S4C

Navigation

Met Caerdydd (10fed) v Llansawel (8fed) | Nos Lun – 19:45 

Oherwydd trafferthion gyda’r llifoleuadau fis diwethaf gohiriwyd yr ornest wreiddiol rhwng y ddau dîm yma, ond bydd y gêm yn cael ei chwarae heno. 

Mae Met Caerdydd mewn safle peryglus, pum pwynt uwchben safleoedd y cwymp ar ôl rhediad truenus o 10 gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 6, colli 4). 

Ers curo’r Seintiau Newydd ddwywaith ym mis Tachwedd, dyw Met Caerdydd m’ond wedi ennill unwaith mewn 12 gêm (vs Llanelli). 

Yn rhyfeddol, dim ond y ddau uchaf (YSN a Cei Connah) sydd wedi colli llai o gemau na Met Caerdydd yn y gynghrair y tymor hwn (8/27), ond mae’r myfyrwyr wedi cael gormod o gemau cyfartal (13/27). 

Bydd Llansawel, ar y llaw arall, yn llawn hyder gan i’r Cochion golli dim ond un o’u wyth gêm ddiwethaf (ennill 5, cyfartal 2), a bydd tîm Andy Dyer yn edrych i fyny gan geisio cau’r bwlch o bedwar pwynt sydd rhyngddyn nhw a Hwlffordd. 

Mae Thomas Walters yn mwynhau tymor da i Lansawel, ac o glybiau’r Chwech Isaf does neb wedi cyfrannu at fwy o goliau nac ymosodwr y Cochion (sgorio 9, creu 9). 

Cyn-chwaraewr Llansawel, Jasper Payne yw prif sgoriwr Met Caerdydd y tymor hwn gyda chwech o goliau cynghrair, a daeth dwy o’r rheiny yn erbyn ei gyn-glwb yn rhan gynta’r tymor mewn dwy gêm gyfartal. 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ❌➖➖➖❌
Llansawel: ͏✅❌➖✅✅
 

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?