Tair wythnos i fynd tan yr hollt ac mae’r ras am y Chwech Uchaf yn eithriadol o agos gyda’r Cofis a Hwlffordd yn hafal ar bwyntiau yn y 6ed a’r 7fed safle.
Dydd Sadwrn, 20 Mawrth
Aberystwyth (10fed) v Y Drenewydd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Drenewydd wedi cael adfywiad ers ailddechrau’r tymor gan godi o’r ddau isaf i’r 8fed safle yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Pen-y-bont, Derwyddon Cefn a Met Caerdydd.
Dyw’r Robiniaid yn sicr ddim allan o’r ras am y Chwech Uchaf gan eu bod ond chwe phwynt y tu ôl i Hwlffordd a Chaernarfon, gyda tair gêm ar ôl i’w chwarae cyn yr hollt.
Mae’r Chwech Uchaf yn bendant allan o afael Aberystwyth, a chodi’n glir o’r ddau isaf ydi’r nod i griw Ceredigion erbyn hyn.
Dyw’r Drenewydd heb golli yn eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (ennill 3, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌❌➖✅❌
Y Drenewydd: ➖✅❌✅✅
Cei Connah (1af) v Hwlffordd (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl 12 gêm heb golli, bydd Cei Connah yn disgwyl dim llai na buddugoliaeth gartref yn erbyn Hwlffordd brynhawn Sadwrn i agor bwlch o chwe phwynt ar y copa.
Ond bydd Hwlffordd yn llawn hyder yn dilyn eu canlyniad campus yn erbyn Y Seintiau Newydd y penwythnos diwethaf (Hwl 2-1 YSN).
Mae Cei Connah wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, ond yn fwy na hynny, dyw’r Nomadiaid heb golli gartref yn y gynghrair ers dwy flynedd (25 gêm – ennill 20, cyfartal 5).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅➖✅
Hwlffordd: ❌✅✅❌✅
Met Caerdydd (9fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r myfyrwyr a’r Derwyddon wedi bod yn stryffaglu yn ddiweddar gyda’r ddau glwb wedi colli pob un o’u pum gêm ddiwethaf.
Met Caerdydd sydd â’r record ymosodol salaf yn y gynghrair (15 gôl mewn 19 gêm), a’r Derwyddon sydd â’r amddiffyn gwannaf (ildio 50 gôl mewn 20 gêm).
Y Derwyddon sydd ar waelod y tabl, ond byddai triphwynt i hogiau’r Graig yn eu codi o fewn pwynt i dîm Christian Edwards.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌❌❌❌❌
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌
Pen-y-bont (4ydd) v Y Fflint (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pen-y-bont o fewn trwch blewyn i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf, ac mae’n bosib iawn y bydd bechgyn Rhys Griffiths yn selio eu lle ddydd Sadwrn.
Ond mae’r Fflint mewn trafferthion, yn hafal ar bwyntiau gyda’r Derwyddon ar waelod y domen ar ôl colli saith o’u wyth gêm ddiwethaf.
Dim ond pythefnos sydd wedi mynd heibio ers i’r timau gwrdd am y tro cyntaf erioed gyda Nathan Wood yn sgorio unig gôl y gêm i Ben-y-bont ar Gae-y-Castell.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌❌✅➖✅
Y Fflint: ❌✅❌❌❌
Y Bala (3ydd) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 (S4C)
Daeth rhediad Y Bala o 14 gêm heb golli i ben nos Fawrth wrth i dîm Colin Caton golli o 3-1 gartref yn erbyn Cei Connah.
Mae Caernarfon yn mwynhau cyfnod o chwe gêm heb golli, ond er hynny, mae’r Cofis yn parhau i fod yn hanner isa’r tabl ar wahaniaeth goliau.
Dyw Caernarfon heb ennill yn eu pum gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (colli 4, cyfartal 1), ond bydd angen canlyniad cadarnhaol ar y Caneris ddydd Sadwrn i gadw’r pwysau ar Hwlffordd a’r Barri yn y ras am y Chwech Uchaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅✅➖✅❌
Caernarfon: ✅✅➖➖✅
Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30.