S4C

Navigation

Er bod Y Seintiau Newydd ar frig y tabl mae’r clwb wedi ymddiswyddo eu rheolwr Scott Ruscoe, ond pe bae Cei Connah yn llwyddo i drechu’r Fflint nos Fawrth yna bydd y Nomadiaid yn camu i’r copa. 

Nos Fawrth, 9 Mawrth 

Aberystwyth (12fed) v Hwlffordd (6ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Wedi chwe colled yn olynol roedd ‘na ryddhad i hogiau Aberystwyth brynhawn Sadwrn gan i Jamie Veale rwydo cic rydd wedi 96 munud i gipio pwynt gwerthfawr ar yr Oval (Cfon 2-2 Aber). 

Mae Aber bellach ar rediad o 10 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth, ond er hynny, tydi’r Gwyrdd a’r Duon ond un pwynt o dan diogelwch y 10fed safle. 

Dringodd Hwlffordd i’r hanner uchaf yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Met Caerdydd dros y penwythnos, a bydd y disgwyliadau ychydig yn uwch yn Nôl y Bont yn dilyn y newyddion bod cyn-gefnwr Cymru, Jazz Richards wedi ymuno â’r clwb. 

Record cynghrair diweddar:    

Aberystwyth: ❌❌❌❌ 

Hwlffordd: ✅➖❌✅ 

 

Derwyddon Cefn (11eg) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Bu rhaid i’r Derwyddon ymdopi heb eu rheolwr brynhawn Sadwrn gan bod Bruno Lopes wedi hedfan gartref i Bortiwgal ac wedi methu dychwelyd i Gymru oherwydd canllawiau Covid. 

Mi fydd Y Drenewydd yn siomedig eu bod wedi colli 2-1 yng Nghei Connah dros y penwythnos ar ôl mynd ar y blaen a chwarae gyda dyn o fantais am ran helaeth o’r gêm yn dilyn cerdyn coch Jamie Insall wedi 24 munud. 

Dyw’r Drenewydd heb golli dim un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Derwyddon Cefn, na chwaith wedi ildio mwy nac unwaith yn eu 16 gêm ddiwethaf yn erbyn hogiau’r Graig. 

Record cynghrair diweddar:    

Derwyddon Cefn: ❌✅✅❌ 

Y Drenewydd: ❌❌➖ 

 

Y Barri (4ydd) v Pen-y-bont (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 (Facebook / Youtube / S4C Clic) 

Gêm allweddol yn y ras am y Chwech Uchaf wrth i Ben-y-bont geisio bachu ar y cyfle i gamu uwchben Y Barri i’r pedwar uchaf. 

Mae’r Seintiau, Cei Connah a’r Bala eisoes wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer yr hollt, ond mae hi’n gaddo i fod yn dipyn o frwydr rhwng y pedwar clwb nesaf yn y tabl gyda dim ond pedwar pwynt yn eu gwahanu. 

Mae’r Barri wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont, a dyw tîm Gavin Chesterfield heb golli gartref ar Barc Jenner ers gêm gynta’r tymor yn erbyn Y Seintiau Newydd (ennill 5, cyfartal 2 ers hynny). 

Record cynghrair diweddar:    

Y Barri: ✅❌❌✅ 

Pen-y-bont: ✅✅❌❌ 

 

Y Fflint (10fed) v Cei Connah (2il) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae Cei Connah wedi ennill wyth gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru, a byddai buddugoliaeth arall nos Fawrth yn eu codi uwchben y Seintiau i frig y tabl. 

Ar ôl gweithio ochr-yn-ochr gydag Andy Morrison yng Nghei Connah am gyfnod, mi fydd Neil Gibson yn edrych ymlaen i groesawu ei gyn-glwb i Gae-y-Castell nos Fawrth. 

Dyw’r Fflint heb guro Cei Connah ers i’r timau gyfarfod yn yr ail haen yn 2011, ond mae angen pwyntiau ar fechgyn Y Fflint os am osgoi syrthio yn ôl i’r Cymru North y tymor nesaf. 

Record cynghrair diweddar:    

Y Fflint: ❌❌❌✅ 

Cei Connah: ✅✅✅✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau canol wythnos i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher am 22:00.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?