Bydd set llawn o gemau yn cael eu chwarae yn y Cymru Premier JD nos Fawrth yn cynnwys gêm fawr ar yr Oval rhwng Caernarfon a Chei Connah a brwydr ar Goedlan y Parc rhwng y ddau isaf, Aberystwyth ac Airbus UK.
Nos Fawrth, 27 Medi
Caernarfon (3ydd) v Cei Connah (4ydd) | Nos Fawrth – 19:45 (S4C arlein)
Wedi’r siom o golli yn yr eiliadau olaf yn erbyn Clyde yng Nghwpan Her yr Alban y penwythnos diwethaf, bydd Caernarfon yn falch o droi eu sylw yn ôl at y gynghrair nos Fawrth.
Ond bydd hi’n gêm galed i Gaernarfon sydd heb ennill dim un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah (colli 7, cyfartal 2).
Er hynny, mae’r Cofis wedi ennill eu pedair gêm gartref yn y gynghrair y tymor yma, tra bod Cei Connah wedi colli pob un o’u tair gêm oddi cartref.
Dim ond YSN (14) sydd wedi sgorio mwy o goliau na Chaernarfon (13) y tymor yma, a dim ond Pontypridd (3) sydd wedi sgorio llai na Chei Connah (7).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅✅❌✅✅
Cei Connah: ✅❌✅✅❌
Hwlffordd (8fed) v Met Caerdydd (5ed) | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl dechrau’r tymor yn gryf, mae Hwlffordd bellach wedi mynd ar rediad o bum gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth a dim ond dau bwynt sydd yn eu gwahanu’r Adar Gleision a safleoedd y cwymp.
Mae Met Caerdydd wedi baglu hefyd ac yn dilyn dwy golled yn olynol yn y gynghrair mae’r myfyrwyr wedi syrthio o’r ail safle i lawr i bumed.
Ond mae record Met Caerdydd yn erbyn Hwlffordd yn un cadarn, gyda’r clwb o’r brifysgol wedi colli dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision (ennill 5, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖❌❌❌✅
Met Caerdydd: ❌❌✅✅❌
Pen-y-bont (2il) v Pontypridd (10fed) | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl cychwyn y tymor yn gryf gan ennill pump o’u saith gêm gynghrair mae Pen-y-bont wedi codi i’r ail safle.
Mae Pontypridd ar y llaw arall yn cael amser caled ac wedi colli pump o’u saith gêm gynghrair ers esgyn i’r brif adran, ac heb sgorio oddi cartref hyd yma.
Dyw’r timau heb gyfarfod ers tymor 2018/19 pan enillodd Pen-y-bont eu dwy gêm yn erbyn Pontypridd yng Nghynghrair De Cymru.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅✅❌✅✅
Pontypridd: ❌✅❌❌✅
Y Drenewydd (9fed) v Y Bala (6ed) | Nos Fawrth – 19:45
Y Drenewydd yw’r tîm cyntaf i ollwng pwyntiau yn erbyn Airbus y tymor yma yn dilyn gêm gyfartal gyffrous ar y Maes Awyr nos Wener (Air 4-4 Dre).
Ar ôl ennill gêm Ewropeaidd yn yr haf roedd ‘na ddisgwyliadau mawr ar Y Drenewydd eleni i geisio gwthio tua’r brig, ond ar ôl ennill dim ond dwy o’u saith gêm agoriadol dyw’r Robiniaid ond dau bwynt uwchben y ddau isaf.
Mae’r Bala ar rediad arbennig o 10 gêm heb golli yn erbyn Y Drenewydd (ennill 9, cyfartal 1) a dyw tîm Colin Caton heb ildio yn eu pedair gêm yn erbyn y Robinaid ers dechrau’r flwyddyn, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 3-0 ar Faes Tegid yn gynharach y tymor hwn.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖❌✅✅❌
Y Bala: ✅➖✅❌✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Fflint (7fed) | Nos Fawrth – 19:45
Oherwydd problemau gyda’r cae newydd synthetig yn Y Fflint mae’r gêm hon, oedd i fod i gael ei chwarae ar Gae-y-Castell wedi ei symud i Neuadd y Parc.
Dyw’r Seintiau Newydd ond wedi ildio unwaith yn eu chwe gêm gynghrair y tymor yma, ond ar ôl perfformiad sâl yn erbyn Dundee yng Nghwpan Her yr Alban nos Wener bydd Craig Harrison yn disgwyl ymateb gan ei chwaraewyr nos Fawrth.
Mae gan Y Fflint record drychinebus yn erbyn Y Seintiau Newydd ers eu dyrchafiad (cyfartal 1, colli 5) gan ddioddef colledion trwm o 6-0, 7-0 a 10-0 yn erbyn y pencampwyr yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Fflint: ➖➖❌✅❌
Aberystwyth (11eg) v Airbus UK (12fed) | Nos Fawrth – 20:00
Wedi bron i bum mlynedd wrth y llyw ar y Maes Awyr fe gafodd Steve O’Shaughnessy ei ddiswyddo fel rheolwr Airbus dros y penwythnos, er i’r tîm ennill eu pwynt cyntaf o’r tymor yn erbyn Y Drenewydd.
Bydd yr is-reolwr, Mark Allen yn camu i’r bwlch tra bod y clwb yn chwilio am reolwr newydd, ac mae tasg gyntaf Allen yn un anferth wrth i Airbus deithio i Aberystwyth, sef y clwb sy’n eistedd un safle uwch eu pennau yn safleoedd y cwymp.
Mae Aberystwyth wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Airbus UK gan gynnwys eu buddugoliaeth yn Stadiwm Grŵp Hollingsworth ar noson agoriadol y tymor hwn (Air 1-2 Aber).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌✅❌❌❌
Airbus UK: ➖❌❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.