S4C

Navigation

Rydyn ni lawr i’r 16 olaf yng Nghwpan Cymru JD, a dros y penwythnos bydd saith o glybiau’r Cymru Premier JD, pedwar o glybiau Cynghrair y De JD, tri o Gynghrair y Gogledd a dau o’r drydedd haen yn cystadlu am le yn yr wyth olaf. 

 

 

Nos Wener, 8 Rhagfyr 

Llansawel (Haen 2) v Llanelli (Haen 2) | Nos Wener – 19:30 

Trydedd Rownd: Airbus UK 1-2 Llansawel, Llanelli (cos)3-3 Pen-y-bont 

Ail Rownd: Aberfan 0-3 Llansawel, Llanelli 4-0 Llanilltud Fawr 

Bydd y penwythnos yn dechrau gyda gêm gyffrous rhwng y ddau dîm sy’n hafal ar bwyntiau ar frig Cynghrair y De gyda record sydd bron yn hollol gyfartal. 

Mae’r ddau dîm wedi chwarae 13 gêm gynghrair, ennill 10, colli dwy a chael un gêm gyfartal, ond Llanelli sydd ar y brig o drwch blewyn gan iddyn nhw sgorio un gôl yn fwy, ac ildio un gôl yn llai na Llansawel cyn belled. 

Mae Llanelli wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf gan sgorio 25 o goliau (4.2 gôl y gêm), yn cynnwys buddugoliaeth arbennig ar giciau o’r smotyn yn erbyn Pen-y-bont yn rownd ddiwethaf y gwpan. 

Ethan Cann oedd seren Llanelli y noson honno, yn rhwydo ddwywaith i gochion Lee John, ac mae’r blaenwr ifanc bellach wedi sgorio 12 gôl yn ei chwe gêm ddiwethaf. 

Bydd Llansawel yn llawn hyder hefyd, yn enwedig gan iddyn nhw guro Llanelli o 2-0 mewn gêm gynghrair ar benwythnos agoriadol y tymor gyda Joseph Jones a Thomas Walters yn rhwydo ar y noson. 

Y tymor yma, mi fydd hi’n 13 o flynyddoedd ers i Lanelli ennill Cwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes – yn trechu Bangor o 4-1 yn y rownd derfynol ar Barc y Scarlets ym mis Mai 2011. 

Llynedd, fe lwyddodd Llansawel i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes cyn colli yn erbyn Y Bala, ond bydd tîm Andy Dyer yn awyddus i geisio mynd gam ymhellach eleni. 

 

Dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr 

Bae Colwyn (Haen 1) v Y Barri (Haen 1) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Trydedd Rownd: Y Drenewydd 1-1(cos) Bae Colwyn, Y Barri 1-0 Cegidfa 

Ail Rownd: Bae Colwyn 6-2 Llanrwst, Y Barri 6-0 Porthcawl 

Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Bae Colwyn a’r Barri yn hanner isaf tabl y Cymru Premier JD, ac felly fe ddylai fod yn gêm agos brynhawn Sadwrn. 

Mae’r timau eisoes wedi cyfarfod ddwywaith yn y gynghrair eleni, a’r Barri sydd wedi cael y gorau o bethau hyd yma, yn ennill 1-0 ar Ffordd Llanelian ym mis Hydref diolch i gôl Kayne McLaggon, ac hynny ar ôl gêm gyfartal 1-1 ar Barc Jenner ym mis Awst.

Cyrhaeddodd Bae Colwyn rownd gynderfynol Cwpan Cymru yn 2021/22 cyn colli 1-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd, ond dyw’r Gwylanod erioed wedi cyrraedd y rownd derfynol. 

Mae’r Barri wedi mwynhau digonedd o lwyddiant yng Nghwpan Cymru dros y blynyddoedd ac wedi ennill y gystadleuaeth ar chwe achlysur – y tro cyntaf yn 1955 yn erbyn Caer yna codi’r cwpan yn 1994, 1997 a deirgwaith yn olynol rhwng 2001 a 2003.  

Ond, yn anffodus i’r Dreigiau a’u cefnogwyr, dyw’r Barri heb gyrraedd rownd derfynol ers ennill y gystadleuaeth ddiwethaf dros 20 mlynedd yn ôl, ond fe ddaethon nhw’n agos yn 2018/19 pan gollon nhw o 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd gynderfynol. 

 

Caerau Trelai (Haen 2) v Y Bala (Haen 1) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Trydedd Rownd: Caerau Trelai (cos)3-3 Gresffordd, Aberystwyth 0-1 Y Bala 

Ail Rownd: Caerau Trelai 4-1 Lido Afan, Y Bala 3-0 Llandudno 

Rownd Gyntaf: Caerau Trelai 3-2 Corinthiaid Caerdydd  

Mae Caerau Trelai yn 11eg yng Nghynghrair y De ac wedi cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers wyth mlynedd.  

