S4C

Navigation

Bydd Sgorio’n fyw o Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Sadwrn wrth i’r pencampwyr presennol, Cei Connah, groesawu’r Bala ar gyfer gêm gynghrair gynta’r tymor newydd.

.
Dydd Sadwrn, 12 Medi

Aberystwyth v Met Caerdydd| Dydd Sadwrn – 2.30
Bydd Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd i Goedlan y Parc ar ddydd Sadwrn agoriadol y Cymru Premier, y ddau dîm yn gobeithio am le yn y 6 uchaf ar ôl gorffen yn yr hanner isaf y tymor diwethaf.

Mae edrychiad newydd i Aberystwyth; rheolwr newydd a 10 chwaraewr newydd yn ymuno.

Gavin Allen sy’n cymryd yr awenau y tymor yma. Yn gyn is-reolwr i Neville Powell a Matthew Bishop, sgoriodd 93 gôl gynghrair yn ei amser fel chwaraewr i Aber, ac mae’r haf wedi bod yn un prysur iddo.

10 chwaraewr yn ymuno â’r garfan, gan gynnwys Gwion Owen o Ruthin, Owain Jones o Merthyr a George Harry o’r Drenewydd.

Mae Met Caerdydd wedi cyhoeddi bod tri aelod newydd i’w carfan, CJ Craven, Jac Davies and Kieron Proctor.

Mae Craven yn ymuno o academi Y Seintiau ac roedd Proctor yn aelod o garfan dan 16 Cymru enillodd y Victory Shield yn 2014 gydag Ethan Ampadu a Rabbi Matondo!

Y ddau dîm wedi curo ei gilydd yn ei gemau diwethaf ac yn targedu gêm gynta’r tymor fel un i ennill pwyntiau ohoni.

Gemau diwethaf
Met Caerdydd 3-1 Aberystwyth (08/02/20)
Met Caerdydd 1-2 Aberystwyth (14/12/19)

Caernarfon v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 2.30
Huw Griffiths yn rheoli’r tîm yn ei dymor llawn cyntaf gan obeithio arwain y tîm un cam ymhellach na’r llynedd – 5ed pan ddaeth y gynghrair i ben.

Pen-y-bont yn gorffen un safle uwchben y safleoedd cwympo y llynedd a thîm Rhys Griffiths yn gobeithio adeiladu ar eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.

Gemau agos rhwng y ddau dîm llynedd. Gêm ddi-sgôr pan gyfarfu’r ddau dîm ddiwethaf, ym Mhen-y-bont cyn y torriad. Hynny’n dilyn buddugoliaeth o 3-2 i’r Cofis yn y gêm gyfatebol ar Yr Oval ym mis Medi. Gôl gan Jamie Crowther gyda 90 munud ar y cloc yn cipio’r 3 phwynt i Gaernarfon.

Gemau diwethaf
Pen-y-bont 0-0 Caernarfon (04/01/20)
Caernarfon 3-2 Pen-y-bont (14/09/19)

Hwlffordd v Y Derwyddon Cefn | Dydd Sadwrn – 2.30
Hwlffordd yn dychwelyd i’r Uwch Gynghrair am y tro cyntaf ers iddynt gwympo ohoni yn 2015/16. Wedi ennill dyrchafiad wedi ar ôl gorffen yn ail i Brifysgol Abertawe yng Nghyngrair y De. Wedi cryfhau’r garfan dros yr haf wrth baratoi.

Bruno Lopes yn rheoli’r Derwyddon yn dilyn cyfnod byr Stuart Gelling gyda’r clwb.

Gorffen yn 8fed yn y gynghrair y llynedd ac yn edrych am ddechrau da wrth deithio i gwrdd â’r newydd-ddyfodiaid.

Heb gwrdd a’i gilydd yn yr Uwch Gynghrair ers 2010 – Hwlffordd yn ennill ar ddau achlysur.

