S4C

Navigation

Bydd y pum tîm uchaf yn chwarae nos Fawrth wrth i’r ras am y bencampwriaeth ddechrau cynhesu yn Uwch Gynghrair Cymru. 

Nos Fawrth, 16 Mawrth 

Pen-y-bont (5edd) v Y Barri (4ydd) | Nos Fawrth – 19:45 

Bydd y ddau dîm yn fwy na balch gyda’u canlyniadau dros y penwythnos gan i Ben-y-bont gael gêm ddi-sgôr yn erbyn Cei Connah, oedd heb ollwng pwynt ers mis Hydref, tra roedd Y Barri’n dathlu ar ôl sgorio wedi 87 munud i ennill y gêm yn erbyn Aberystwyth brynhawn Sadwrn (1-0). 

Pen-y-bont enillodd y gêm gyfatebol dim ond wythnos yn ôl gyda Sam Snaith yn sgorio’r unig gôl yn erbyn ei gyn-glwb ar ôl i Clayton Green gael ei hel o’r maes i’r Barri. 

Byddai triphwynt i’r naill dîm neu’r llall yn gam enfawr tuag at sicrhau lle yn y Chwech Uchaf. 

Record cynghrair diweddar:    

Pen-y-bont: ✅❌❌✅ 

Y Barri: ❌✅✅❌ 

 

Y Bala (3ydd) v Cei Connah (1af) | Nos Fawrth – 19:45 (Facebook / Youtube / S4C Clic) 

Ar ôl naw buddugoliaeth yn olynol, daeth rhediad rhagorol Cei Connah i ben dros y penwythnos, ond er hynny, mae’r Nomadiaid yn parhau i fod ar frig y tabl, heb golli mewn 11 gêm. 

Yn rhyfeddol, mae’r Bala ar rediad hirach o 14 o gemau heb golli, ond mae tîm Colin Caton naw pwynt y tu ôl i Gei Connah gyda gêm wrth gefn. 

Dyw Cei Connah heb golli dim un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 6, cyfartal 2), a dyw’r Bala ond wedi ennill un o’u 18 gêm ddiwethaf yn erbyn tîm Andy Morrison. 

Record cynghrair diweddar:    

Y Bala: ➖✅✅ 

Cei Connah: ✅✅✅ 

 

Y Seintiau Newydd (2il) v Derwyddon Cefn (12fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Roedd hi’n noson rwystredig i Chris Seargeant ar Ddol y Bont nos Sadwrn wrth i’r Seintiau golli yn erbyn Hwlffordd am y tro cyntaf ers 2004. 

Bydd criw Croesoswallt yn gobeithio taro nôl yn syth yn erbyn y Derwyddon, sydd heb ennill dim un o’u 21 gêm ddiwethaf yn erbyn y Seintiau (colli 19, cyfartal 2). 

Mae’r Seintiau wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon gan sgorio 26 o goliau, a Greg Draper sydd wedi sgorio hanner y goliau rheiny (13). 

Record cynghrair diweddar:    

Y Seintiau Newydd: ❌✅✅➖ 

Derwyddon Cefn: ✅❌❌❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau canol wythnos i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher am 22:00. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?