S4C

Navigation

Wedi’r dair gêm agoriadol yn y Cymru Premier JD mae ‘na bum clwb sydd heb golli’n y gynghrair ac yn hafal ar saith o bwyntiau, tra bod yna chwe chlwb arall sy’n dal heb ennill gêm. 

Nos Fawrth, 29 Awst 

Bae Colwyn v Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth – 19:45 

Ar ôl dechrau anodd ers esgyn i’r uwch gynghrair, ac  dilyn eu colled ddiweddaraf o 1-0 oddi cartref yn Met Caerdydd, dim ond un pwynt ac un gôl sydd gan Bae Colwyn wedi tair gêm. 

Y Seintiau Newydd sy’n parhau ar frig y tabl, ond hynny ar wahaniaeth goliau’n unig ar ôl ildio gôl hwyr yn erbyn Y Barri dros y penwythnos gan orfod rhannu’r pwyntiau (YSN 2-2 Barr). 

Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y timau ers rownd gynderfynol Cwpan Cymru 2021/22 pan enillodd y Seintiau 1-0 ar y Belle Vue diolch i gôl gynnar Danny Davies.  

Ac mi fydd hi’n achlysur arwyddocaol i reolwr y Gwylanod, Steve Evans, wrth iddo wynebu ei gyn-glwb ble enillodd saith pencampwriaeth fel chwaraewr. 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ❌➖❌ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅➖ 

 

Caernarfon v Y Bala | Nos Fawrth – 19:45 

Caernarfon a’r Bala yw dau o’r pum clwb sy’n hafal ar frig y tabl gyda saith pwynt o’u tair gêm agoriadol. 

Bydd y Cofis ychydig yn rhwystredig nad ydyn nhw’n glir ar y copa ar ôl bod ar y blaen yn Hwlffordd ddydd Sadwrn nes ildio gôl wedi 96 munud, a gorfod bodloni ar bwynt yn hytrach na thri. 

Cafodd Y Bala rodd o driphwynt gan Gei Connah nos Wener, gyda golwr y Nomadiaid, John Rushton yn dyrnu unig gôl y gêm i’w rwyd ei hun. 

Mae’r Bala wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, gan golli dim ond un o’u wyth gornest flaenorol ar yr Oval. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ✅✅➖ 

Y Bala: ✅➖✅ 

 

Cei Connah v Y Drenewydd | Nos Fawrth – 19:45 

Cei Connah yw’r unig glwb o’r 12 sydd heb gael gêm gyfartal hyd yma, ac felly nhw yw’r unig dîm sydd wedi ennill a cholli y tymor yma. 

Mae’r Nomadiaid wedi colli oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd a’r Bala, ond wedi ennill yn gyfforddus o 4-0 yn erbyn Aberystwyth yn eu cartref newydd ar Gae-y-Castell. 

Mae’r Drenewydd yn hafal ar bwyntiau gyda Bae Colwyn ac Aberystwyth ar waelod y tabl, ar ôl gêm ddi-sgôr a di-fflach yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon nos Sadwrn. 

Cei Connah fydd y ffefrynnau ar ôl colli dim ond un o’u 16 gêm flaenorol yn erbyn Y Drenewydd (ennill 11, cyfartal 4). 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ❌✅❌ 

Y Drenewydd: ❌❌➖ 

 

Pen-y-bont v Met Caerdydd | Nos Fawrth – 19:45 (Arlein)

Dyma ddau dîm arall sydd gan saith pwynt ar y brig, a bydd hi’n frwydr gyffrous rhwng y clybiau orffennodd yn hafal ar bwyntiau yn y 3ydd a’r 4ydd safle y tymor diwethaf. 

Rhaid cofio bod Pen-y-bont wedi derbyn chwe phwynt o gosb llynedd, ac mae gan tîm Rhys Griffiths record gryf yn erbyn y myfyrwyr ar ôl colli dim ond un o’u pum gêm ddiwethaf yn eu herbyn (ennill 3, cyfartal 1). 

Bydd Pen-y-bont yn siomedig o fod wedi methu cyfle i guro Pontypridd nos Wener, yn enwedig gan i Ponty orffen y gêm gyda dim ond naw dyn (Pont 0-0 Pen). 

Fel Y Bala, dyw Met Caerdydd heb ildio yn eu tair gêm agoriadol, ac ond wedi sgorio dwy gôl hyd yma. 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ✅✅➖ 

Met Caerdydd: ✅➖✅ 

 

Y Barri v Hwlffordd | Nos Fawrth – 19:45 

Roedd Y Barri a Hwlffordd yn dathlu’n hwyr yn eu gemau diwethaf wrth i’r Dreigiau sgorio’n y funud olaf i gipio pwynt yn erbyn Y Seintiau Newydd, a’r Adar Gleision yn taro’n yr eiliad olaf yn erbyn Caernarfon. 

Roedd Y Barri’n colli 2-0 yn Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn tan i Ollie Hulbert rwydo wedi 85 munud, ac yna’r capten Kayne McLaggon sgoriodd wedi 96 munud i sicrhau pwynt annisgwyl yn erbyn y pencampwyr. 

Roedd Hwlffordd hefyd ar ei hôl hi, a chic rydd gywir Rhys Abbruzzese wedi 96 munud hawliodd bwynt i’r Adar Gleision yn erbyn y Cofis. 

Er y dathlu, mae’r ddau dîm yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair, a Hwlffordd fydd o bosib y mwyaf hyderus gan iddynt ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ❌➖➖ 

Hwlffordd: ➖❌➖ 

 

Aberystwyth v Pontypridd | Nos Fawrth – 20:00 

Aberystwyth a Pontypridd yw’r unig ddau dîm sydd heb sgorio hyd yma, a bydd y clybiau’n cyfarfod ar Goedlan y Parc nos Fawrth. 

Dyw Pontypridd ond wedi ildio unwaith, ond mi fydd rhaid iddyn nhw ymdopi heb Ben Ahmun a Ethan Vaughan gan i’r ddau gael eu hel o’r maes yn y gêm ddi-sgôr yn erbyn Pen-y-bont nos Wener. 

Mae Aber a Ponty wedi cael dechrau digon caled i’r tymor, ond mi fydd hon yn gêm ble bydd y ddau reolwr yn disgwyl dim llai na thriphwynt. 

Cafwyd gemau hynod gyffrous rhwng y ddau dîm y tymor diwethaf gyda Pontypridd yn taro’n hwyr i gipio pwynt ar Goedlan y Parc ym mis Chwefror (Aber 3-3 Pont), cyn i Aber dalu’r pwyth yn ôl ym mis Ebrill diolch i gôl funud olaf gan y golwr Matthew Turner (Pont 1-1 Aber). 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ❌❌➖ 

Pontypridd: ➖❌➖ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?