Cododd Caerau i’r ail haen dros yr haf ar ôl ennill pencampwriaeth Ardal De Orllewin 2022/23 a bydd y clwb o Gaerdydd yn gobeithio achosi sioc ddydd Sadwrn yn eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Y Bala. 

Y Bala oedd enillwyr Cwpan Cymru 2017, yn curo’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol yn Nantporth, ac roedden nhw’n anelu i ail-adrodd hanes y tymor diwethaf, ond fe gollon nhw’n drwm o 6-0 yn erbyn y Seintiau, sef y golled fwyaf mewn ffeinal ers 1931. 

Ers tymor 2011/12 mae’r Bala wedi llwyddo i gyrraedd rownd yr wyth olaf saith gwaith mewn 11 cynnig, ac yna camu ymlaen i’r rownd gynderfynol ar bump achlysur. 

Mae Caerau Trelai wedi sgorio o leiaf tair gôl yn eu tair gêm gwpan hyd yma a bydd angen i’r Bala fod yn wyliadwrus o Brandon Griffiths a sgoriodd ddwywaith yn yr ail a’r drydedd rownd. 

Bydd hi’n her curo amddiffyn cadarn Y Bala sydd heb ildio yn eu dwy gêm gwpan hyd yma, a sydd â’r ail record amddiffynnol orau’n yr uwch gynghrair (ildio 0.8 gôl y gêm). 

Bydd Y Bala’n gobeithio bod y tîm cyntaf o ogledd Cymru i guro Caerau Trelai ers i’r Fflint wneud hynny ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru yn Chwefror 2013 (Caer 1-3 Fflint), ac ar y sgorfwrdd y diwrnod hwnnw oedd amddiffynnwr presennol Y Bala, Nathan Peate a darodd ddwywaith i’r Fflint yng Nghwrt-yr-Ala. 

 

Caerfyrddin (Haen 2) v Y Seintiau Newydd (Haen 1) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Trydedd Rownd: Caerfyrddin 4-2 Abertyleri, Y Seintiau Newydd 7-0 Adar Gleision Trethomas

Ail Rownd: Caerfyrddin 2-0 Evans & Williams, Rhuthun 0-5 Y Seintiau Newydd 

Ers colli yn erbyn Cei Connah yn rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru 2017/18, mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 22 gêm yn olynol yn y gystadleuaeth gan godi’r gwpan deirgwaith yn olynol. 

Yn ogystal ag ennill 22 gêm gwpan yn olynol, dyw’r Seintiau chwaith heb golli yn eu 24 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 22, cyfartal 2), rhediad sy’n ymestyn yn ôl i’r haf pan gollon nhw yn erbyn Swift Hesperange ar Awst y 1af. 

Y tymor diwethaf fe enillodd y Seintiau o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Y Bala, sef y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931. 

Dyna oedd y 9fed tro i’r clwb o Groesoswallt gael eu henw ar y cwpan, a bellach dim ond Wrecsam (23), Caerdydd (22) ac Abertawe (10) sydd â record well yn y gystadleuaeth.  

Fydd hi’n glamp o her i Gaerfyrddin felly, sy’n cael tymor da yng Nghynghrair y De, yn 3ydd yn y tabl tu ôl i Lanelli a Llansawel, sef yr unig ddau dîm i’w curo’n y gynghrair ers mis Chwefror. 

Caerfyrddin oedd enillwyr Cwpan Cymru 2007, yn curo Lido Afan yn y rownd derfynol, ac mae’r Hen Aur wedi cyrraedd y bedwaredd rownd eleni am y tro cyntaf ers pum mlynedd. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu wyth gêm flaenorol yn erbyn Caerfyrddin, ond roedd angen ciciau o’r smotyn ar gewri Croesoswallt pan orffennodd hi’n ddi-sgôr rhwng y timau yn y bedwaredd rownd yn 2021/22. 

 

Hwlffordd (Haen 1) v Met Caerdydd (Haen 1) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Trydedd Rownd: Hwlffordd 2-0 Rhydaman, Met Caerdydd 2-1 Yr Wyddgrug

Ail Rownd: Hwlffordd (cos)0-0 Dreigiau Baglan, Met Caerdydd 4-0 Cwmbrân 

Mae Hwlffordd a Met Caerdydd yn brwydro am le yn y Chwech Uchaf yn yr uwch gynghrair, ond mae’r myfyrwyr (4ydd) mewn safle dipyn cryfach na’r Adar Gleision (8fed) gyda wyth pwynt yn gwahanu’r ddau dîm a phum gêm i fynd tan yr hollt. 

