Nos Fercher, 20 Tachwedd
Llansawel (12fed) v Y Seintiau Newydd (2il) | Nos Fercher – 19:45
Hanner ffordd drwy’r tymor yn y Cymru Premier JD, ond mae gan Llansawel a’r Seintiau Newydd ddwy gêm wrth gefn, a’r ddwy yn erbyn ei gilydd.
Bydd y cyntaf o’r rheiny yn cael ei chwarae nos Fercher yma, a’r ail yn Neuadd y Parc ar yr 22ain o Ragfyr.
Dyma’r eildro i’r Seintiau wneud y daith i Lansawel y tymor hwn, gan y bu rhaid gohirio’r gêm yn gynnar ‘nôl ym mis Hydref wedi i’r glaw trwm ddod â’r ornest i stop.
Mae’r Seintiau Newydd bedwar pwynt y tu ôl i Ben-y-bont yn y ras am y bencampwriaeth, a bydd criw Craig Harrison yn awyddus i gau’r bwlch hwnnw ar yr Hen Heol.
Llansawel sydd ar waelod y tabl, ond gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r tri isaf, byddai buddugoliaeth i’r Cochion yn eu codi allan o safleoedd y cwymp.
Aeth Llansawel ar y blaen yn erbyn y Seintiau yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y tymor diwethaf, ond sgoriodd y Seintiau bum gôl yn yr hanner awr olaf i sicrhau buddugoliaeth swmpus (Llan 1-5 YSN).
Bydd Andy Dyer yn disgwyl ymateb gan ei chwaraewyr ar ôl colled siomedig yn erbyn Yr Wyddgrug o’r ail haen yng Nghwpan Cymru dros y penwythnos, ond mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd y bedwaredd rownd ar ôl curo Met Caerdydd.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌❌❌✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.