfnod gyda’r clwb, gyda Aaron Williams a George Hughes hefyd yn ymuno o’r Drenewydd, a Jordan Davies yn dychwelyd i Gymru wedi cyfnod yn yr Alban. 

Mae’n gyfnod cyffrous yng Nghei Connah sydd yn paratoi am eu tymor cyntaf dan arweiniad eu rheolwr newydd, John Disney a chwaraeodd dros 300 o gemau cystadleuol i’r Nomadiaid. 

Gorffennodd Cei Connah yn 8fed y tymor diwethaf, ac oherwydd hynny fe gollodd Billy Paynter ei swydd fel rheolwr, a bydd y Nomadiaid yn anelu i ddychwelyd i’r Chwech Uchaf y tymor hwn.  

Fel Bae Colwyn, mae Cei Connah wedi medru denu chwaraewyr o’r Drenewydd dros yr haf yn dilyn cwymp y Robiniaid, a bydd Zeli Ismail a Jason Oswell yn opsiynau ymosodol safonol i’r Nomadiaid. 

Mae Cei Connah wedi ennill eu tair gêm flaenorol yn erbyn Bae Colwyn, a rheolwr y Gwylanod, Michael Wilde beniodd y gôl fuddugol i’r Nomadiaid yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau ‘nôl ym mis Tachwedd 2023 (Bae 2-3 Cei). 

 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?