Mae’r clybiau wedi cyfarfod ddwywaith yn y gynghrair y tymor yma ac fe orffennodd hi’n 1-1 yn y ddwy gêm, ac hynny ar ôl gêm ddi-sgôr yn y gemau ail gyfle ym mis Mai ble enillodd Hwlffordd ar giciau o’r smotyn, felly mae’n bosib y bydd angen ciciau o’r smotyn eto ddydd Sadwrn i wahanu’r ddau dîm. 

Hon fydd y 14eg gêm rhwng y timau mewn tair blynedd a Met Caerdydd sydd wedi cael y gorau o bethau ar y cyfan (Met ennill 6, Hwl ennill 4, cyfartal 3). 

Er bod Hwlffordd wedi cystadlu’n gyson yn yr uwch gynghrair dyw’r clwb gyrraedd rownd yr wyth olaf ers ers tymor 2012/13 pan gollodd yr Adar Gleision o 1-0 gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd. 

Daeth rhediad gorau Hwlffordd yn y gystadleuaeth yn 2004/05 pan gyrhaeddon nhw’r rownd gynderfynol cyn colli 1-0 yn erbyn Caerfyrddin. 

Cyrhaeddodd Met Caerdydd y rownd gynderfynol ddwywaith yn olynol yn 2019 a 2020, ond ers ffurfio’r clwb presennol yn 2000, dyw’r myfyrwyr erioed wedi ennill y gwpan. 

Dyw Hwlffordd ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf (ennill 5, cyfartal 2), tra bo Met Caerdydd ond wedi colli un o’u 11 gêm ddiwethaf (ennill 7, cyfartal 3), felly bydd y ddau dîm yn benderfynol o sicrhau eu lle yn yr wyth olaf ddydd Sadwrn. 

 

Mynydd y Fflint (Haen 3) v De Gŵyr (Haen 3) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Trydedd Rownd: Mynydd y Fflint 2-1 Treganna, De Gŵyr (cos)2-2 Cas-gwent 

Ail Rownd: Mynydd y Fflint 3-1 Treffynnon, De Gŵyr (cos)1-1 Rockspur 

Rownd Gyntaf: NFA 0-3 Mynydd y Fflint, Penydarren 2-2(cos) De Gŵyr 

Ail Rownd Ragbrofol: Mynydd y Fflint 9-0 Bae Cinmel, Ton Pentre 2-2(cos) De Gŵyr 

Rownd Ragbrofol Gyntaf: De Gŵyr 2-0 Vale Utd 

Un peth sy’n sicr ydi y bydd yna glwb o’r drydedd haen yn hawlio eu lle yn yr wyth olaf, ond a’i Mynydd y Fflint o’r Ardal Gogledd Ddwyrain, yntau De Gŵyr o’r Ardal De Ddwyrain fydd yn yr het. 

Mae Mynydd y Fflint yn 9fed yn eu cynghrair, ond pe bae’r tîm yn ennill eu dwy gêm wrth gefn, fe fyddai nhw’n codi i’r ail safle, tu ôl i CPD Y Rhyl 1879. 

Mae De Gŵyr hefyd yn cystadlu am ddyrchafiad ac yn eistedd yn 4ydd yn eu cynghrair nhw, un pwynt tu ôl i’r tri uchaf sy’n hafal ar bwyntiau ar y brig. 

Yn rhyfeddol, mae De Gŵyr wedi ennill ar giciau o’r smotyn yn y bedair rownd ddiwethaf, a nhw yw’r unig glwb sydd wedi chwarae ym mhob rownd o’r gystadleuaeth hyd yma. 

Mae sawl enw profiadol yn aelodau o garfan Mynydd y Fflint bellach, ac mae cyn-chwaraewr yr uwch gynghrair, Rob Hughes (3), Aaron Simpson (2) a Mike Hayes (1) eisoes wedi sgorio chwe gôl rhyngddynt yn y gwpan eleni. 

Mae’r ddau glwb o’r drydedd haen wedi gwneud yn arbennig i ddod cyn belled yn y gystadleuaeth ac mi fydd un o’r clybiau yn camu i’r wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, gan bod Mynydd y Fflint yn rhannu cae gyda Y Fflint a Chei Connah yng Nghae-y-Castell, ac mae’r ddau glybiau rheiny yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddydd Sadwrn. 

 

Porthmadog (Haen 2) v Bwcle (Haen 2) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Trydedd Rownd: Porthmadog 5-1 Maes Awyr Caerdydd, Llanuwchllyn 1-2 Bwcle 

Ail Rownd: Y Waun 1-1(cos) Porthmadog, Bow Street 2-3 Bwcle 

Rownd Gyntaf: Porthmadog 3-0 Glantraeth 

Bydd hi’n ornest ddiddorol ar Y Traeth rhwng dau dîm sy’n yr hanner isaf yng Nghynghrair y Gogledd, a dim ond pedwar pwynt yn eu gwahanu. 

