Bydd Y Fflint yn herio’r Bala nos Fawrth wedi i’r gêm gael ei gohirio’n gynharach yn y tymor oherwydd glaw trwm.
Nos Fawrth, 20 Hydref
Y Fflint v Y Bala | Nos Fawrth – 19:45
Bydd Y Bala’n gobeithio dringo i’r trydydd safle wrth i dîm Colin Caton baratoi i wynebu’r Fflint, sydd wedi colli eu pum gêm ddiwethaf gan lithro i’r ddau isaf.
Y Fflint oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r timau gwrdd ym mis Rhagfyr y llynedd, hynny yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru (Ffl 2-0 Bala)
Mae hogiau Maes Tegid yn llawn hyder ar ôl ennill eu tair gêm ddiwethaf, gyda’r capten Chris Venables yn rhwydo chwech gôl yn ystod y rhediad hwnnw i’w esgyn i frig rhestr y prif sgorwyr (9 gôl).
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌❌❌❌
Y Bala: ✅❌✅✅✅