Gemau diwethaf
Derwyddon Cefn 1-2 Hwlffordd (05/04/10)
Hwlffordd 1-0 Y Derwyddon Cefn (27/03/10)

Y Barri v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 2.30
Dau o bedwar uchaf y gynghrair llynedd yn cwrdd ar Barc Jenner gyda llawer i’w brofi.

Y Seintiau yn anelu i ail gipio’r gynghrair ar ôl y siom o ddod yn ail, ar ôl bod yn bencampwyr am 8 mlynedd yn olynol!

Y Barri, a orffennodd yn 4ydd, yn chwilio am ddechrau da i’w tymor domestig yn dilyn y siom o gael eu bwrw allan o Ewrop yn y gêm ragbrofol gyntaf o 5-1 i NSÍ o Ynysoedd y Ffaröe.

Canlyniad da i’r Barri y tro diwethaf iddynt gyfarfod – gêm gyfartal 2-2 i ffwdd ar Neuadd y Parc ar y 6ed o Fawrth. Y Seintiau yn ildio gôl yn y funud olaf a gollwng dau bwynt pwysig yn y ras am y bencampwriaeth.

Gemau diwethaf
Y Seintiau Newydd 2-2 Y Barri (06/03/20)
Y Barri 1-4 Y Seintiau Newydd (13/12/19)

Y Fflint v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 2.30
Y Fflint yn dychwelyd i’r gynghrair uchaf am y tro cyntaf ers iddynt gwympo ohoni ar ddiwedd tymor 1997/98 ar ôl bod ynddi am 6 thymor cyn hynny. Wedi ennill dyrchafiad ar ôl gorffen yn ail i Brestatyn yng Nghyngrair y Gogledd – Prestatyn yn methu allan oherwydd sefyllfa trwyddedu.

Y Drenewydd wedi gorffen yn 6ed yn UGC llynedd ac yn anelu i gystadlu gyda’r goreuon eto eleni.

Y ddau dîm wedi cyfarfod ei gilydd ddiwethaf yng nghwpan Cymru ym mis Ionawr 2018 a’r sgôr yn gyfartal 2-2 ar ddiwedd y gêm cyn i’r Drenewydd ennill wedi ciciau o’r smotyn.

Gemau diwethaf
Y Fflint 2-2 Y Drenewydd (cos) CC (20/01/18)
Y Fflint 0-2 Y Drenewydd CC (05/12/15)

Cei Connah v Y Bala | Nos Sadwrn– 5.45 (S4C, Facebook & YouTube Sgorio)
Ar ôl ennill y gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes yn nhymor 2019/20 bydd Cei Connah yn dechrau amddiffyn eu coron wrth groesawu’r Bala, oedd saith pwynt y tu ôl iddynt yn y trydydd safle pan ddaeth y tymor i ben.

Bydd y ddau dîm yn awyddus i ddechrau eu tymor newydd gyda chanlyniad da a fydd yn rhoi hyder iddynt wrth ail gydio yn eu hymgyrchoedd Ewropeaidd – Cei Connah gartref i Dinamo Tblisi ar y Cae Ras, Wrecsam a’r Bala yn teithio i Wlad Belg i gwrdd â Standard Liège yn ail rownd gymhwyso Cynghrair Europa (yn fyw ar-lein 17/09/20 – 7.00).

Cyfartal 2-2 oedd hi pan gyfarfu’r ddau dîm ddiwethaf ar Faes Tegid Y Bala ar ddechrau mis Mawrth mewn gem gystadleuol danllyd. Michael Wilde yn rhoi Cei Connah ar y blaen wedi 2 funud yn unig ond Chris Venables yn taro nôl i’r tîm cartref bum munud yn ddiweddarach. Jamie Insall yn rhoi Cei Connah yn ôl ar y blaen cyn y toriad a Kieran Smith yn ei gwneud hi’n gyfartal eto wedi 78 munud. Y gêm gyfartal yn dod a record hir o fuddugoliaethau i Gei Connah dros Y Bala i ben.

Gemau diwethaf
Y Bala 2-2 Cei Connah (06/03/20)
Cei Connah 2-1 Y Bala (20/12/19)

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?