Mae’r rhediad da yn y gwpan wedi bod yn fendith i Fwcle y tymor yma gan eu bod yn stryffaglu’n y gynghrair ac yn eistedd yn safleoedd y cwymp ar ôl colli saith o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf. 

Mae Porthmadog wedi cyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers chwe mlynedd, tra bo Bwcle’n y bedwaredd rownd am y drydedd flwyddyn yn olynol. 

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal 1-1, felly bydd angen i’r ddwy garfan ymarfer eu ciciau o’r smotyn cyn y penwythnos. 

 

Y Fflint (Haen 2) v Cei Connah (Haen 1) | Dydd Sadwrn – 17:35 (S4C) 

Trydedd Rownd: Bangor 1876 1-1(cos) Y Fflint, Cei Connah 8-0 Prestatyn 

Ail Rownd: Dinbych 0-3 Y Fflint, Cei Connah 4-1 Caernarfon 

Fel arfer mae gêm ddarbi yn cael ei mesur gyda’r pellter rhwng y ddau glwb, ond gan bod Y Fflint a Chei Connah yn chwarae eu gemau cartref ar Gae-y-Castell, teg dweud na chewch chi gymodogion llawer agosach na rhain. 

Ar ben hynny, am yr ail rownd yn olynol, bydd rheolwr Cei Connah, Neil Gibson yn wynebu un o’i gyn-glybiau, ac ar ôl chwalu Prestatyn o 8-0 yn y drydedd rownd bydd pennaeth y Nomadiaid yn croesi bysedd am ganlyniad tebyg nos Sadwrn. 

Mae’r Fflint yn chwarae yng Nghynghrair y Gogledd ar ôl syrthio o’r uwch gynghrair dros yr haf, ond mae tîm Lee Fowler mewn safle addawol i ennill dyrchafiad yn syth gan eu bod ond driphwynt tu ôl i Airbus ar y brig, gyda tair gêm wrth gefn. 

Doedd Y Fflint heb golli mewn 13 gêm, ac wedi ennill saith yn olynol cyn eu gêm ddiwethaf ble gollon nhw o 4-3 gartref yn erbyn Dinbych yng Nghwpan Gwasanaeth Gwaed Cymru. 

Mae Cei Connah wedi bod yn sgorio goliau dirifedi yn ddiweddar, yn curo Caernarfon o 6-1, ennill 7-0 yn erbyn Y Barri y penwythnos diwethaf, a threchu Prestatyn o 8-0 yn rownd ddiwethaf y gwpan. 

Ond tydyn nhw heb sgorio naw fel y gwnaeth Y Fflint yn eu gêm gynghrair ddiwethaf, yn ennill 9-4 yn erbyn Llanidloes ar Gae-y-Castell gyda Elliot Reeves a Joshua Jones yn sgorio hatric yr un i’r Sidanwyr. 

Mae’r ddau glwb wedi cael eu dwylo ar y gwpan yn y gorffennol – fe enillodd y Fflint y gystadleuaeth yn ôl yn nhymor 1953/54 gyda buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Caer o flaen torf o bron i 16,000 yng Nghae Ras, Wrecsam.   

Enillodd Cei Connah y gwpan yn 2018 ar ôl curo Aberystwyth o 4-1 ar Barc Latham dan reolaeth Andy Morrison, ond baglu yn y rownd gynderfynol oedd eu hanes y tymor diwethaf, yn colli 3-2 yn erbyn Y Bala. 

Cyrhaeddodd Y Fflint y bedwaredd rownd yn 2021/22 dan arweiniad Neil Gibson, cyn colli 2-0 gartref yn erbyn Cei Connah, oedd yn cael eu rheoli ar y pryd gan reolwr presennol Y Seintiau Newydd, Craig Harrison.  

Dyw’r Fflint heb gyrraedd yr wyth olaf ers tymor 2019/20, a cholli yn erbyn tîm Neil Gibson wnaethon nhw bryd hynny gyda Prestatyn yn ennill 1-0 ar Gae-y-Castell trwy gôl Jack Kenny, sydd bellach gyda Cei Connah! 

Mae cysylltiadau lu rhwng y ddau glwb felly a sawl chwaraewr wedi chwarae i’r ddau dîm yn cynnwys Jake Phillips a James Owen oedd yn aelodau o garfan Cei Connah a enillodd y gwpan yn 2018, ond sydd bellach gyda’r Fflint. 

Tydi’r clybiau heb gyfarfod ers nos Calan llynedd pan orffennodd hi’n ddi-sgôr mewn gêm gynghrair ar Gae-y-Castell, ond dyw Cei Connah heb golli mewn naw gêm yn erbyn Y Fflint (ennill 7, cyfartal 2) a dyw’r Sidanwyr heb guro’r Nomadiaid ers 12 mlynedd. 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun am 9:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?